Part of the debate – Senedd Cymru am 3:43 pm ar 7 Hydref 2020.
Rwy'n derbyn adroddiad y pwyllgor a'i argymhellion. Nid oeddwn erioed yn bwriadu torri'r canllawiau sydd ar waith. Rwy'n falch bod y Pwyllgor Safonau Ymddygiad wrthi'n adolygu amryw o faterion, gan gynnwys y canllawiau a ddarperir i Aelodau. Rwy'n gobeithio y bydd hyn yn sicrhau bod y rheolau'n glir, yn rhesymol ac yn ddealladwy yn y dyfodol, fel nad oes Aelodau eraill yn canfod eu hunain yn y sefyllfa hon yn anfwriadol.