Ymbellhau Cymdeithasol ar Drafnidiaeth Gyhoeddus

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 2:18 pm ar 7 Hydref 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:18, 7 Hydref 2020

Mae hi'n bwysig iawn, wrth gwrs, bod staff a theithwyr yn cael eu gwarchod wrth i gamau priodol gael eu cymryd, ond mae gen i bryder bod y gwasanaethau trên yn Ynys Môn yn cael eu taro'n rhy galed gan y mesurau sydd mewn lle ar hyn o bryd. Dwi'n cyfeirio'n benodol at y ffaith bod trenau, ers misoedd bellach, ddim yn stopio yn y Fali na Llanfairpwll, a hynny achos bod y platfform yn rhy fyr i allu agor dau ddrws. A wnaiff y Gweinidog ofyn i Trafnidiaeth Cymru adolygu hyn ar frys a chwilio am ffordd arall i liniaru yn erbyn lledaeniad y feirws, ffordd sydd ddim yn golygu bod y gwasanaeth lleol hanfodol yma yn cael ei golli yn gyfan gwbl? Dwi'n siŵr bod yna ffordd arall i weithredu.