Part of the debate – Senedd Cymru am 4:21 pm ar 7 Hydref 2020.
Allaf i ddiolch i'r Cadeirydd am ei chyflwyniad arbennig ar y cychwyn ac i glercod ac ymchwilwyr y pwyllgor am eu gwaith dygn a chaled dros fisoedd lawer? Nawr, ffurfiwyd y pwyllgor yma wedi penderfyniad gan y Senedd yma. Dwi'n gresynu, felly, nad oedd pob plaid wedi cymryd rhan yng ngweithgareddau'r pwyllgor, er taw penderfyniad y Senedd oedd o. Dylid parchu penderfyniadau y Senedd hon.
Roedd mwyafrif llethol y dystiolaeth fanwl a dderbyniasom dros fisoedd yn darogan bod angen mwy o Aelodau ar y Senedd yma a bod angen eu hethol gan system o gynrychiolaeth gyfrannol STV. Hyn i gyd i wella craffu. Mae gwell craffu yn creu gwell deddfwriaeth a hefyd yn arbed arian. Dyna beth ddywedodd adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru yn ddiweddar ar y mater hefyd. Yn wir, arbed digon o arian i ariannu'r Aelodau ychwanegol.
Ond, wrth gwrs, mae yna bobl sydd yn gwrthwynebu hyn i gyd. Rydym ni wedi eu clywed nhw. Gwrthwynebu holl fodolaeth y Senedd yma er canlyniad dau refferendwm, gyda refferendwm 2011 yn dangos bod 64 y cant o boblogaeth Cymru o blaid mwy o bwerau i'r Senedd yma. Er hynny, mae yna bobl yn dal i wrthwynebu cydnabod Cymru fel endid gwleidyddol o gwbl, yn enwedig wedi Brexit. Maent eisiau cael gwared â'n Senedd, cael gwared â'n gwlad, a'n sgubo ni i ffwrdd o wyneb daear a mynd â ni'n ôl i ryw oes aur dyddiau'r ymerodraeth Brydeinig lle nad oedd yr haul yn machlud ar y coch ar y map yn yr ysgol.
Ond mae Cymru wedi goroesi er yr holl ormes, a byddwn yn dal i oroesi. Ond mae angen cryfhau ein strwythurau gwleidyddol. Mae angen cryfhau ein Senedd. Ie, drwy gael mwy o Aelodau o wahanol gefndiroedd gyda mwy o bwerau. Mae 60 o Aelodau yn fan hyn, yn llai na nifer o'n cynghorau sir. Mae 72 o gynghorwyr sir yn siambr cyngor dinas Abertawe er mwyn Duw; 90 o Aelodau o'r Cynulliad Deddfwriaethol yng Ngogledd Iwerddon; a 797 o Arglwyddi yn Nhŷ'r Arglwyddi, yn cynyddu'n wastadol, heb etholiad, yn ddyddiol, a gwario £5 biliwn i drwsio San Steffan a neb yn grwgnach dim. Na, yr ydym wedi gwrthsefyll cael ein dileu fel Cymry o wyneb daear ers wyth canrif bellach. Cryfhau ein Senedd ydy'r cam nesaf ac annibyniaeth yn y pen draw: dyna ydy'r unig ateb i'r holl rymoedd hynny sy'n ceisio cael gwared â'n Senedd a'n gwlad. Diolch yn fawr.