Y Rhaglen i Adfer ar Ôl y Coronafeirws ym Mlaenau Gwent

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 7 Hydref 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 2:55, 7 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ymateb. Rwy'n ddiolchgar hefyd i'r Gweinidog am ei ddatganiad ddoe. Mae Blaenau Gwent yn rhan o'r wlad, wrth gwrs, a fydd fwy ar ei cholled yn ariannol nag unrhyw fwrdeistref sirol arall, bron â bod. Mae Blaenau Gwent wedi dibynnu ar gyllid gan yr Undeb Ewropeaidd o ran cysylltedd, mewn perthynas â buddsoddiad yn y rheilffyrdd a deuoli’r A465. Mae pobl Blaenau Gwent wedi elwa o gyllid Ewropeaidd ar gyfer hyfforddiant a phrentisiaethau hefyd. Felly, mae ein lle a'n pobl wedi elwa yn y gorffennol. Gwn fod y Gweinidog wedi gweithio'n galed dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf i sicrhau y bydd y ffrydiau cyllido hyn yn cael eu cynnal, a gwn fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gwneud tro gwael ag ef ac wedi gwneud tro gwael â ninnau, ac wedi torri'r addewidion a wnaethant. Felly, sut y bydd Llywodraeth Cymru yn camu i'r adwy ar ôl i’r Torïaid dorri’r addewidion hynny, ac yn sicrhau bod gennym y gyllideb, fod arian ar gael gennym ar gyfer rhaglen hirdymor i gynnal a chefnogi pobl ym Mlaenau Gwent a'n cymunedau ym Mlaenau Gwent?