Bil Marchnad Fewnol y DU

Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 7 Hydref 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:59, 7 Hydref 2020

Diolch yn fawr iawn. Mae yna bryder mawr y gallai'r Bil arwain at symud masnach o Gaergybi i borthladdoedd yn Lloegr a'r Alban sy'n mynd yn syth i Ogledd Iwerddon, ac, efo traean o draffig Caergybi-Dulyn yn mynd i neu o Ogledd Iwerddon, mae'r bygythiad yna'n amlwg, ac mae hynny ar ben y perygl o fwy o groesiadau yn mynd yn syth o Iwerddon i gyfandir Ewrop. Ond ar ben hynny, dwi wir yn bryderus am effaith y checks ychwanegol fydd eu hangen ar lorïau. Dwi wedi rhybuddio ers y dechrau does yna ddim lle yn y porthladd. Dydy Llywodraeth Prydain prin wedi talu unrhyw sylw i Gaergybi o'i gymharu â Dover, er enghraifft. Rŵan, efo wythnosau i fynd, maen nhw'n tyrchu o gwmpas am le ac yn cynnig lleoliadau cwbl amhriodol, fel cyffiniau Sioe Môn, fyddai'n golygu traffig trwm drwy gymunedau gwledig Môn 24 awr y dydd. Rŵan, dwi'n gwybod bod Llywodraeth Cymru mewn trafodaethau efo'r cyngor sir am hyn, ond allwch chi roi sicrwydd i ni eich bod chi, fel fi a'r cyngor a'm cyd-Aelodau Plaid Cymru yn San Steffan, yn pwyso ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn y ffordd gryfaf posib i wneud yn siŵr bod popeth yn cael ei wneud i ddiogelu llif masnach drwy Gaergybi ac i sicrhau dyfodol porthladd sydd mor bwysig i Ynys Môn ac i Gymru gyfan?