Busnesau Lletygarwch

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 7 Hydref 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 2:25, 7 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ofyn i chi, Weinidog, pa drafodaethau rydych yn eu cael gyda'r sector bragdai yn ei holl amrywiaeth yng Nghymru, o ficrofragdai i'r nifer gynyddol o fragwyr annibynnol, cynhenid sy'n ychwanegu at frand Cymru fel lle ar gyfer bwyd a diod lleol o'r radd orau, fel Brecon Brewing yn Aberhonddu ac—arhoswch am hyn—yn Ogwr, i sicrhau bod popeth yn cael ei wneud i sicrhau dyfodol y busnesau lleol hyn sy'n creu swyddi wrth inni fynd i'r afael â heriau COVID? A pha drafodaethau a gawsoch gyda Llywodraeth y DU i sicrhau eu bod yn chwarae eu rhan ac yn cefnogi'r busnesau a'r swyddi hyn hefyd?