2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel y Gweinidog Pontio Ewropeaidd) – Senedd Cymru ar 7 Hydref 2020.
7. Pa gyflwyniadau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gwneud i ymchwiliad Tŷ'r Cyffredin i gymorth cyfreithiol, o ystyried pryderon ynghylch anawsterau o ran cael gafael ar gymorth cyfreithiol yn ystod pandemig COVID-19? OQ55653
Cyflwyniad y Llywodraeth i'r ymchwiliad fydd tynnu sylw Pwyllgor Cyfiawnder Tŷ'r Cyffredin at adroddiad y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru. Disgrifiodd y comisiwn sefyllfa enbyd, ac rydym yn debygol o ddarganfod y bydd wedi dirywio ymhellach yn ystod pandemig COVID-19.
Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol. Adroddwyd yn eang ein bod, yn ystod cyfyngiadau symud COVID-19, wedi gweld cynnydd yn nifer yr achosion o gam-drin domestig. Mae cymorth cyfreithiol ar gael o hyd ar gyfer achosion ysgariad lle digwyddodd cam-drin domestig, oherwydd mae Llywodraeth y DU yn cydnabod, yn aml, er mwyn sicrhau bod y cysylltiad rhyngddynt a'u camdrinwyr yn cael ei dorri'n ddiogel ac yn llwyr, y bydd yn rhaid i unigolyn fynd i'r llys i gael ysgariad, setliad ariannol, neu'n bwysicaf oll, i wneud trefniadau priodol ar gyfer gweld eu plant.
Pan gafodd budd-daliadau plant eu capio ar ddau blentyn, gwnaeth Llafur lawer o'r ffaith y gallai fod yn rhaid i fenywod â thrydydd plentyn a anwyd yn sgil trais rhywiol brofi eu bod wedi cael eu treisio neu ateb cwestiynau personol iawn pe bai angen eu heithrio o'r cap ar fudd-daliadau. Teimlai Llafur y gallai'r broses atal menywod rhag hawlio, ac i'r rhai a wnaeth hynny, gallai'r cwestiynau beri gofid iddynt. Fodd bynnag, gallai'r un peth fod yn berthnasol i bobl sydd wedi cael eu cam-drin ac angen cymorth cyfreithiol i gael ysgariad mawr ei angen. Efallai eu bod yn teimlo embaras diangen ynglŷn â dioddef camdriniaeth. Efallai y byddant yn teimlo bod yn rhaid iddynt brofi ei fod wedi digwydd. Efallai nad ydynt wedi rhoi gwybod i'r heddlu, a byddant yn pryderu y gallai crybwyll honiadau o'r fath waethygu'r sefyllfa eto, rhywbeth y maent yn byw mewn ofn yn ei gylch.
Nawr rwy'n sylweddoli nad yw cymorth cyfreithiol wedi'i ddatganoli, ond yr hyn sydd wedi'i ddatganoli yw gallu eich Llywodraeth i helpu pawb sydd wedi goroesi cam-drin domestig, yn enwedig y rhai sy'n teimlo gormod o ofn i ddweud beth sydd wedi digwydd iddynt. Am y rheswm hwnnw, a wnewch chi ystyried ceisio dod o hyd i'r gyllideb i ariannu eiriolaeth mewn achosion ysgariad? Byddai gosod prawf modd ar unrhyw gymorth yn ddealladwy, ond peidiwch â gorfodi pobl sy'n cael eu cam-drin i dynnu sylw at eu statws, oherwydd mae yna lawer ohonynt na fyddant yn gwneud hynny, a byddant hwy a'u plant yn parhau i ddioddef o ganlyniad.
Wel, mae'r Aelod yn gwneud cyfres o bwyntiau pwysig iawn, ac rwy'n gwerthfawrogi'r ffordd y mae'n codi'r mater hynod sensitif hwn. Byddai cynllun cymorth cyfreithiol wedi'i gynllunio'n dda yn mynd i'r afael â'r heriau y mae'r Aelod yn eu codi yn ei chwestiwn. Rydym ymhell iawn o allu gwneud hynny yn sgil toriadau yn y gyllideb dros y blynyddoedd diwethaf ar lefel Llywodraeth y DU. Byddem am fod mewn sefyllfa yng Nghymru lle byddai'r materion hynny yn ein dwylo ni, fel y gallem gynllunio system i fynd i'r afael â'r union fathau o heriau y mae Michelle Brown yn eu crybwyll yn ei chwestiwn. Lle rydym wedi gallu ymyrryd a darparu gwasanaethau cynghori a chymorth ar gyfer trais domestig, fe fydd hi'n gwybod ein bod wedi gallu gwneud hynny. Ond mae angen ymyrraeth sylweddol iawn ar y mathau o ymyriadau y mae'n eu disgrifio, ac yn sicr dyna pam, os yw Llywodraeth y DU yn dymuno, fel petai, parhau â chadw'r pwerau hyn yn ôl, mae'n ddyletswydd arnynt i ddarparu'r cyllid ar gyfer y lefelau o ddiogelwch sydd eu hangen ar unigolion yn yr amgylchiadau hynny. Ond hoffwn ei chyfeirio at y ddogfen a gyhoeddwyd gennym ddoe, sy'n cydnabod bod nifer yr achosion o drais domestig wedi cynyddu yn ystod y misoedd diwethaf, a byddwn yn ceisio cefnogi gwasanaethau trais domestig ymhellach o fewn yr adnoddau sydd gennym, fel y nodwyd yn y ddogfen ddoe.
Ac yn olaf, cwestiwn 8, Helen Mary Jones.