Economi Sir Benfro

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 7 Hydref 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:29, 7 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

Mae'r cynllun y mae'r busnes hwnnw wedi'i ddatblygu yn swnio'n wirioneddol arloesol. Gwn fod sinemâu ledled y DU yn ei chael hi'n anodd, ond rwy'n gobeithio y bydd y busnes y mae'r Aelod wedi'i nodi yn llwyddiannus iawn. Holl ddiben trydydd cam y gronfa cadernid economaidd yw darparu cymorth drwy gyfnodau byr o gyfyngiadau—ond hefyd drwy'r grant datblygu busnes i helpu busnesau i addasu i'r coronafeirws ac i Brexit. Felly, bydd y grantiau datblygu busnes hynny'n cael eu dyfarnu i fusnesau sydd â chynlluniau ar gyfer goroesi ac sydd hefyd yn bwriadu ffynnu ar ôl y coronafeirws, ac addasu. Gallai'r grantiau fod yn sylweddol iawn yn wir: £10,000 i fusnesau bach a microfusnesau, grantiau o hyd at £150,000 i fusnesau canolig eu maint, a £200,000 i gyflogwyr mwy o faint—pob un wedi'i gynllunio i gynorthwyo busnesau i addasu i'r coronafeirws ac i'r realiti newydd a wynebwn yn awr.