8. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd — 'Diwygio'r Senedd: Y camau nesaf'

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:51 pm ar 7 Hydref 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Dawn Bowden Dawn Bowden Labour 3:51, 7 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd dros dro. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r Pwyllgor Busnes am drefnu'r ddadl hon heddiw, oherwydd yng nghyd-destun y pandemig COVID, wrth gwrs, mae'r rhan fwyaf o fusnes y Senedd, yn briodol, yn canolbwyntio ar sut y gallwn gynorthwyo ein pobl, ein cymunedau a'n heconomi yn yr amserau digynsail hyn. Serch hynny, mae'r materion cyfansoddiadol rydym yn mynd i'r afael â hwy yn ein hadroddiad yn ganolog i ddemocratiaeth yng Nghymru, a'n gallu, fel Aelodau o'r Senedd, i gyflawni ein rolau cynrychioliadol, deddfwriaethol a chraffu. Felly, rwy'n croesawu'r cyfle i drafod y materion hyn gyda'r Aelodau.

Ym mis Gorffennaf y llynedd, cawsom ddadl ar faint o Aelodau ddylai fod yn y ddeddfwrfa hon a sut y dylid eu hethol. Penderfynodd y Senedd, gyda mwyafrif clir, fod angen mwy o Aelodau, ond cytunwyd bod angen gwneud rhagor o waith i ystyried sut y gellid cyflawni hynny. Sefydlwyd y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd wedyn ym mis Medi 2019. Gofynnodd y Senedd i ni archwilio'r argymhellion a wnaed gan y panel arbenigol ar ddiwygio etholiadol y Cynulliad.

Yn ystod ein gwaith, clywsom dystiolaeth glir a grymus fod y Senedd yn rhy fach ar hyn o bryd, y dylai ei haelodaeth fod yn fwy amrywiol, fod y system etholiadol bresennol yn cyfyngu ar ddewis pleidleiswyr ac atebolrwydd Aelodau a'i bod yn amhriodol nad oes mecanwaith ar gyfer adolygu ffiniau'r Senedd. Nid oes amser heddiw i mi amlinellu'r holl argymhellion, sy'n cynnwys, er enghraifft, y dylid ethol rhwng 80 a 90 o Aelodau o'r Senedd drwy'r bleidlais sengl drosglwyddadwy, y dylid rhoi trefniadau ar waith i adolygu ffiniau'r Senedd yn barhaus, y dylid rhoi ymyriadau gwirfoddol a deddfwriaethol ar waith i oresgyn yr anghydraddoldebau strwythurol a'r rhwystrau cymdeithasol sy'n rhwystr rhag cael Senedd fwy amrywiol, a bod angen inni wneud mwy i gynyddu lefelau ymwybyddiaeth a dealltwriaeth y cyhoedd o'r hyn y mae'r Senedd yn ei wneud a sut y mae ei gwaith yn gwneud gwahaniaeth i'r materion sydd o bwys i bobl.

Mae cost ynghlwm wrth fuddsoddi yn ein democratiaeth a byddai'n rhaid craffu'n ofalus ar y costau hynny wrth i'r Senedd ystyried unrhyw Fil diwygio. Ond ar sail yr amcangyfrifon y mae'r Llywydd wedi'u paratoi ar ein cyfer a'r dystiolaeth rydym wedi'i chael, credwn fod y gost ychwanegol nid yn unig yn bris sy'n werth ei dalu, ond mae'n fuddsoddiad angenrheidiol yn ein prosesau a'n sefydliadau democrataidd. Ar sail y dystiolaeth a glywsom, credwn y byddai Senedd fwy o faint yn gosteffeithiol. Byddai'n gwella safon llywodraethiant yng Nghymru, yn gwella trosolwg a chraffu ar Lywodraeth Cymru ac yn arwain at bolisi mwy effeithiol, gwariant mwy effeithlon a gwell deddfwriaeth.

Gallai hyd yn oed gwelliannau ymylol i wariant neu werth wrthbwyso cost deddfwrfa fwy o faint. Ond ni fyddwn yn gweld y gwelliannau hyn, ac ni fydd gan y Senedd a etholir yn 2026 nifer priodol o Aelodau i gyflawni ei chyfrifoldebau pwysig oni bai bod pleidiau gwleidyddol yn gallu dod i gonsensws ar gynigion i ddiwygio a chytuno i roi camau deddfwriaethol ar waith yn gynnar yn y chweched Senedd.

Yn 2017, cydnabu'r panel arbenigol nad oedd yna amser perffaith ar gyfer gwneud newidiadau cyfansoddiadol ac etholiadol, ond gofynnai'r cwestiwn: os nad nawr, pryd? Heriodd y Senedd i fod yn feiddgar ac i fanteisio ar y cyfle hwn i ddiwygio'r sefydliad, i fywiogi democratiaeth Cymru ac i ennyn brwdfrydedd ac ysgogi pleidleiswyr fel bod etholiad 2021 yn darparu deddfwrfa sydd â'r gallu i gynrychioli'r bobl a'r cymunedau y mae'n eu gwasanaethu ac yn dod yn Senedd Cymru sy'n gweithio go iawn ar ran pobl Cymru.

Mae'r pwerau i ddiwygio ein Senedd wedi bod yn ein dwylo ers 2018. Mae'r camau cyntaf yn y broses ddiwygio eisoes wedi'u cymryd, ac o ganlyniad bydd pobl ifanc 16 a 17 oed yn gallu pleidleisio am y tro cyntaf yn etholiad y flwyddyn nesaf. Fodd bynnag, mae gennym ragor i'w wneud cyn y gallwn ddweud ein bod wedi grymuso ein Senedd yn llawn i ddiwallu anghenion y rhai y mae'n eu cynrychioli—pobl Cymru. Credwn fod ein hadroddiad yn cynnig cynllun i arwain y chweched Senedd wrth iddi gymryd y camau nesaf yn y broses ddiwygio honno. Fodd bynnag, rydym yn realistig; gwyddom fod mwy i'w wneud i ennyn diddordeb y cyhoedd yn y materion hyn, a gwyddom fod gan Aelodau a phleidiau ar draws y Siambr safbwyntiau gwahanol. A gwyddom fod y rhain yn faterion gwleidyddol sensitif y mae'n anodd dod i gonsensws arnynt.

Fodd bynnag, fel deddfwyr ac Aelodau etholedig, mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i gydweithio i fuddsoddi yn ein democratiaeth yng Nghymru a'i chryfhau. Mae'r dystiolaeth yn glir: oni bai fod deddfwriaeth yn cael ei chyflwyno yn gynnar yn y chweched Senedd, rydym mewn perygl o fethu sicrhau y gall ein deddfwrfa barhau i gyflawni'n effeithiol ar gyfer pobl Cymru. Mae perygl y byddwn yn colli'r cyfle i sicrhau bod y gwaith o graffu ar bolisi, deddfwriaeth, gwariant a threthiant yn cael ei lywio gan safbwyntiau pobl o amrywiaeth eang o gefndiroedd. Ac mae perygl y byddwn yn colli'r cyfle i rymuso ac ennyn diddordeb pleidleiswyr drwy gyflwyno system etholiadol sy'n rhoi cymaint o ddewis â phosibl i'r pleidleiswyr, yn egluro atebolrwydd Aelodau ac yn sicrhau canlyniadau tecach a mwy cyfrannol.

Wrth gyhoeddi ein hadroddiad, rwy'n annog pob Aelod a phob plaid wleidyddol i fyfyrio ar y dystiolaeth ac i ystyried ein casgliadau a'n hargymhellion yn llawn. Credaf y gall y chweched Senedd gydweithio i ddod i gytundeb ar y camau nesaf ar gyfer diwygio'r Senedd ac i sicrhau bod ein Senedd yn parhau i fod wrth wraidd democratiaeth ffyniannus yng Nghymru. Diolch yn fawr.