2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru ar 7 Hydref 2020.
3. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am sut y bydd rhaglen Llywodraeth Cymru i adfer ar ôl y coronafeirws o fudd i Flaenau Gwent? OQ55642
Fel y nodwyd yn y cyhoeddiad ddoe, rydym wedi ymrwymo i waith adfer sy'n gweithio i bobl Cymru, gan gynnwys Blaenau Gwent, drwy fynd i'r afael â'r materion sydd bwysicaf i ni: diweithdra, anghydraddoldebau hirsefydlog, tai fforddiadwy, adfywio canol trefi, a chefnogaeth i'r economi sylfaenol.
Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ymateb. Rwy'n ddiolchgar hefyd i'r Gweinidog am ei ddatganiad ddoe. Mae Blaenau Gwent yn rhan o'r wlad, wrth gwrs, a fydd fwy ar ei cholled yn ariannol nag unrhyw fwrdeistref sirol arall, bron â bod. Mae Blaenau Gwent wedi dibynnu ar gyllid gan yr Undeb Ewropeaidd o ran cysylltedd, mewn perthynas â buddsoddiad yn y rheilffyrdd a deuoli’r A465. Mae pobl Blaenau Gwent wedi elwa o gyllid Ewropeaidd ar gyfer hyfforddiant a phrentisiaethau hefyd. Felly, mae ein lle a'n pobl wedi elwa yn y gorffennol. Gwn fod y Gweinidog wedi gweithio'n galed dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf i sicrhau y bydd y ffrydiau cyllido hyn yn cael eu cynnal, a gwn fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gwneud tro gwael ag ef ac wedi gwneud tro gwael â ninnau, ac wedi torri'r addewidion a wnaethant. Felly, sut y bydd Llywodraeth Cymru yn camu i'r adwy ar ôl i’r Torïaid dorri’r addewidion hynny, ac yn sicrhau bod gennym y gyllideb, fod arian ar gael gennym ar gyfer rhaglen hirdymor i gynnal a chefnogi pobl ym Mlaenau Gwent a'n cymunedau ym Mlaenau Gwent?
Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn pwysig ar ran ei etholwyr, ac mae'n codi materion sy'n effeithio ar fywydau bob dydd ei etholwyr fel y maent yn effeithio ar fy mywyd innau a bywydau eraill yn y Siambr. Mae'n llygad ei le wrth ddweud y bydd ei etholaeth, ac yn wir, fy etholaeth i ac etholaethau eraill, wedi elwa'n sylweddol o rai o'r rhaglenni hynny, ac mae'n iawn i fynegi ei siom ynghylch methiant Llywodraeth y DU i gyflawni ei haddewidion i sicrhau bod Cymru'n parhau i gael y cyllid hwnnw, a bod pobl yng Nghymru yn cael gwneud y penderfyniadau dros Gymru, sef egwyddor arweiniol datganoli ac addewid y dylai Llywodraeth y DU fod yn cadw ato.
Gwyddom o'u camau diweddar yn Senedd y DU eu bod yn ceisio tanseilio hynny, wrth iddynt edrych am bwerau i wario arian yng Nghymru lle gallai Llywodraeth Cymru wario’r arian hwnnw'n well ar ran pobl Cymru. Bydd ei etholwyr ar eu colled yn rhinwedd y ffaith bod Llywodraeth y DU wedi methu cyflawni ei chyfrifoldebau ariannol presennol, boed mewn perthynas â rhwydwaith y rheilffyrdd, boed yn ymwneud â'r system ynni neu gysylltedd digidol—mae pob un o'r rheini’n bethau sy’n cael eu tanariannu'n aruthrol, ac maent yn gyfrifoldebau i Lywodraeth y DU.
Yr hyn rydym yn ceisio’i wneud yw dadlau’r achos y dylai Llywodraeth y DU gadw ei haddewidion mewn perthynas â hyn fel y gallwn barhau i gefnogi cymunedau fel Blaenau Gwent gyda rhaglenni yn y dyfodol, ond hefyd, fel y bydd wedi’i weld yn y ddogfen a gyhoeddwyd ddoe, i geisio ysgogi’r economi er budd pob rhan o Gymru, gan gynnwys Blaenau Gwent, o fuddsoddi mewn ysgolion, yn y gwaith o gynnal a chadw ffyrdd, yn y seilwaith iechyd, y seilwaith gofal, mewn tai ac mewn gwaith uwchraddio ynni. Mae pob un o’r rheini wedi’u cynllunio i ysgogi’r economi, i helpu pobl i gadw swyddi ac i ddod o hyd i swyddi newydd, ac mae hynny'n ganolog i'r her y bydd y Llywodraeth yn ceisio mynd i’r afael â hi dros y misoedd nesaf.