Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 7 Hydref 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:53, 7 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

Wel, mae ystod barhaus o ymgysylltu’n mynd rhagddo â rhanddeiliaid mewn perthynas â'r ddogfen hon. Fel y dywedais ddoe yn fy natganiad, dyma ddechrau sgwrs genedlaethol, ac mae'r sgwrs rydym wedi'i chael wedi bod yn gyfoethog, mae wedi cynnwys ystod o leisiau, weithiau'n ganmoliaethus, weithiau'n fwy heriol, fel y mae’r pethau hyn, ac rydym yn croesawu hynny oll, a byddwn yn parhau ar yr un sail i ymgysylltu â phawb y mae COVID yn effeithio arnynt yng Nghymru ac i wrando ar eu lleisiau, ac i adlewyrchu eu lleisiau’n ffyddlon yn ein hystyriaethau.

Rwy'n gwahodd yr Aelod i edrych ar dudalen 22 yn y ddogfen, lle bydd yn gweld blaenoriaeth 8, sy’n sôn am gynorthwyo’r GIG i adennill tir a gollwyd o ran trin cyflyrau nad ydynt yn gysylltiedig â’r coronafeirws, ac sy’n nodi nifer o ymyriadau ar waelod y dudalen honno y bydd y Llywodraeth yn ymgymryd â hwy. Nid wyf yn gwybod a gyrhaeddodd mor bell â hynny yn y ddogfen, ond mae'n cyfeirio'n benodol at ailgyflwyno gwasanaethau rheolaidd, ac rydym yn cydnabod hynny’n llwyr, fel pob Aelod rwy'n siŵr. Mae pobl sydd wedi bod yn aros yn hirach o ganlyniad wedi gwneud eu cyfraniad penodol eu hunain yn yr ymateb i COVID, ac mae'r Llywodraeth hon yn cydnabod hynny'n llwyr. Fel y soniais yn fy ymateb i’w gwestiwn ddoe, bydd y Gweinidog iechyd, wrth gwrs, yn gwneud datganiadau pellach mewn perthynas â hyn yn ychwanegol at y datganiad a wnaed yn ddiweddar am y cynllun diogelu ar gyfer y gaeaf.