1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru ar 7 Hydref 2020.
6. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i fusnesau lletygarwch yn ystod pandemig y coronafeirws? OQ55629
Gallaf ddweud wrth yr Aelod heddiw fod 672 o ficrofusnesau a busnesau bach a chanolig yn y sector lletygarwch yng ngogledd Cymru yn unig wedi cael cyllid drwy'r gronfa cadernid economaidd, ac mae hynny'n gyfanswm o fwy na £12 miliwn. Bydd trydydd cam y gronfa cadernid economaidd yn cynnwys £20 miliwn a glustnodwyd ar gyfer busnesau ym maes twristiaeth a lletygarwch.
Diolch. Sut rydych yn ymateb i gynrychiolwyr y sector lletygarwch yng ngogledd Cymru sydd wedi gofyn i mi ddadlau'n gryf iawn ar ran gwestai a drwyddedwyd yn llawn sydd eisiau gallu gweini alcohol i breswylwyr gwestai ar ôl y cyrffyw am 10 p.m. gan bwysleisio y dylid ystyried y gwahaniaeth sylfaenol yn yr ystyr mai'r gwesty yw preswylfa swyddogol y gwesteion yn ystod eu harhosiad, eu cartref i bob pwrpas, a bod gan westy bob cymhelliad i gadw at y cyrffyw yn achos pobl nad ydynt yn aros yno er mwyn diogelu eu trwydded, ac er bod y canllawiau presennol yn dweud y gellir gweini alcohol drwy wasanaeth ystafell, mae hyn yn creu problemau gweithredol gyda staffio a bydd yn llesteirio neu'n dinistrio'r awyrgylch cyffredinol y mae gwestywyr yn ceisio'i greu, ac y bydd yr eglurhad cynnil hwn yn helpu i gadw gwestai'n hyfyw yn ystod y pandemig a'r gaeaf llwm y mae'r sector lletygarwch yn ei wynebu, ac y gallai hyn hefyd roi mantais gystadleuol fach i westai Cymru?
Rwy'n ymwybodol iawn o'r her y mae'r sector lletygarwch yn ei hwynebu ar hyn o bryd, ond mae'n rhaid i mi ddweud y gallai eithriadau bach ar eu pen eu hunain fod yn un peth, ond pan fyddwch yn creu eithriad o un grŵp o bobl ar gyfer un maes gweithgarwch penodol, caiff y drws ei chwythu ar agor wedyn i eraill fynnu eithriadau hefyd. Gyda'i gilydd, gall hynny effeithio'n fawr ar ein gallu i leihau ffigurau trosglwyddiad. Wrth gwrs, byddwn yn gwrando ar unrhyw alwadau am eithriadau, ond mae'n rhaid cael rheswm eithriadol o rymus dros ganiatáu eithriadau yn ystod y cyfnod anodd hwn, oherwydd os na chawn reolaeth ar gyfraddau trosglwyddo, yn enwedig yn yr ardaloedd lle ceir cyfyngiadau, yn anffodus byddwn yn gweld y cyfyngiadau hynny'n para'n hwy. Mae rôl i bob un ohonom, fel y mae Caroline Jones wedi amlinellu y prynhawn yma, nid yn unig i ystyried yr hyn y gallwn ac na allwn ei wneud yn ôl y gyfraith, ond hefyd yr hyn y dylem ac na ddylem ei wneud fel unigolion sy'n gyfrifol am ein gilydd. Mae hynny'n golygu gweithredu'n gyfrifol, mae'n golygu cymryd cyfrifoldeb nid yn unig am eich bywyd a'ch ymddygiad eich hun ond hefyd eich teuluoedd a'r gymuned rydym yn byw ynddi. Mae'n rhaid i ni ddod trwy hyn fel tîm, fel cymdeithas, ac felly er fy mod wedi gwrando ar alwadau am eithriadau fel yr un y mae'r Aelod wedi'i amlinellu, fel y dywedaf, byddai angen dadl rymus iawn i'w cefnogi.
A gaf fi ofyn i chi, Weinidog, pa drafodaethau rydych yn eu cael gyda'r sector bragdai yn ei holl amrywiaeth yng Nghymru, o ficrofragdai i'r nifer gynyddol o fragwyr annibynnol, cynhenid sy'n ychwanegu at frand Cymru fel lle ar gyfer bwyd a diod lleol o'r radd orau, fel Brecon Brewing yn Aberhonddu ac—arhoswch am hyn—yn Ogwr, i sicrhau bod popeth yn cael ei wneud i sicrhau dyfodol y busnesau lleol hyn sy'n creu swyddi wrth inni fynd i'r afael â heriau COVID? A pha drafodaethau a gawsoch gyda Llywodraeth y DU i sicrhau eu bod yn chwarae eu rhan ac yn cefnogi'r busnesau a'r swyddi hyn hefyd?
A gaf fi ddiolch i Huw Irranca-Davies am ei gwestiwn? Mae'n gwneud pwynt pwysig iawn—fod bragwyr annibynnol yn bwysig i'n diwylliant a'n hunaniaeth yn ogystal â'r sector bwyd a diod mewn gwirionedd. Rwyf wedi ymweld â llawer o fragwyr annibynnol ledled Cymru, ac mae eu cyfraniad i'r economi yn rhyfeddol. Maent yn greadigol, maent yn dangos llawer o benderfyniad hefyd, pan fyddant yn cystadlu yn erbyn bragwyr rhyngwladol mawr, ac felly rydym wedi gwrando'n ofalus iawn arnynt o ran pa gymorth y maent ei angen i'w cynorthwyo drwy'r pandemig hwn. Yn wir, mae Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, a'r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, wedi sefydlu grŵp rhanddeiliaid lletygarwch y maent yn ei fynychu'n rheolaidd i ystyried effeithiau'r pandemig ar y sector. Mae safbwyntiau'r grŵp hwnnw'n cyfrannu at y gwaith rwy'n ei ddatblygu yn fy adran, ac rwy'n falch o allu dweud bod safbwyntiau'r sector bragdai annibynnol wedi cyfrannu at y penderfyniad i sicrhau'r gronfa honno o £20 miliwn i fusnesau twristiaeth a lletygarwch yn benodol. Ac wrth gwrs, bydd bragwyr annibynnol yn gallu gwneud cais am grantiau datblygu busnes, a allai fod yn hynod ddefnyddiol wrth bontio i'r realiti ôl-COVID. Ond yn yr un modd, rydych yn iawn i ddweud bod gan Lywodraeth y DU rôl bwysig yn hyn, ac rydym wedi galw'n gyson ar y Canghellor i gynyddu lefel y cymorth i sectorau sydd dan gyfyngiadau'r Llywodraeth, gan gynnwys lletygarwch.
Tynnwyd cwestiwn 7 [OQ55656] yn ôl. Yn olaf, felly, cwestiwn 8—Paul Davies.