Part of the debate – Senedd Cymru am 4:17 pm ar 7 Hydref 2020.
Diolch i'r pwyllgor am gyflwyno'r ddadl heddiw, a hefyd am yr adroddiad mawr a llawn gwybodaeth a gynhyrchwyd ganddynt. Nawr, roedd Huw'n sôn am y ffyrdd newydd o weithio a chredaf fod pob un ohonom yn dysgu ar y foment sut i weithredu o dan y normal newydd fel y'i gelwir. Mae'n anffodus fod argyfwng enfawr COVID-19 wedi digwydd pan wnaeth, pan oedd y pwyllgor ar ddiwygio etholiadol eisoes wedi gorffen y rhan fwyaf o'i waith, oherwydd bydd COVID yn cael effaith fawr ar sut y gweithiwn yn y dyfodol, ac nid yw'r effaith honno wedi llywio canfyddiadau'r adroddiad hwn mewn unrhyw ffordd. Nid bai'r pwyllgor yw hynny, wrth gwrs; amseru anffodus yn unig ydyw.
Fel y dywedais, mae hwn yn adroddiad swmpus sydd wedi archwilio nifer o faterion a oedd o ddiddordeb i'r pwyllgor yn drylwyr. Y broblem yw nad oedd atebion eraill, fel cynllunio'n fanwl sut i barhau i weithredu gyda 60 o Aelodau, o fawr ddim diddordeb iddo. Felly, prin fod yr adroddiad yn cyffwrdd â hyn. Fel y soniodd Huw, mae'n sôn ychydig am hynny, ond y rhagdybiaeth sylfaenol yw y bydd yn rhaid inni yn y pen draw gael bron i 90 o Aelodau yma. Felly, mae arnaf ofn fod yn rhaid i mi anghytuno'n llwyr â'r rhagdybiaeth hon.
Yr obsesiwn â chael Aelodau ychwanegol oedd man cychwyn yr adroddiad hwn, felly mae'n debyg i'r hen jôc pan fydd rhywun ar wyliau moduro dramor ac maent yn gofyn i rywun lleol, 'A allwch chi ddweud wrtha i pa ffordd yw'r gyflymaf i ganol y ddinas?', ac mae'r unigolyn lleol yn dweud, 'Wel, fyddwn i ddim yn dechrau o'r fan hon.' Dyna fy mhroblem gyda'r adroddiad hwn: ni fyddwn wedi dechrau o'r fan hon. Ni fyddwn wedi dechrau o'r rhagdybiaeth na all y lle hwn weithredu'n iawn heb 25 i 30 Aelod arall. Rydym yn eistedd yma am ddeuddydd yn y Cyfarfod Llawn bob wythnos. Yn Nhŷ'r Cyffredin, maent yn eistedd am bedwar diwrnod yr wythnos. Cawn ein talu bron gymaint ag Aelodau Seneddol; yn sicr, telir cyflog amser llawn inni. Felly, os ydym yn orlwythog â gwaith, pam nad ydym yn cael Cyfarfod Llawn am fwy na deuddydd yr wythnos?
Un broblem fawr yw busnes pwyllgorau. Mae hwn yn fater o bwys. Ond pan drafodwyd hyn gennym yn 2017, awgrymais y gellid edrych ar nifer y pwyllgorau, nifer y cyfarfodydd pwyllgor a nifer yr Aelodau Cynulliad y byddai'n rhaid iddynt eistedd ar bwyllgorau. Cafodd fy sylwadau eu trin braidd yn ddeifiol. Ac wele, ychydig fisoedd yn ddiweddarach cawsom ad-drefnu a phenderfynodd y Pwyllgor Busnes nad oedd angen wyth Aelod ar bwyllgorau wedi'r cyfan; gallem gael chwech.
Felly, o gofio hynny, a gawn ni edrych yn awr hefyd ar nifer y pwyllgorau sydd gennym neu'n fwy defnyddiol efallai, faint o waith sy'n cael ei wneud? Gallem geisio lleihau nifer y cyfarfodydd pan fyddwn yn gwneud y blaenraglen waith oherwydd fel y gwyddom, mae gwaith yn ehangu i lenwi'r amser sydd ar gael. Dyfynnwyd tyst yn dweud hynny yn yr adroddiad hwn. Pan fydd pwyllgorau wedi'u sefydlu, maent yn hoffi teimlo'n bwysig, ac maent yn hoffi cael rhaglen waith lawn, ond gadewch inni fod yn onest: nid ydym yn trafod deddfwriaeth drwy'r amser ar bwyllgorau, ydym ni?
Hyd yn oed os ydym yn dadlau am ddeddfwriaeth, pa les fyddai Aelodau ychwanegol yn ei wneud? Rydym yn gweithredu yma mewn system wleidyddol bleidiol gyda chwipiaid pleidiau. Caiff Aelodau eu chwipio o ran sut i bleidleisio ar ddeddfwriaeth. Nid dim ond eistedd yno a gwrando ar y dystiolaeth a phenderfynu drostynt eu hunain wedyn sut y bwriadant bleidleisio a wnânt —dywedir wrthynt sut i bleidleisio gan chwipiaid y pleidiau. Pe bai gennych 20 Aelod Llafur arall yma, pa les fyddai hynny'n ei wneud? Ni fyddent yn darparu lefel uwch o graffu gan y byddai'r Aelodau ychwanegol hynny'n dal i gael gwybod sut i bleidleisio gan chwipiaid eu plaid. Byddai'r system yr un fath pe bai gennym 60 o Aelodau, 90 Aelod neu 100 o Aelodau, a byddem yn dal i weld gwelliannau da gan y gwrthbleidiau'n cael eu gwrthod gan y Llywodraeth. Dyna realiti gwleidyddiaeth plaid, ac mae'r realiti hwnnw'n cael ei anwybyddu'n llwyr yn yr adroddiad hwn.
Mae hwn yn gyfnod o ansicrwydd ym maes cyllid cyhoeddus. Mae pobl yn y byd go iawn yn colli eu swyddi a'u bywoliaeth. Dyma'r adeg waethaf un i geisio argyhoeddi'r cyhoedd o'r angen am 30 yn fwy o Aelodau i'r Siambr hon, ar gost o filiynau o bunnoedd y flwyddyn. Am y rheswm hwnnw, er fy mod yn gwerthfawrogi'r gwaith sydd wedi'i wneud yn yr adroddiad hwn, rhaid imi wrthwynebu ei ganfyddiadau'n llwyr. Mae llawer o aelodau o'r cyhoedd yn dod i'r casgliad nad oes arnom angen 90 o Aelodau o'r Senedd. Nid oes angen 60 arnom hyd yn oed. Nid oes angen unrhyw Aelodau o'r Senedd, gan nad ydym angen y lle hwn. Ond peidiwch ag ymddiried yn fy marn i; gofynnwch i'r cyhoedd eu hunain yn uniongyrchol mewn refferendwm os ydynt am gael 30 Aelod arall, neu a fyddai'n well ganddynt ddiddymu'r Cynulliad yn gyfan gwbl. Gwn pa ffordd y byddwn i'n pleidleisio. Diolch yn fawr iawn.