2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru ar 7 Hydref 2020.
4. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o effaith Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig ar borthladd Caergybi? OQ55632
Fel y mae hi, mae Bil marchnad fewnol y Deyrnas Gyfunol arfaethedig yn ymosodiad ar ddatganoli ac fe fydd yn andwyol i Gymru gyfan. Mae elfennau yn y mesur sy'n creu risg penodol i’n porthladdoedd, yn cynnwys Caergybi, ac fe wnawn y gorau gallwn ni i sicrhau nad yw hynny'n digwydd.
Diolch yn fawr iawn. Mae yna bryder mawr y gallai'r Bil arwain at symud masnach o Gaergybi i borthladdoedd yn Lloegr a'r Alban sy'n mynd yn syth i Ogledd Iwerddon, ac, efo traean o draffig Caergybi-Dulyn yn mynd i neu o Ogledd Iwerddon, mae'r bygythiad yna'n amlwg, ac mae hynny ar ben y perygl o fwy o groesiadau yn mynd yn syth o Iwerddon i gyfandir Ewrop. Ond ar ben hynny, dwi wir yn bryderus am effaith y checks ychwanegol fydd eu hangen ar lorïau. Dwi wedi rhybuddio ers y dechrau does yna ddim lle yn y porthladd. Dydy Llywodraeth Prydain prin wedi talu unrhyw sylw i Gaergybi o'i gymharu â Dover, er enghraifft. Rŵan, efo wythnosau i fynd, maen nhw'n tyrchu o gwmpas am le ac yn cynnig lleoliadau cwbl amhriodol, fel cyffiniau Sioe Môn, fyddai'n golygu traffig trwm drwy gymunedau gwledig Môn 24 awr y dydd. Rŵan, dwi'n gwybod bod Llywodraeth Cymru mewn trafodaethau efo'r cyngor sir am hyn, ond allwch chi roi sicrwydd i ni eich bod chi, fel fi a'r cyngor a'm cyd-Aelodau Plaid Cymru yn San Steffan, yn pwyso ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn y ffordd gryfaf posib i wneud yn siŵr bod popeth yn cael ei wneud i ddiogelu llif masnach drwy Gaergybi ac i sicrhau dyfodol porthladd sydd mor bwysig i Ynys Môn ac i Gymru gyfan?
Wel, mae'r Aelod yn llygad ei le yn codi'r testun yma yn y ffordd y mae e'n ei godi fe. Rwy'n cytuno â'i ddadansoddiad e. Mae risg sylweddol ynglŷn â hyn. Rŷn ni wedi colli cyfnod sylweddol ar ddechrau eleni lle gallen ni fod wedi bod yn gwneud y trefnu a'r gwaith a sicrhau bod hyn yn digwydd mewn ffordd synhwyrol sy'n cael ei chynllunio, nid yn y ffordd mae'n cael ei wneud nawr.
O ran cyfathrebu gyda Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol ar hyn, roeddwn i mewn cyfarfod ddoe yn gwneud yr union bwyntiau y mae'r Aelod wedi eu hargymell nawr i sicrhau bod gwaith yn mynd rhagddo ar frys i edrych ar leoliad addas, i sicrhau bod hynny'n digwydd mewn partneriaeth gyda ni fel Llywodraeth a gyda llywodraeth leol, a gyda'r cwmnïau, gyda llaw, sy'n defnyddio'r porthladd a'r porthladd eu hun, a hefyd y cwestiwn yma o ba checks sy'n digwydd. Rwy'n mynd i ysgrifennu at y Llywodraeth yn San Steffan i gael sicrwydd bod yr un math o checks yn digwydd yn Lloegr ac yn yr Alban yn lle ein bod ni'n cael sefyllfa lle bod incentive i lorïau fynd ar hyd llwybrau gwahanol, ac rwy'n gwybod bod hynny ar flaen meddwl yr Aelod hefyd. Felly, rŷn ni yn pwyso ar hyn. Rŷn ni hefyd yn dal yn aros am wybodaeth oddi wrth y Llywodraeth yn San Steffan am effaith trafnidiaeth yn gorfod oedi yn y porthladd, y tu allan i'r porthladd, a fydd yn hollol greiddiol i'r trefniadau rŷn ni'n eu gwneud ar lawr gwlad yno. Felly, gallaf i roi'r sicrwydd iddo fe ein bod ni yn codi'r pethau yma yn rheolaidd. Mae gyda ni gyfarfod gweinidogol y prynhawn yma i drafod hyn, oherwydd ei fod e mor bwysig.