9. & 10. Dadl: Egwyddorion Cyffredinol y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) a'r Penderfyniad Ariannol ynghylch y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru)

Part of the debate – Senedd Cymru am 7:16 pm ar 13 Hydref 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour 7:16, 13 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl heddiw, fel Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau. Hoffwn ddiolch i bawb a roddodd dystiolaeth i helpu i lywio ein gwaith, yn enwedig y tenantiaid a ddaeth i'n grwpiau ffocws a gynhaliwyd ledled Cymru a landlordiaid ac asiantau gosod a ymatebodd i'n harolwg. Fel pwyllgor, rydym yn parhau i roi gwerth mawr ar brofiad go iawn i helpu i lywio ein gwaith craffu. Cafodd y craffu hwnnw ei oedi gan y pandemig, pandemig sy'n tynnu sylw at bwysigrwydd bod â lle diogel i'w alw'n gartref.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud mai craidd y Bil hwn yw'r nod o wella sicrwydd deiliadaeth. Nid yw pawb yn cytuno y bydd y Bil hwn—[Anghlywadwy.]—ond, fel pwyllgor, roeddem ni'n argyhoeddedig o rinweddau'r dull hwn. Clywsom amrywiaeth o dystiolaeth yn awgrymu y byddai cryfhau sicrwydd deiliadaeth yn cael effaith gadarnhaol ar les y rhai sy'n byw yn y sector rhentu preifat. Awgrymwyd hefyd y byddai hyn yn dod â manteision economaidd a chymdeithasol ehangach i'r gymuned.

Ond, wrth gwrs, nid oedd pawb yn cytuno bod angen y Bil hwn. Roedd landlordiaid ac asiantau gosod yn pryderu y byddai'r Bil yn gwneud gosod yn y sector rhentu preifat yn llai deniadol, gan achosi i landlordiaid adael y sector a rhoi mwy o bwysau o bosibl ar dai cymdeithasol. Dywedodd landlordiaid wrthym eu bod yn poeni na fydden nhw'n gallu adennill meddiant o'u heiddo, pe byddai eu hamgylchiadau personol yn newid neu oherwydd achosion o dorri contract. Fe ddychwelaf at y pwynt hwn yn ddiweddarach yn fy sylwadau.

Dywedodd y Gweinidog wrthym ei bod hi wedi ceisio dod o hyd i gydbwysedd rhwng y gwahanol safbwyntiau. Rydym ni'n credu bod y cydbwysedd cywir wedi'i daro, ond rydym yn galw am rai mân welliannau, a fydd, yn ein barn ni, yn cryfhau'r Bil. Rydym felly yn argymell bod y Senedd yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil.

Cyn symud ymlaen at rai o'r manylion o'n gwaith craffu, mae'n werth nodi mai dyma'r ail Fil yr ydym ni wedi ei ystyried sy'n ceisio diwygio Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, Deddf a basiwyd bum mlynedd yn ôl gan y Cynulliad blaenorol ond nad yw wedi'i chychwyn eto. Rydym yn deall y rhesymau y tu ôl i'r oedi, a gafodd eu dwysáu ymhellach gan y pandemig. Mae Deddf 2016 yn ddarn sylweddol o gyfraith tai, a fydd yn newid y fframwaith cyfreithiol ar gyfer rhentu eiddo, ac mae'n newid a fydd yn effeithio ar tua thraean o bobl Cymru.

Roeddem yn falch bod y Gweinidog wedi cadarnhau ei bod yn bwriadu i Ddeddf 2016, fel y'i diwygiwyd gan y Bil hwn, pe byddai'r Bil hwn yn cael ei basio, gael ei gweithredu erbyn hydref y flwyddyn nesaf, ac, yn amlwg, mae'r ffaith fod rhagor o oedi erbyn hyn yn yr amserlen honno yn peri pryder, ond rwy'n deall yr hyn a ddywedodd y Gweinidog ynglŷn â hynny.

Fe symudaf ymlaen felly at rai materion penodol yn yr adroddiad. Yn argymhelliad 2 rydym yn tynnu sylw at nifer o feysydd y credwn y mae'n rhaid i'r adolygiad ôl-weithredu o Ddeddf 2016 ymdrin â nhw—yr holl faterion a ddaeth i'r amlwg yn ystod ein gwaith craffu ac sy'n deillio o weithredu'r darpariaethau gyda'r Bil hwn sydd ger ein bron, yn hytrach na'r newidiadau ehangach yn Neddf 2016—ac rwy'n falch o glywed yr hyn a oedd gan y Gweinidog i'w ddweud am hynny.

Un thema gyffredin drwy gydol ein holl waith ar ddeddfwriaeth tai yn y Senedd hon fu diffyg data ar y sector rhentu preifat, wedi'i ddwysáu gan ddiffyg grwpiau wedi'u trefnu i gynrychioli tenantiaid. Mae hyn yn ei gwneud yn anodd sicrhau bod polisi a deddfwriaeth yn cael eu llywio'n llawn gan ddata cywir a phrofiad byw. Dyna pam y gwnaethom argymhellion 3 a 4, a fydd, yn ein barn ni, yn helpu i fynd i'r afael â'r materion hyn a gobeithio y byddan nhw'n arwain at welliannau o ran datblygu a gweithredu polisïau, a gwn fod y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad hefyd wedi gwneud argymhelliad tebyg ynghylch ymgysylltu â thenantiaid. Ac, unwaith eto, rwy'n falch bod y Gweinidog wedi ystyried y materion hyn.

Yn ystod ein gwaith craffu, fe wnaethom ni ystyried yr effeithiau ar rai meysydd penodol o'r farchnad rentu, fel myfyrwyr a'r sector tai cymdeithasol. Mae un o'r meysydd lle yr ydym ni wedi argymell newidiadau yn ymwneud â llety a ddarperir yn rhan o swydd gweinidog crefydd. Cawsom sylwadau gan Cytûn a'r Eglwys yng Nghymru, yn tynnu sylw at rai materion penodol iawn yn ymwneud â'r math hwn o lety. Fe wnaethom gytuno y dylid diwygio'r Bil i sicrhau y dylai eiddo sy'n lletya gweinidogion crefydd yn rhinwedd y swydd hon gael eu heithrio o'r darpariaethau yn y Bil, ac arweiniodd hynny at i ni wneud argymhelliad 5. Ac rwy'n falch unwaith eto y bydd y Gweinidog yn ystyried y materion hyn ac yn gweithio i weld sut orau i fynd i'r afael â nhw.

Mae'r Bil yn darparu ar gyfer gallu tynnu rhybudd adennill meddiant yn ôl o fewn 14 diwrnod i'w gyflwyno heb i'r landlord orfod aros chwe mis arall cyn ailgyflwyno'r rhybudd. Diben y cyfnod ystyried hwnnw yw sicrhau nad yw unrhyw wallau gweinyddol yn y rhybudd yn oedi materion yn ormodol ac yn oedi adennill meddiant yn ormodol. Clywsom gan landlordiaid nad yw 14 diwrnod yn hir iawn o ran nodi materion yn ymwneud â chamgymeriadau mewn rhybudd, a dyna pam y gwnaethom gytuno â nhw a galw am ymestyn y cyfnod i 28 diwrnod, ac, unwaith eto, rwy'n falch iawn o ymateb y Gweinidog.

O ran y llysoedd, tynnodd y rhan fwyaf o'n hymatebwyr sylw at yr oedi yn system y llysoedd, sy'n achosi anawsterau i landlordiaid a thenantiaid ar hyn o bryd. Rydym ni'n derbyn nad oes digon o amser yn nhymor presennol y Senedd i wneud gwaith sylweddol i geisio mynd i'r afael â'r materion hyn, ond rydym yn credu bod rhinwedd i Lywodraeth Cymru wneud rhagor o waith archwilio ar sefydlu llys neu dribiwnlys tai i nodi a fydd hyn yn ceisio mynd i'r afael â rhai o'r materion hyn. Fel y dywedodd y Gweinidog unwaith eto heddiw, gwyddom ei bod hi yn bersonol yn cefnogi'r galwadau hyn, ond, unwaith eto, clywais ei sylwadau a'i hesboniad heddiw, a byddwn yn edrych yn ofalus ar gynnydd ar y materion hynny.

Yn olaf, o ran digartrefedd—hoffwn sôn am effaith y Bil hwn ar ddigartrefedd. Bydd y darpariaethau yn rhyngweithio â gofynion ar awdurdodau lleol i gefnogi'r bobl hynny sydd dan fygythiad o ddigartrefedd, a dyna pam y gwnaethom ni argymhellion 8 a 9, i geisio sicrhau bod awdurdodau lleol, wrth gyflawni'r dyletswyddau hyn, yn cydymffurfio ag ysbryd y ddeddfwriaeth yn ogystal â'r gofynion yn y ddeddfwriaeth. Clywais sylwadau'r Gweinidog. Gwn fod y Gweinidog wedi ymrwymo'n llwyr i fynd i'r afael â digartrefedd a chysgu ar y stryd, ac rwy'n credu ein bod ni i gyd wedi bod yn ddiolchgar iawn o weld y cynnydd a wnaed yn ystod y pandemig, ac yn wir y cyhoeddiadau a gynhaliodd y gwelliannau hynny. Ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog, fel y dywedodd hi, yn mynd i'r afael â'r materion hyn yn yr ysbryd hwnnw, ac yn gwneud yn siŵr, gobeithio, na chollir dim o'r cynnydd hwnnw. Diolch yn fawr, Llywydd.