Part of the debate – Senedd Cymru am 3:47 pm ar 7 Hydref 2020.
Diolch, Lywydd dros dro. Rwy'n ddiolchgar i'r ddau Aelod a gyfrannodd at y ddadl ac i Vikki Howells am gydnabod a chefnogi canfyddiadau'r adroddiad. Rwyf wedi gwrando ar sylwadau Siân Gwenllian ac rwy'n siŵr y cânt eu bwydo i mewn i'r adolygiad y mae'r pwyllgor yn ei gynnal i'r cod, a byddwn yn croesawu cyfraniad unrhyw Aelod arall i'r adolygiad y mae'r pwyllgor yn ei gyflawni ar hyn o bryd. Rwyf hefyd yn croesawu cymeradwyaeth Siân Gwenllian i ganfyddiadau'r pwyllgor a'r adroddiad. Rwy'n cynnig yr adroddiad yn ffurfiol.