Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 2:44 pm ar 7 Hydref 2020.
Wel, bydd yr Aelod yn ymwybodol ein bod wedi modelu effaith yr ystod o senarios y gallem eu hwynebu ar economi Cymru a busnesau Cymru yn gyson, ac mae cryn dipyn o ddadansoddiadau’n seiliedig ar dystiolaeth wedi’u cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru. Ar hyn o bryd, fel y bydd wedi fy nghlywed yn dweud wrth David Rees yn gynharach, rydym yn awyddus i sicrhau bod busnesau yng Nghymru yn ymwybodol, ymhlith yr ystod o bwysau eraill y maent yn eu hwynebu ar hyn o bryd, o'r angen i baratoi ar gyfer diwedd y cyfnod pontio. Rydym yn parhau i ddiweddaru'r porth Brexit. Rydym yn parhau i sicrhau bod cyllid ar gael i gefnogi busnesau. Mae iteriad diweddaraf y gronfa cadernid economaidd yn cadw llygad ar COVID yn ogystal â pharodrwydd ar gyfer Brexit, gan fod angen ystyried pob agwedd ar y pethau hyn, fel y gwn fod yr Aelod yn cytuno. Y dasg ar hyn o bryd yw ceisio tywys busnesau tuag at hynny, ac wrth i'r darlun ddod yn gliriach—a gwn y byddwch yn rhannu fy siom na allwn ddarparu darlun cliriach ar hyn o bryd—bydd gan fusnesau well gobaith, fel petai, o allu gwneud y paratoadau hynny, ond ni ddylai unrhyw un ohonom danbrisio maint yr her honno a maint y baich y mae’n ei roi ar fusnesau ledled Cymru.