Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:24 pm ar 7 Hydref 2020.
Yn bendant, gallaf gynnig y sicrwydd hwnnw i Helen Mary Jones. Yn ddiweddar iawn, cefais beth llwyddiant yn cadw rhai cyfleoedd gwaith yn ffatri Laura Ashley, eto ym Mhowys, lle credaf ein bod wedi gallu edrych ar nifer o gyfleoedd a gallu cefnogi'r cyfle sydd wedi arwain yn y pen draw at gadw nifer o bobl. A byddwn yn gwneud yn union yr un fath gyda'r safle hwn. Mae'n hanfodol oherwydd, fel y dywedodd Helen Mary Jones, mae 129 o swyddi mewn cymuned mor fach â Llanfyllin fel 1,000 o swyddi mewn cymuned o faint dinas fach neu dref fawr. Felly, mae'n hanfodol bwysig ein bod yn gwneud yr hyn a allwn i gadw'r swyddi, os gellir cyflawni hynny.