3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru ar 7 Hydref 2020.
1. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i Stadco yn dilyn newyddion ei fod yn bwriadu cau ei ffatri yn Llanfyllin, gan effeithio ar 129 o weithwyr? TQ486
Wel, a gaf fi fynegi fy nghydymdeimlad â phawb sy'n gweithio ar y safle? Mae hyn, yn ddealladwy, yn newyddion dinistriol, ac mae fy swyddogion mewn cysylltiad uniongyrchol â'r cwmni, ac maent yn archwilio'r holl opsiynau posibl a'r cymorth sydd ar gael.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Hwn, wrth gwrs, yw'r cyflogwr mwyaf yn ardal Llanfyllin, ac mae'n ergyd ddifrifol i Lanfyllin ac i'r holl deuluoedd yr effeithir arnynt yn y ffatri. Yn ôl yr hyn a ddeallaf o siarad â'r cynghorydd sir lleol, Peter Lewis, mae'r cwmni, sy'n eiddo i Magna International, yn bwriadu ailstrwythuro ei weithgarwch yn y DU, a bydd hyn yn effeithio ar 129 o bobl a fydd yn colli eu swyddi.
Yr hyn sy'n arbennig o drist yw mai dim ond yn ddiweddar y gwnaeth y cwmni fuddsoddiad o £2 filiwn yn y ffatri—gwnaeth hynny y llynedd—ac roedd wedi bwriadu gwneud buddsoddiad pellach o £2 filiwn y flwyddyn nesaf. Nawr, gwyddom i gyd, wrth gwrs, fod y pandemig yn effeithio'n sylweddol ar y diwydiant gweithgynhyrchu ceir, ac mae hyn, wrth gwrs, yn cael effaith ganlyniadol ar gwmnïau fel Stadco, ond gwn y cytunwch â mi pan ddywedaf y dylai'r hyn a oedd yn fusnes llwyddiannus a hyfyw yn 2019 fod yn fusnes llwyddiannus yn 2021. Mae Stadco yn gwmni rhy bwysig yng ngogledd Powys i ni ganiatáu iddo gau heb wneud pob ymdrech i ddod o hyd i ateb ymarferol.
Mor aml, clywn am ddiswyddiadau'n digwydd ar unwaith. Yn yr achos hwn, ni fydd y diswyddiadau'n dod yn weithredol tan ddiwedd 2021. Felly, rwy'n falch o glywed bod eich swyddogion eisoes wedi siarad â'r cwmni, ond tybed a allech chi amlinellu hefyd beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud, o'ch sgyrsiau â'ch swyddogion, beth arall y gallant ei wneud yn ystod y cyfnod ymgynghori hwn i geisio yn y pen draw—ceisio—diogelu'r swyddi yn y ffatri hon.
A gaf fi ddiolch i Russell George am ei gwestiynau ac am y pwyntiau y mae'n eu gwneud, a hynny'n briodol, am bwysigrwydd y safle hwn i'r gymuned y mae'n ei gwasanaethu a'r gymuned sy'n dibynnu arno am swyddi sy'n talu'n dda? Mae ein tîm rhanbarthol eisoes yn gweithio i edrych ar sut y gallwn gefnogi'r gymuned. Mae gennym berthynas dda gyda'r cwmni. Rydym wedi cynnig cyfarfod ar y cyd gyda hwy a Fforwm Modurol Cymru, a diben y cyfarfod hwnnw yw archwilio pob opsiwn posibl ar gyfer cadw'r ffatri a nodi unrhyw ffrydiau gwaith amgen.
Ein dealltwriaeth ni yw mai'r rhesymeg y tu ôl i'r penderfyniad yw y bu dirywiad cyffredinol yn y diwydiant modurol—bod gormod o gapasiti a bod hyn wedi'i waethygu gan y coronafeirws. Ond mae'r Aelod yn llygad ei le eu bod wedi buddsoddi yn y safle yn ddiweddar. Wrth gwrs, ddwy flynedd yn ôl, gwnaed ymdrech debyg i gyfuno gan y busnes pan gaeodd eu safle yn Amwythig. Fe wnaethant barhau â'r gwaith yma yng Nghymru, yn Telford ac yn Castle Bromwich, ond yn ôl yr hyn a ddeallaf, yn ogystal â chynnig cau'r safle ym Mhowys, maent yn ystyried torri niferoedd staff yn y ddau safle arall hefyd.
Mae fy swyddogion eisoes wedi cyfarfod ag uwch reolwyr adnoddau dynol ac rydym wedi'u cyfeirio at gymorth perthnasol, gan gynnwys, wrth gwrs, cyllid ReAct a rhaglenni cyflogadwyedd ehangach Llywodraeth Cymru. Ond gallaf sicrhau Russell George, fod ein ffocws ar gadw'r ffatri a diogelu'r swyddi. Mae gennym gyfnod ymgynghori o 45 diwrnod a byddwn yn archwilio pob cyfle a allai fodoli ar gyfer y busnes hwn.
Dylwn ddweud fy mod wedi cael cyfarfod â Fforwm Modurol Cymru bythefnos yn ôl hefyd, lle buom yn trafod cyflwr y diwydiant. Yn amlwg, gyda heriau niferus, mae'r sector yn profi ansicrwydd a phryder mawr, ond croesawyd y cynllun gweithgynhyrchu a gyhoeddwyd gennym yn eang; dylai allu cefnogi'r sector.
Ond os collir y swyddi yn y pen draw, byddwn yn gweithredu cymorth ReAct, a bydd hynny'n cynnwys cynnig grantiau i gaffael sgiliau newydd; bydd yn cynnig ad-dalu costau teithio a chostau gofal plant tra byddant yn hyfforddi; ac wrth gwrs, bydd cymorth recriwtio i gyflogwyr ar gael, gyda chynnig o hyd at £3,000 i gyflogwyr sy'n recriwtio pobl yr effeithiwyd arnynt. Ond yn y pen draw, rydym am helpu'r safle i aros ar agor a byddwn yn archwilio pob opsiwn ar gyfer gwneud hynny.
A gaf fi ddiolch i Russell George am gyflwyno'r cwestiwn pwysig hwn i'r Gweinidog heddiw? Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am bob dim a ddywedodd ynglŷn â'r hyn a wnaed hyd yma. A gaf fi ofyn iddo fod yn gwbl glir y bydd ef a'i swyddogion mor hyblyg â phosibl ynglŷn ag unrhyw gymorth busnes posibl i alluogi'r swyddi hyn i gael eu cadw?
Mae 129 o swyddi mewn cymuned o faint Llanfyllin yn cyfateb i rai cannoedd, miloedd hyd yn oed, mewn cymuned fwy o faint. Er fy mod yn deall yr hyn a ddywed am ReAct, nid oes llawer o gyfleoedd i bobl gael gwaith arall yn ddigon agos at eu cartrefi ar hyn o bryd. Felly, a all roi sicrwydd i ni heddiw y bydd ef a'i swyddogion mor hyblyg â phosibl, os oes unrhyw bosibilrwydd y byddai buddsoddiad ychwanegol gan y Llywodraeth yn galluogi'r cwmni i aros?
Yn bendant, gallaf gynnig y sicrwydd hwnnw i Helen Mary Jones. Yn ddiweddar iawn, cefais beth llwyddiant yn cadw rhai cyfleoedd gwaith yn ffatri Laura Ashley, eto ym Mhowys, lle credaf ein bod wedi gallu edrych ar nifer o gyfleoedd a gallu cefnogi'r cyfle sydd wedi arwain yn y pen draw at gadw nifer o bobl. A byddwn yn gwneud yn union yr un fath gyda'r safle hwn. Mae'n hanfodol oherwydd, fel y dywedodd Helen Mary Jones, mae 129 o swyddi mewn cymuned mor fach â Llanfyllin fel 1,000 o swyddi mewn cymuned o faint dinas fach neu dref fawr. Felly, mae'n hanfodol bwysig ein bod yn gwneud yr hyn a allwn i gadw'r swyddi, os gellir cyflawni hynny.
Joyce Watson.
Diolch, Lywydd, a diolch i chi am dderbyn y cwestiwn hwn heddiw, oherwydd gofynnais am ddatganiad ddoe. Ond yr hyn sy'n bwysig yma, rwy'n meddwl, yw nodi dwy ffaith. A'r gyntaf, mae'n ymddangos i mi, yw mai'r 129 o bobl a gyflogir yma oedd yr olaf i wybod, ac ni ddylai hynny byth ddigwydd. Felly, i symud ymlaen o hynny, Weinidog, clywais yr hyn a ddywedoch chi, rydych yn gweithio gyda gwahanol bobl, ond mae'n amlwg fod rôl i'r undebau llafur yma yn ogystal â'r sector preifat.
Rydych yn dweud bod cyfnod ymgynghori o 45 diwrnod a grantiau ReAct i gaffael sgiliau newydd, ond un peth sy'n fy nharo yn yr ardal yw bod gallu enfawr ym Mhowys i arloesi, yn enwedig gyda sgiliau newydd. Gallem gysylltu'r arloesi hwnnw â'r ardal benodol hon gyda'r sgiliau penodol hyn drwy'r rhaglen ReAct ar gyfer y dyfodol, er mwyn atal diboblogi pellach yn yr ardal. Oherwydd mae'n ardal sy'n profi diboblogi cynyddol, ac mae'r holl dystiolaeth yno i gefnogi hynny. Felly, byddai'n waeth na 129 o swyddi pe bai'n rhaid i'r teuluoedd sy'n gysylltiedig â'r rheini symud allan o'r ardal i ddod o hyd i waith. Felly, mae'n debyg mai fy nghwestiwn yw hwn: defnyddio'r arloesi sy'n bodoli yn ardal Powys i hyrwyddo'r newid rydym wedi'i weld yn digwydd yn weddol gyflym, y newid y sonioch chi amdano yn eich adroddiad ddoe, a defnyddio'r cyfleuster i gadw'r bobl yno, ond yn fwy na hynny, i dyfu swyddi er mwyn atal y diboblogi rhag gwaethygu.
Mae Joyce Watson yn gwneud nifer o bwyntiau pwysig, ac wrth gwrs gall rôl yr economïau sylfaenol fod yn hollbwysig yn y gymuned. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth fod yna fusnesau bach sy'n gallu nodi sut y bu'r cwmni yn eu cefnogi, p'un a ydynt yn y gadwyn gyflenwi fodurol yn uniongyrchol neu'n siop bapur, cigydd neu bobydd lleol. Bydd hyn yn cael effaith, pe bai'r cyfleuster yn cau a swyddi'n cael eu colli, ar nifer o fusnesau llai yn yr ardal. Dyna pam rwy'n credu ei bod yn bwysig inni edrych ar yr her yn ei chyfanrwydd a defnyddio'r tîm rhanbarthol i archwilio'r effaith ehangach ar y gymuned a busnesau bach yn yr ardal.
Mae Joyce Watson yn llygad ei lle: gallai'r bartneriaeth gymdeithasol a chyfranogiad yr undebau fod yn hollbwysig o ran sicrhau bod gweithwyr yn cael y gefnogaeth gywir, nid cyfeirio'n unig at gyfleoedd a chymorth o fathau eraill i gael mynediad at gyllid ReAct a chyfleoedd sgiliau, ond cymorth emosiynol hefyd yn awr, oherwydd bydd hwn yn gyfnod eithriadol o anodd i bobl. Mae'r cyhoeddiad wedi dod wrth inni edrych tuag at y Nadolig; mae wedi dod ar adeg pan fo'n debygol y collir cryn dipyn o swyddi yn sgil y coronafeirws, felly bydd mwy o gystadleuaeth am gyfleoedd.
Ond un peth y byddwn yn ei ddweud sy'n eithaf cadarnhaol yw bod y rhai yr effeithir arnynt—pe baent yn colli eu swyddi, pe baent yn colli'r gwaith y maent wedi gallu ei fwynhau ers cryn dipyn o amser, byddant yn gallu cael cymorth fel rhan o'r ymyrraeth cyflogadwyedd a sgiliau gwerth £40 miliwn a gyhoeddais yn ddiweddar, ac mae hynny'n cynnwys gwasanaeth paru swyddi. Yn amlwg, bydd llai o gyfleoedd yn y rhan wledig honno o Gymru nag a allai fod mewn ardal fwy trefol, ond byddwn yn ymdrechu i baru cynifer o bobl ag sy'n bosibl—os byddant yn colli eu swyddi ar ddiwedd y cyfnod ymgynghori—â chyfleoedd eraill i gael gwaith medrus sy'n talu'n dda.
Diolch i'r Gweinidog. Mae'r cwestiwn nesaf i'w ateb gan y Gweinidog iechyd, ac i'w ofyn gan Andrew R.T. Davies.