Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 7 Hydref 2020.
Diolch am yr ymateb hwnnw, Weinidog. Nawr, yn ddiweddar, ymwelais â Nolton Stables, darparwr llety a chyfleuster marchogaeth cefn gwlad yn fy etholaeth, sy'n un o nifer o fusnesau twristiaeth bach sydd mewn sefyllfa ariannol heriol iawn oherwydd pandemig COVID-19. Mewn ymateb i'r pandemig, mae'r perchnogion wedi arallgyfeirio eu busnes i gynnwys sinema gyrru i mewn fel ffordd o helpu i gynnal y busnes yn ystod y cyfnod anodd hwn. Weinidog, a wnewch chi ddweud wrthym beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn benodol i helpu busnesau i arallgyfeirio a pharhau i fod yn gystadleuol yn sgil pandemig COVID-19?