Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru am 3:03 pm ar 7 Hydref 2020.
Rwy'n ddiolchgar iawn i Guido Fawkes am ddatgelu mai rhagdybiaethau cynllunio cyfnod pontio Llywodraeth y DU—a fydd yn cadarnhau fy ofnau gwaethaf y bûm yn eu lleisio dros y misoedd diwethaf—yw y byddai methu cael cytundeb masnach â'r Undeb Ewropeaidd yn arwain at gyfyngu ar y cyflenwad, cynnydd yn y galw am gynhyrchion bwyd-amaeth, ac mae'n debyg mai effaith yr aflonyddwch hwn, rwy'n dyfynnu, fyddai llai o gyflenwad, yn enwedig rhai cynhyrchion ffres.
Credaf efallai mai'r peth mwyaf annymunol am y wybodaeth a godwyd yn gynharach gan fy nghyd-Aelod, Alun Davies, yw bod y gwas sifil yn nodi yn y ddogfen hon eu bod wedi cael cyfarwyddyd i beidio â rhannu'r rhagdybiaeth ag awdurdodau datganoledig, ond roeddent yn cydnabod y bydd yn effeithio ar awdurdodau datganoledig a'u cynlluniau. Nawr, nid ydym yn sôn am hedfan cafiar i mewn o'r Môr Du—rydym yn sôn am lysiau a ffrwythau bob dydd y daethom i ddibynnu arnynt o ganlyniad i fod mewn marchnad sengl am 40 mlynedd. Felly, mae hyn yn ddifrifol dros ben. Felly, yn ogystal â cheisio cael cyfarfod ar unwaith gyda Michael Gove ynglŷn â pham y caiff gwybodaeth ei chadw'n ôl rhag y gweinyddiaethau datganoledig, beth y gallwn ei wneud yn awr i geisio osgoi'r trychineb posibl hwn i bobl gyffredin a'u bwyd dyddiol?