2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 2:42 pm ar 7 Hydref 2020.
Llefarwyr y pleidiau sydd nesaf. Felly, llefarydd Plaid Cymru, Dai Lloyd.
Diolch yn fawr, Lywydd. Weinidog, mae Llywodraeth Cymru, yn gwbl deg, wedi beirniadu'r Bil marchnad fewnol fel enghraifft amlwg o gipio grym, a dywedwch y byddwch yn gwrthwynebu hynny bob cam o'r ffordd. Fe fyddwch yn ymwybodol fod ASau Plaid Cymru wedi cynnig gwelliant i’r Bil yn San Steffan a fyddai wedi diogelu'r setliad datganoli drwy atal y Bil rhag dod i rym oni bai fod y deddfwrfeydd datganoledig yn rhoi eu cydsyniad. Nawr, er gwaethaf cefnogaeth drawsbleidiol yr SNP, y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Blaid Werdd, penderfynodd ASau Llafur ymatal. Nawr, a ydych yn cytuno bod ASau Llafur wedi gwneud anghymwynas fawr â Chymru drwy fethu cefnogi gwelliant a oedd yn gwbl gyson â pholisi Llywodraeth Lafur Cymru? A ydych hefyd yn cytuno eu bod wedi colli cyfle i wneud safiad trawsbleidiol cryf i amddiffyn datganoli? Ac a allwch egluro sut y mae hyn yn cyd-fynd â safbwynt datganedig y Blaid Lafur y byddent yn gwrthwynebu'r Bil bob cam o'r ffordd?
Yn sicr, Lywydd, ceir enghreifftiau o welliannau a gyflwynwyd gan y Blaid Lafur i amddiffyn datganoli nad yw Plaid Cymru wedi eu cefnogi yn Senedd y DU. Byddwn yn annog yr Aelod y dylem fod yn chwilio am ffyrdd o weithio gyda'n gilydd ar y pwynt hwn. Mae gennym berthynas gynhyrchiol iawn â Phlaid Genedlaethol yr Alban. Mae'n berthynas aeddfed a chydweithredol sy'n cydnabod y gall Llywodraethau o wahanol liwiau gwleidyddol weithio gyda'i gilydd pan fo ganddynt ddiddordeb cyffredin. Rwy'n gobeithio, ar ryw bwynt, y gallwn berswadio Plaid Cymru i gael yr un math o berthynas gyda ni yng Nghymru.
Wrth gwrs, mae'r Bil yn cynyddu'r tebygolrwydd o Brexit heb gytundeb. Yr wythnos hon, mae arweinwyr busnes yn rhybuddio eto am beryglon 'dim cytundeb' i fusnesau sydd eisoes yn fregus ac yn dioddef effeithiau'r pandemig ar hyn o bryd. Felly, pa asesiadau a wnaethoch o’r bygythiadau niferus sy'n wynebu busnesau yng Nghymru pe baem yn cael Brexit heb gytundeb? Ac onid ydych yn cytuno y dylid dod â'r dadansoddiad hwnnw i'r Siambr hon ar fyrder?
Wel, bydd yr Aelod yn ymwybodol ein bod wedi modelu effaith yr ystod o senarios y gallem eu hwynebu ar economi Cymru a busnesau Cymru yn gyson, ac mae cryn dipyn o ddadansoddiadau’n seiliedig ar dystiolaeth wedi’u cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru. Ar hyn o bryd, fel y bydd wedi fy nghlywed yn dweud wrth David Rees yn gynharach, rydym yn awyddus i sicrhau bod busnesau yng Nghymru yn ymwybodol, ymhlith yr ystod o bwysau eraill y maent yn eu hwynebu ar hyn o bryd, o'r angen i baratoi ar gyfer diwedd y cyfnod pontio. Rydym yn parhau i ddiweddaru'r porth Brexit. Rydym yn parhau i sicrhau bod cyllid ar gael i gefnogi busnesau. Mae iteriad diweddaraf y gronfa cadernid economaidd yn cadw llygad ar COVID yn ogystal â pharodrwydd ar gyfer Brexit, gan fod angen ystyried pob agwedd ar y pethau hyn, fel y gwn fod yr Aelod yn cytuno. Y dasg ar hyn o bryd yw ceisio tywys busnesau tuag at hynny, ac wrth i'r darlun ddod yn gliriach—a gwn y byddwch yn rhannu fy siom na allwn ddarparu darlun cliriach ar hyn o bryd—bydd gan fusnesau well gobaith, fel petai, o allu gwneud y paratoadau hynny, ond ni ddylai unrhyw un ohonom danbrisio maint yr her honno a maint y baich y mae’n ei roi ar fusnesau ledled Cymru.
Gallai'r—[Anghlywadwy.]—gael effaith drychinebus ar y GIG—[Anghlywadwy.]
Dai Lloyd, a allwch ailddechrau'r cwestiwn, os gwelwch yn dda? Mae'n ddrwg gennyf, nid oeddem yn gallu eich clywed drwy eich cysylltiad Zoom. Felly, rhowch gynnig arni eto a chawn weld lle rydym yn cyrraedd.
Ymddiheuriadau, Lywydd. Rwy'n siarad yn dawel yn naturiol, yn amlwg. [Chwerthin.]
Yr wythnos hon, mae Cymdeithas Feddygol Prydain wedi rhybuddio y gallai Brexit heb gytundeb effeithio'n drychinebus ar y GIG, gyda phryderon amlwg ynghylch y cyflenwad o gynhyrchion fferyllol, dyfeisiau meddygol a chyfarpar diogelu. Gwyddom fod Llywodraeth Cymru wedi adeiladu warws Brexit o gyflenwadau meddygol, a bod y cyflenwadau hyn wedi cael eu defnyddio fel rhan o’r ymateb i COVID. Nawr, yn gynharach eleni, rhybuddiodd y diwydiant fferyllol fod rhai cyflenwadau wedi'u defnyddio i gyd. Pa sicrwydd y gallwch ei roi, felly, ynghylch lefelau argaeledd meddyginiaethau yn warws Brexit, o gofio y gallem wynebu Brexit heb gytundeb ymhen ychydig fisoedd?
Diolch i Dai Lloyd am godi'r cwestiwn pwysig hwn yn y Siambr heddiw. Mae hyn yn amlwg yn flaenoriaeth allweddol i ni fel Llywodraeth. Ac fel gyda chamau paratoi blaenorol, mae rhai o'r atebion yn berthnasol i’r DU gyfan ac mae rhai ohonynt ar gyfer Cymru'n benodol. Felly, mewn perthynas â meddyginiaethau yn gyntaf, fel y cyfeiria atynt yn ei gwestiwn, mae pob un o bedair Llywodraeth y DU mewn trafodaethau ynghylch parhad cyflenwadau. Mae rhywfaint o hynny’n ymwneud â gwasanaethau cludo nwyddau’n gyflym, ac mae rhywfaint yn ymwneud ag ymateb i darfu ar gyflenwadau. Ond rydym yn cymryd camau ychwanegol yng Nghymru i roi sicrwydd ychwanegol i ni'n hunain mewn perthynas â hynny, ac mae rhywfaint o hynny, fel yr awgryma ei gwestiwn, yn ymwneud â dysgu o brofiad COVID-19.
Mewn perthynas â chyflenwadau meddygol, boed yn ddyfeisiau meddygol neu ddefnyddiau traul clinigol, er enghraifft—ac mae hyn, gyda llaw, yn ymwneud â'r GIG yn ogystal â rhannau o'r sector gofal cymdeithasol, am resymau y bydd yn eu deall—rydym yn adolygu ac yn ailgyflenwi cyflenwadau Cymru o ddyfeisiau meddygol a defnyddiau traul clinigol. Rydym yn profi ac yn mireinio'r cynlluniau a oedd gennym ar waith ddiwedd y llynedd rhag ofn y byddem yn gadael heb unrhyw fath o gytundeb. Ac fel yr awgryma ei gwestiwn, rydym yn dal i elwa'n sylweddol iawn o fuddsoddiad yn y cyfleuster warws storio ac IP5 ger Casnewydd, sy'n parhau i allu rhoi cymorth i ni gyda’n gwaith paratoi.
Llefarydd y Ceidwadwyr nesaf—Darren Millar.
Diolch, Lywydd. Rwyf am ofyn rhai cwestiynau mewn perthynas â chyfrifoldeb y Gweinidog dros yr adferiad wedi COVID. Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi'i rhoi i bobl hŷn fel rhan o brosiect Llywodraeth Cymru i ailadeiladu'n ôl yn well?
Rydym yn cydnabod bod effaith COVID ar grwpiau amrywiol yng Nghymru wedi bod yn anghyfartal. Mae pobl hŷn ymhlith y rheini a byddwn yn fframio ein hymateb yng ngoleuni hynny er mwyn gallu sicrhau bod pobl hŷn ledled Cymru yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt yn ein hymateb.
Diolch am eich ateb, Weinidog, ond prin yw’r dystiolaeth hyd yma eich bod yn cymryd effaith y coronafeirws ar bobl hŷn o ddifrif. Cefais fy synnu’n fawr pan welais y ddogfen a gyhoeddwyd ddoe ar yr heriau a’r blaenoriaethau wrth ailadeiladu ar ôl y coronafeirws, nad oedd yn cynnwys unrhyw gyfeiriad at bobl hŷn. Rwy'n deall eich bod wedi cynnal nifer o gyfarfodydd bord gron, gan gynnwys un o’r enw, ac rwy'n dyfynnu, 'Cynllunio ar gyfer adferiad Economaidd a Chymdeithasol ar ôl y pandemig Coronafeirws: Atodiad 2: Grwpiau Agored i Niwed’. Ac eto, nid oedd hyd yn oed y cyfarfod bord gron penodol hwnnw'n cynnwys unrhyw un o swyddfa'r comisiynydd pobl hŷn. Mewn gwirionedd, deallaf na chafodd y comisiynydd pobl hŷn wahoddiad i gyfarfod â chi, ac mewn gwirionedd, bu’n rhaid i’w swyddfa wneud cais i gyfarfod â chi, a dim ond bryd hynny y gwnaethoch gyfarfod â hi i drafod ei phryderon ynglŷn â’r effaith ar bobl hŷn. Felly, a gaf fi ofyn i chi: pam fod gennych chi fel Llywodraeth Cymru fan dall mewn perthynas â phobl hŷn pan ddaw'n fater o'u cynnwys yn eich ymdrechion i ailadeiladu ar ôl COVID?
Wel, yn sicr, nid wyf yn derbyn rhagosodiad cwestiwn yr Aelod. Boed mewn perthynas â heriau ynysu, y gefnogaeth sydd ei hangen i bobl a warchodir, efallai, y gefnogaeth sydd ei hangen gan sefydliadau'r trydydd sector, y set benodol o ymyriadau sydd ei hangen gan wasanaethau cyhoeddus i gydnabod profiad pobl hŷn yn y pandemig hwn, boed yn gydnabod y cyfraniad penodol y mae gwirfoddolwyr hŷn wedi gallu ei wneud mewn ffordd bositif iawn i gefnogi pobl eraill yn eu cymunedau yn ystod y cyfnod hwn, boed yn gydnabyddiaeth benodol o anghenion pobl hŷn a allai fod mewn perygl o golli eu swyddi a chefnogaeth arbennig y gallai fod ei hangen arnynt wedi'i theilwra ar gyfer pobl sy’n agosáu at ddiwedd eu bywyd gwaith—mae pob un o'r rheini'n gwbl hanfodol i'r ymyriadau rydym wedi'u gwneud hyd yma a'n trafodaethau parhaus.
Rwyf wedi cyfarfod â’r comisiynydd pobl hŷn. Ni allaf roi sicrwydd iddo mewn perthynas â pha swyddfa a gysylltodd â pha unigolyn mewn perthynas ag unrhyw un o'r nifer fawr iawn o gyfarfodydd rydym wedi'u cynnal gyda rhanddeiliaid mewn perthynas â hyn, ond yn sicr, teimlwn fod y drafodaeth gyda’r comisiynydd pobl hŷn a gafwyd yn gymharol gynnar, rwy'n credu, yn gynhyrchiol iawn, a dangosai ein bod yn meddwl ar hyd yr un llinellau mewn ffordd dda a chadarnhaol iawn.
Mae'n braf iawn clywed eich geiriau caredig am bobl hŷn yn awr; mae'n drueni na chafodd yr un ohonynt eu cynnwys yn unrhyw un o'r dogfennau a gyhoeddwyd gan eich swyddfa ddoe. Ac wrth gwrs, ni chyfeirioch chi at bobl hŷn ychwaith yn eich datganiad i’r Senedd hon. Ac efallai, a bod yn onest, pe baech wedi rhoi mwy o gefnogaeth i fy Mil hawliau pobl hŷn pan gafodd ei gyflwyno gerbron y Senedd hon, efallai y byddem mewn sefyllfa ychydig yn wahanol. Gallaf roi sicrwydd i chi fod swyddfa'r comisiynydd wedi dweud yn glir wrthyf y bu’n rhaid iddi wneud cais i'ch swyddfa am gyfarfod, a chawsoch un yn y pen draw, ac nid y ffordd arall.
Edrychwch, gŵyr pob un ohonom fod pobl hŷn wedi wynebu canlyniadau difrifol o ganlyniad i'r pandemig, ac mewn gwirionedd, ei fod wedi cael effaith anghymesur arnynt. Gwyddom eu bod yn fwy tebygol o farw, yn fwy tebygol o ddioddef salwch difrifol, yn fwy tebygol o orfod hunanynysu, yn fwy tebygol o ddioddef effaith unigrwydd o ganlyniad i'r pandemig. Ac wrth gwrs, maent yn fwy tebygol o ddioddef yn sgil yr oedi hirach byth a fydd yn ein hwynebu rhag cael mynediad at brofion a thriniaethau'r GIG o ganlyniad i'r ôl-groniad yn ein gwasanaeth iechyd yn sgil y pandemig. Nawr, nid yw'r cynllun adfer a gyhoeddwyd gennych ddoe, er eich holl eiriau cynnes heddiw, yn mynd i'r afael ag unrhyw un o'r heriau hynny. Felly, gofynnaf i chi: a wnewch chi gytuno â mi yn awr fod angen cyfarfod bord gron pellach sy'n canolbwyntio'n benodol ar anghenion pobl hŷn, gan ddod ag arbenigwyr ynghyd, yn cynnwys y comisiynydd pobl hŷn a rhanddeiliaid pwysig eraill o’r trydydd sector a'r sector cyhoeddus, fel y gallwn sicrhau ein bod yn gwneud hyn yn iawn ac y gall pobl hŷn fod yn hyderus fod Llywodraeth Cymru’n gwrando ar eu pryderon ac yn mynd i’r afael â hwy, nid eu hanwybyddu, fel rydych wedi bod yn ei wneud hyd yma, a bod yn onest?
Wel, mae ystod barhaus o ymgysylltu’n mynd rhagddo â rhanddeiliaid mewn perthynas â'r ddogfen hon. Fel y dywedais ddoe yn fy natganiad, dyma ddechrau sgwrs genedlaethol, ac mae'r sgwrs rydym wedi'i chael wedi bod yn gyfoethog, mae wedi cynnwys ystod o leisiau, weithiau'n ganmoliaethus, weithiau'n fwy heriol, fel y mae’r pethau hyn, ac rydym yn croesawu hynny oll, a byddwn yn parhau ar yr un sail i ymgysylltu â phawb y mae COVID yn effeithio arnynt yng Nghymru ac i wrando ar eu lleisiau, ac i adlewyrchu eu lleisiau’n ffyddlon yn ein hystyriaethau.
Rwy'n gwahodd yr Aelod i edrych ar dudalen 22 yn y ddogfen, lle bydd yn gweld blaenoriaeth 8, sy’n sôn am gynorthwyo’r GIG i adennill tir a gollwyd o ran trin cyflyrau nad ydynt yn gysylltiedig â’r coronafeirws, ac sy’n nodi nifer o ymyriadau ar waelod y dudalen honno y bydd y Llywodraeth yn ymgymryd â hwy. Nid wyf yn gwybod a gyrhaeddodd mor bell â hynny yn y ddogfen, ond mae'n cyfeirio'n benodol at ailgyflwyno gwasanaethau rheolaidd, ac rydym yn cydnabod hynny’n llwyr, fel pob Aelod rwy'n siŵr. Mae pobl sydd wedi bod yn aros yn hirach o ganlyniad wedi gwneud eu cyfraniad penodol eu hunain yn yr ymateb i COVID, ac mae'r Llywodraeth hon yn cydnabod hynny'n llwyr. Fel y soniais yn fy ymateb i’w gwestiwn ddoe, bydd y Gweinidog iechyd, wrth gwrs, yn gwneud datganiadau pellach mewn perthynas â hyn yn ychwanegol at y datganiad a wnaed yn ddiweddar am y cynllun diogelu ar gyfer y gaeaf.
Cwestiwn 3—triwch eto, Alun Davies.
Diolch yn fawr iawn am eich amynedd, Lywydd.