1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru ar 7 Hydref 2020.
4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am yr economi ymwelwyr yng ngogledd Cymru? OQ55647
Yn sicr. Mae'r economi ymwelwyr yn eithriadol o bwysig i economi Cymru, yn enwedig yng ngogledd Cymru. Rydym wedi rhyfeddu at ysbryd a dyfalbarhad y sector yn ystod yr argyfwng. Rydym wedi cydnabod hyn nid yn unig drwy roi cymorth i'r diwydiant twristiaeth drwy ddau gam cyntaf y gronfa cadernid economaidd a thrwy'r grantiau ardrethi annomestig, ond hefyd drwy glustnodi £20 miliwn, yn benodol, o gam diweddaraf y gronfa cadernid economaidd, ar gyfer y sectorau pwysig hynny.
Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Oherwydd eich diddordebau etholaethol eich hun fe fyddwch yn ymwybodol fod gan Gonwy a Sir Ddinbych economi dwristiaeth fywiog iawn. Roedd llawer o'r gweithredwyr twristiaeth a'r swyddi sy'n dibynnu ar y busnesau hynny ar eu colled dros dymor y Pasg oherwydd y cyfyngiadau symud yn gynharach eleni. Dechreuodd tymor yr haf yn hwyrach nag mewn unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig oherwydd bod Llywodraeth Cymru yn parhau i orfodi'r busnesau hynny i aros ar gau, ac wrth gwrs, maent bellach yn wynebu'r posibilrwydd, oherwydd y cyfyngiadau coronafeirws lleol, na fydd modd iddynt dderbyn unrhyw bobl sy'n teithio i Gonwy a Sir Ddinbych oherwydd y cyfyngiadau teithio a roddwyd ar waith.
Mae nifer o fusnesau wedi cysylltu â mi dros y dyddiau diwethaf ers y cyhoeddiad yr wythnos diwethaf. Maent yn bryderus iawn ynglŷn â hyfywedd eu busnesau. Dywedant y bydd pobl bron yn sicr o golli eu bywoliaeth o ganlyniad i'r cyfyngiadau hynny, ac nid ydynt yn teimlo bod digon o dystiolaeth wedi'i chyhoeddi i ddangos eu bod yn gymesur. Pa waith rydych chi'n ei wneud fel Gweinidog yr economi a Gweinidog gogledd Cymru i sicrhau bod eich cyd-Weinidogion yn y Cabinet yn cynhyrchu'r holl wybodaeth angenrheidiol fel y gall perchnogion busnesau twristiaeth a'r rhai a gyflogir ganddynt brofi'n briodol a yw'r mesurau hyn yn gymesur mewn gwirionedd?
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn a sicrhau'r Aelod bod y mesurau'n gymesur? Fel rwyf eisoes wedi dweud, maent wedi'u cynllunio i sicrhau bod cyfnod gweithredu'r cyfyngiadau cyn fyrred ag y bo modd, a gweithredu'n gynnar, gan gyfyngu ar faint o amser sydd gennym i roi'r cyfyngiadau hynny ar waith. Ddydd Llun, cyfarfûm ag aelodau o gyngor busnes gogledd Cymru, gan gynnwys cynrychiolwyr allweddol y sectorau twristiaeth a lletygarwch, ac amlinellais y rhesymau pam fod angen cyfyngiadau mewn rhannau o ogledd Cymru.
Rhaid i mi nodi, unwaith eto—ac ymdrechais yn galed i wneud hyn—pan gyfarfu'r tîm rheoli achosion lluosog yr wythnos diwethaf, ei fod wedi gwneud hynny mewn partneriaeth ac fe gytunodd fod yn rhaid cyflwyno'r cyfyngiadau. Partneriaeth rhwng arweinwyr llywodraeth leol, arbenigwyr iechyd a'r heddlu yw honno. Gallaf sicrhau'r Aelod ein bod yn bryderus iawn ynghylch hyfywedd busnesau yn y sector twristiaeth a lletygarwch, sydd mor bwysig i ogledd Cymru, a dyna pam ein bod wedi darparu pecyn cymorth mwy hael a chynhwysfawr i fusnesau yn y sectorau hynny nag unrhyw wlad yn y Deyrnas Unedig. O ganlyniad i'r cymorth hwnnw, mae dros 1,200 o ficrofusnesau a busnesau bach a chanolig yn y sectorau twristiaeth a lletygarwch, yng ngogledd Cymru'n unig, wedi cael cyllid drwy'r gronfa cadernid economaidd, a daw hwnnw'n ychwanegol at y nifer o fusnesau sydd wedi sicrhau cyllid drwy'r banc datblygu.
Mae'n werth nodi heddiw hefyd, os caf fi ddweud, Lywydd, fod y banc datblygu wedi bod yn rhyfeddol am weinyddu ei gymorth i fusnesau yng Nghymru. Gallaf ddweud wrth yr Aelodau heddiw ei fod wedi gweinyddu 1,335 o fenthyciadau busnes yn gysylltiedig â COVID; mae hynny'n cymharu â phob un banc ar y stryd fawr—pob un banc ar y stryd fawr—sydd wedi gweinyddu 1,391 yn unig ar ran Llywodraeth y DU. Felly, mae ein banc datblygu yng Nghymru wedi gweinyddu a rhoi cymorth i bron cymaint o fusnesau ag y mae pob un banc ar y stryd fawr wedi'i wneud, drwy raglen y cynllun benthyciadau tarfu ar fusnes yn sgil y coronafeirws. Mae hwnnw'n gyflawniad aruthrol. Dylem fod yn falch iawn o Fanc Datblygu Cymru.