– Senedd Cymru am 7:05 pm ar 13 Hydref 2020.
Gan nad oes neb yn gwrthwynebu i'r grwpio ar gyfer y ddadl, dwi'n gofyn i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol gyflwyno'r cynnig. Julie James.
Diolch, Llywydd. Wrth agor, hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r gwahanol bwyllgorau yn y Senedd, yr Aelodau a'r staff, sydd wedi gwneud popeth posibl i sicrhau bod y Bil hwn wedi gallu symud ymlaen i'r ddadl heddiw, drwy'r hyn a fu'n saith mis cythryblus a heriol iawn. Hoffwn ddiolch hefyd i'm swyddogion am y gwaith rhagorol y maen nhw wedi ei wneud i barhau â'r gwaith, er gwaethaf y pwysau cyson y mae'r pandemig wedi ei roi ar ein hadnoddau yn ystod y cyfnod hwnnw. Mae'n arwydd o'n haeddfedrwydd a'n proffesiynoldeb fel deddfwrfa a Llywodraeth ein bod wedi gallu bwrw ymlaen â'n huchelgeisiau deddfwriaethol allweddol ar yr un pryd â llywio ein ffordd drwy argyfwng digynsail, yn ogystal â rheoli'r paratoadau cymhleth ar gyfer diwedd cyfnod pontio'r UE. Rwy'n sylweddoli cymaint fu'r ymdrech i'n harwain mor bell â hyn gyda'r Bil, a gobeithio nad wyf yn temtio ffawd wrth ddweud hynny. Ar ôl darllen adroddiadau Cyfnod 1 gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a'r Pwyllgor Deddfwriaethol, Cyfiawnder a Chyfansoddiad, rwy'n obeithiol, gyda chefnogaeth barhaus yr Aelodau, y byddwn ni'n gallu cael y Bil hwn drwy weddill y cyfnodau craffu ac ar y llyfr statud cyn diwedd tymor presennol y Senedd.
Hoffwn i droi yn awr at argymhellion y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a'r Pwyllgor Deddfwriaethol, Cyfiawnder a Chyfansoddiad, ond cyn gwneud hynny, dylwn i nodi nad yw'r Pwyllgor Cyllid wedi cyhoeddi ei adroddiad ei hun yn gysylltiedig â'r Bil. Rwy'n cymryd bod hyn yn arwydd cadarnhaol bod y pwyllgor wedi'i fodloni gan y dystiolaeth ysgrifenedig a llafar a ddarparwyd gennyf, a'i fod yn derbyn fy honiadau na fydd y ddeddfwriaeth hon yn arwain at ganlyniadau ariannol negyddol i landlordiaid da yng Nghymru, ac na fydd yn arwain at lwyth gwaith gormodol i'r gwasanaeth llysoedd yng Nghymru. Rwy'n edrych ymlaen at glywed gan Llyr yn ddiweddarach yn y ddadl. Nawr, i ymdrin â phob un o'r naw argymhelliad yn adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn eu tro.
Rwy'n croesawu yr argymhelliad cyntaf, y dylai'r Senedd gefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil. Rwy'n barod i dderbyn yr ail argymhelliad mewn egwyddor. Fe fyddwn ni, wrth gwrs, yn edrych yn ofalus ar effeithiau'r ddeddfwriaeth dros amser, pan fydd wedi dod i rym, a byddwn ni'n cynnal adolygiad o'i heffaith a'i heffeithiolrwydd pan fydd digon o amser wedi mynd heibio. Rwy'n cytuno'n llwyr bod hyn o bwys hanfodol, a gallaf ddweud wrthych chi fod gwaith ar y ffordd orau o fonitro effeithiau'r ddeddfwriaeth eisoes ar y gweill. Byddwn ni hefyd yn ystyried y ffordd orau o adrodd ar effeithiau'r ddeddfwriaeth, mewn ffyrdd sy'n ddefnyddiol i'r sector ac i ddatblygu polisi ac arfer yn y dyfodol. Ac os daw unrhyw ganlyniadau anfwriadol i'r amlwg, byddwn ni wrth gwrs yn cymryd camau i fynd i'r afael â'r rheini, naill ai drwy ganllawiau neu, os oes angen, rhagor o newid deddfwriaethol. Fy unig amheuaeth o ran yr argymhelliad, a'r rheswm pam yr wyf i wedi ei dderbyn mewn egwyddor yn hytrach nag yn ddiamod, yw bod rhai o'r meysydd y mae'r pwyllgor wedi eu cynnwys yn y cwmpas arfaethedig ar gyfer adolygiad o'r fath yn faterion nad ydyn nhw yn uniongyrchol gysylltiedig â'r Bil, ac na fyddent yn cael eu heffeithio gan ei weithrediad—er enghraifft, cydgrynhoi cyfraith tai, neu faterion yr eir i'r afael â nhw drwy waith arall, fel nifer y bobl sy'n ddigartref yn fwriadol, a fydd yn cael eu cynnwys yn rhan o waith ehangach o fewn Llywodraeth Cymru, gan gynnwys ein hymateb i amrywiol adroddiadau ac argymhellion gan y grŵp gweithredu ar ddigartrefedd.
Gan droi at argymhelliad 3, rwy'n fodlon derbyn hwn, a byddaf yn trafod gyda'm cyd-Weinidogion yn y Cabinet a'm swyddogion pa un ai Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru fyddai'r corff a fyddai yn y sefyllfa orau i gynnal ymarfer o'r fath. Ac os oes cytundeb, byddwn ni'n ceisio comisiynu'n gwaith hwnnw yn unol â hynny.
Rwyf hefyd yn barod i dderbyn yr argymhelliad nesaf. Er bod ymgysylltu â thenantiaid y sector rhentu preifat wedi cael ei gydnabod ers tro byd fel bod yn heriol oherwydd natur y sector ac amrywiaeth y bobl sy'n rhentu eu cartrefi gan landlord preifat, rydym ni wedi gallu gwneud gwelliannau sylweddol drwy'r pandemig, drwy dechnegau cyfathrebu arloesol. Dylwn nodi hefyd fod Llywodraeth Cymru eisoes yn ariannu Gwasanaeth Cynghori Cyfranogiad Tenantiaid Cymru, y mae ei gylch gwaith yn cynnwys ymgysylltu â thenantiaid y sector rhentu preifat. Mae'n ddigon posibl bod rhywfaint o werth mewn adolygu effeithiolrwydd y trefniadau hynny, yn enwedig yng nghyd-destun y gwersi yr ydym yn parhau i'w dysgu o brofiad COVID. Yn sgil hyn, rwyf wedi gofyn i hynny gael ei ddatblygu, a byddaf yn adrodd yn ôl i'r Senedd ar hyn yn y dyfodol. Gobeithio y bydd hyn yn bodloni'r pwyllgor ar yr adeg hon.
Mae argymhelliad 5 yn gofyn i'r Llywodraeth gyflwyno gwelliannau yng Nghyfnod 2 i sicrhau bod eiddo a feddiannir gan weinidogion crefydd yn cael eu heithrio o ofynion y ddeddfwriaeth hon. Rwy'n fodlon derbyn yr argymhelliad hwn mewn egwyddor. Wrth wneud hynny, dylwn i egluro yn gyntaf fod trafodaethau yn parhau rhwng fy swyddogion a chynrychiolwyr y sector yng Nghymru ar y mater hwn, ac yn ail, bod gennym ni eisoes bŵer i wneud rheoliadau yn y Bil sy'n caniatáu i eithriad o'r fath gael ei fewnosod yn Atodlen 1. Nid oes angen gwelliant penodol felly ar gyfer hyn. Felly, yn hytrach na chyflwyno gwelliant yng Nghyfnod 2, rwy'n rhoi ymrwymiad i chi y byddwn ni'n gwneud rheoliadau i ddarparu'r eithriad hwn cyn gweithredu'r Ddeddf wedi'i diwygio os byddwn yn dod i'r casgliad bod hyn yn angenrheidiol. Hyderaf y bydd hyn yn bodloni'r pwyllgor yn hyn o beth.
Mae argymhelliad 6 yn gofyn i ni gyflwyno gwelliant i ymestyn y cyfnod y gellir tynnu rhybudd landlord yn ôl a'i ailgyflwyno, er enghraifft, i gywiro camgymeriad, o 14 diwrnod i 28 diwrnod. Ar ôl gwrando ar y dadleuon a gyflwynwyd ar y mater hwn gan gynrychiolwyr landlordiaid, ac ar ôl ystyried casgliadau'r pwyllgor ar hyn, rwy'n fodlon derbyn yr argymhelliad hwn ar y sail y bydd o gymorth i landlordiaid da sydd wedi gwneud camgymeriad gonest. Ni fydd ychwaith yn effeithio'n negyddol ar ddeiliaid contract, gan y bydd yn dal yn ofynnol i'r rhybudd sydd wedi ei ailgyflwyno fod am o leiaf chwe mis. Felly, byddwn, fe fyddwn ni'n cyflwyno gwelliant i wneud y newid hwnnw.
Mae argymhelliad 7 yn gofyn i ni gynnal astudiaeth o ddichonoldeb fanwl i sut y gallai tribiwnlys neu lys tai weithio yng Nghymru, gyda'r bwriad o sefydlu corff o'r fath fel blaenoriaeth yn y Senedd nesaf pe byddai'r astudiaeth yn dod i'r casgliad bod hyn yn debygol o arwain at welliannau yn y sector ac y byddai modd ei gyflawni. Rwy'n derbyn yr argymhelliad hwn mewn egwyddor. Bydd aelodau'r Pwyllgor yn gwybod o'm tystiolaeth fy mod i yn bersonol yn cefnogi llys neu dribiwnlys tai i Gymru, fel y mae pleidiau gwleidyddol eraill yn y Senedd. Er fy mod i'n sylweddoli bod yr argymhelliad yn ymwneud â sefydlu astudiaeth o ddichonoldeb yn unig ar hyn o bryd, byddai hynny'n dal i fod yn ymrwymiad sylweddol ar adeg pan fo'r holl adnoddau sydd ar gael gennym yn cael eu hymestyn i'r eithaf i reoli effaith yr achosion o'r coronafeirws ac yn wir ar y Bil hwn. Hefyd, dim ond ychydig iawn o amser sydd gennym ni ar ôl yn nhymor presennol y Senedd. Felly, byddai'n afrealistig i mi ymrwymo i ddechrau gweithio ar astudiaeth o ddichonoldeb ar hyn o bryd. Am y rhesymau hyn, dim ond mewn egwyddor y gall y Llywodraeth gefnogi'r argymhelliad hwn am y tro, ond rwy'n gobeithio, pan fyddwn yn goresgyn yr anawsterau presennol a phan fydd rhyw fath o normalrwydd wedi dychwelyd, fod hyn yn rhywbeth y byddai gweinyddiaeth yn y dyfodol yn dymuno ei ddatblygu cyn gynted ag y bydd adnoddau yn caniatáu.
Mae argymhelliad 8 yn gofyn i ni gyhoeddi canllawiau newydd i awdurdodau lleol pan ddaw Deddf ddiwygiedig 2016 i rym, gan ei gwneud yn ofynnol iddyn nhw ystyried unrhyw bersonau y cyflwynir hysbysiad iddynt a fydd yn dod i ben o fewn 84 diwrnod fel bod wedi eu bygwth â digartrefedd ac felly yn gymwys i gael cymorth o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014. Rwy'n fodlon derbyn yr argymhelliad hwn mewn egwyddor, gan fy mod yn cefnogi'n gryf yr egwyddor o ymgysylltu ag aelwydydd ar gam cynnar i weithio i atal digartrefedd. Fodd bynnag, ni fyddai'n bosibl diwygio'r diffiniad statudol o 'fygythiad o ddigartrefedd' fel y nodir yn Neddf Tai (Cymru) 2014 drwy gyhoeddi canllawiau. Felly, byddwn ni'n ystyried y ffordd orau o gyflawni'r egwyddor o ymyrraeth a chymorth cynharach a geir yn yr argymhelliad hwn yn rhan o'n gwaith ehangach i atal digartrefedd.
Mae argymhelliad olaf y pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn gofyn i ni ddiwygio Deddf 2014 fel mai dim ond os darperir llety i unigolyn neu deulu am 12 mis y caiff y dyletswyddau digartrefedd hynny eu hystyried fel bod wedi eu cyflawni yn hytrach nag ar ôl chwe mis, fel y mae ar hyn o bryd. Er fy mod yn deall y rhesymeg y tu ôl i'r argymhelliad hwn, nid yw'n un y gall y Llywodraeth ei gefnogi, mae arnaf i ofn. Ni ellid gwneud unrhyw newidiadau deddfwriaethol posibl ar wahân a byddai angen eu hystyried yn rhan o'r ystyriaethau polisi a deddfwriaethol ehangach wrth fwrw ymlaen â'r agenda drawsnewid a nodir yn ein strategaeth ar gyfer rhoi terfyn ar ddigartrefedd, a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2019. Mae'r gwaith i gyflawni'r strategaeth yn cael ei lywio gan y grŵp gweithredu arbenigol ar ddigartrefedd ac mae wedi symud ymlaen yn gyflym eleni, a bu buddsoddiad sylweddol yn yr ymateb i ddigartrefedd yng ngham 2 COVID-19. Archwiliodd y grŵp gweithredu ar ddigartrefedd yn benodol y fframwaith polisi a'r mesurau sydd eu hangen i roi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru a bydd eu hadroddiad yn llywio'r ystyriaethau ehangach o ran unrhyw newidiadau polisi a deddfwriaethol posibl sydd eu hangen. Am y rhesymau hyn rwy'n gwrthod argymhelliad 9.
Gan droi yn awr at bedwar argymhelliad y pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad. O ran y cyntaf o'r argymhellion hynny, mae asesiad trylwyr o'r darpariaethau yn y Bil wedi ei gynnal i sicrhau eu bod yn gydnaws â hawliau dynol.
Yr ail argymhelliad yw y dylem gynyddu ymgysylltiad a datblygu cysylltiadau mwy ffurfiol â deiliaid contractau yn y sector rhentu preifat yng Nghymru. Mae hyn yn adlewyrchu argymhellion 3 a 4 y pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, a nodais yn gynharach fy mod yn fodlon ei dderbyn, gan nodi ein bod eisoes yn cefnogi TPAS Cymru yn hyn o beth. Hyderaf y bydd y pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn fodlon â'm cynnig i adolygu effeithiolrwydd y trefniadau hynny gyda'r bwriad o'u cryfhau lle bo angen.
Mae trydydd argymhelliad y pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yn gofyn, yn rhan o'n gwerthusiad arfaethedig o Ddeddf 2016, fel y'i diwygiwyd gan y Bil hwn, y dylem ystyried yr angen a'r brys posibl i gydgrynhoi cyfraith tai yn llawn fel y mae'n berthnasol yng Nghymru. Mae hyn yn sicr yn rhywbeth y gall y Llywodraeth ei dderbyn mewn egwyddor, ond, yn ôl ei natur, mae'n ymrwymiad a fyddai i weinyddiaeth yn y dyfodol ei ddatblygu. Fel y soniais yn gynharach, serch hynny, nid yw adolygu'r posibilrwydd o gydgrynhoi cyfraith tai yng Nghymru yn ymarfer y gallem ni ei gynnal yn rhan o unrhyw adolygiad o Ddeddf 2016 sydd ar waith. Byddai yn ymarfer ar wahân ac am y rheswm hwnnw rwy'n tueddu i dderbyn yr argymhelliad hwn mewn egwyddor yn hytrach nag yn ddiamod.
Ac yn olaf, mae argymhelliad 4 yn ymwneud â'r potensial i sefydlu tribiwnlys tai yng Nghymru. Fel y dywedais yn fy ymateb i argymhelliad tebyg y pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar y mater hwn, er fy mod i yn bersonol yn gefnogol, mae hwn bellach yn fater i lywodraeth yn y dyfodol, yn hytrach na hon, felly rwy'n derbyn yr argymhelliad mewn egwyddor ar y sail honno.
Daw hyn â mi at ddiwedd fy ymatebion ffurfiol i bob un o argymhellion y pwyllgorau. Hoffwn ailadrodd fy niolch gwirioneddol i Gadeiryddion, aelodau a staff y pwyllgorau sydd wedi gweithio mor galed mewn amgylchiadau eithriadol o anodd i gwblhau proses graffu Cyfnod 1 a chyflwyno yr adroddiadau hyn. Rwy'n credu ei fod yn arwydd o'r ymdrech sydd wedi ei gwneud i ddatblygu'r dull deddfwriaethol penodol hwn o wella sicrwydd deiliadaeth bod yr adroddiadau hyn wedi bod yn ffafriol ar y cyfan, gyda dim ond ychydig o argymhellion ar gyfer gwelliannau i'r Bil ei hun.
Rydym wedi gweithio'n galed i ddatblygu Bil sy'n taro cydbwysedd teg rhwng buddiannau deiliaid contractau i ganiatáu iddyn nhw deimlo'n ddiogel ac wedi ymgartrefu yn y llety y maen nhw'n ei alw'n gartref, gan hefyd barchu buddiannau landlordiaid, a chaniatáu iddyn nhw adennill meddiant o'u heiddo pan fo rheswm da dros yr angen iddyn nhw wneud hynny.
Wrth gloi, hoffwn i sôn hefyd, yn dilyn trafodaethau manwl gyda'm cyd-Aelodau yn y Cabinet dros yr wythnosau diwethaf, ei bod wedi dod yn amlwg i mi nad oes gennym ni ddigon o amser na chapasiti deddfwriaethol mwyach i gwblhau'r holl waith sydd ei angen i ddod â darpariaethau Deddf 2016 ddiwygiedig i rym y flwyddyn nesaf, fel yr oeddem wedi gobeithio ei wneud cyn yr achosion o COVID. Yn hytrach, fe fyddwn yn ceisio cwblhau'r holl ganllawiau is-ddeddfwriaeth angenrheidiol a'r gwaith codi ymwybyddiaeth sydd ei angen mewn pryd ar gyfer dyddiad gweithredu yng ngwanwyn 2022. Rwy'n siomedig iawn ein bod wedi gorfod cymryd y cam hwn, ond dyna realiti'r sefyllfa yr ydym ni ynddi ar hyn o bryd, gyda chymaint o'n hadnoddau wedi'u canolbwyntio ar y pandemig yn y misoedd diwethaf, a heb fawr o arwydd y bydd y pwysau hwnnw yn lleihau yn y dyfodol rhagweladwy.
Edrychaf ymlaen at glywed yn awr gan Gadeiryddion y pwyllgorau craffu a gan Aelodau eraill sy'n dymuno siarad am y Bil, ac fe wnaf ymateb i unrhyw bwyntiau eraill nad wyf eisoes wedi ymdrin â nhw yn fy sylwadau terfynol. Diolch, Llywydd.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, John Griffths.
Diolch, Llywydd. Rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl heddiw, fel Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau. Hoffwn ddiolch i bawb a roddodd dystiolaeth i helpu i lywio ein gwaith, yn enwedig y tenantiaid a ddaeth i'n grwpiau ffocws a gynhaliwyd ledled Cymru a landlordiaid ac asiantau gosod a ymatebodd i'n harolwg. Fel pwyllgor, rydym yn parhau i roi gwerth mawr ar brofiad go iawn i helpu i lywio ein gwaith craffu. Cafodd y craffu hwnnw ei oedi gan y pandemig, pandemig sy'n tynnu sylw at bwysigrwydd bod â lle diogel i'w alw'n gartref.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud mai craidd y Bil hwn yw'r nod o wella sicrwydd deiliadaeth. Nid yw pawb yn cytuno y bydd y Bil hwn—[Anghlywadwy.]—ond, fel pwyllgor, roeddem ni'n argyhoeddedig o rinweddau'r dull hwn. Clywsom amrywiaeth o dystiolaeth yn awgrymu y byddai cryfhau sicrwydd deiliadaeth yn cael effaith gadarnhaol ar les y rhai sy'n byw yn y sector rhentu preifat. Awgrymwyd hefyd y byddai hyn yn dod â manteision economaidd a chymdeithasol ehangach i'r gymuned.
Ond, wrth gwrs, nid oedd pawb yn cytuno bod angen y Bil hwn. Roedd landlordiaid ac asiantau gosod yn pryderu y byddai'r Bil yn gwneud gosod yn y sector rhentu preifat yn llai deniadol, gan achosi i landlordiaid adael y sector a rhoi mwy o bwysau o bosibl ar dai cymdeithasol. Dywedodd landlordiaid wrthym eu bod yn poeni na fydden nhw'n gallu adennill meddiant o'u heiddo, pe byddai eu hamgylchiadau personol yn newid neu oherwydd achosion o dorri contract. Fe ddychwelaf at y pwynt hwn yn ddiweddarach yn fy sylwadau.
Dywedodd y Gweinidog wrthym ei bod hi wedi ceisio dod o hyd i gydbwysedd rhwng y gwahanol safbwyntiau. Rydym ni'n credu bod y cydbwysedd cywir wedi'i daro, ond rydym yn galw am rai mân welliannau, a fydd, yn ein barn ni, yn cryfhau'r Bil. Rydym felly yn argymell bod y Senedd yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil.
Cyn symud ymlaen at rai o'r manylion o'n gwaith craffu, mae'n werth nodi mai dyma'r ail Fil yr ydym ni wedi ei ystyried sy'n ceisio diwygio Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, Deddf a basiwyd bum mlynedd yn ôl gan y Cynulliad blaenorol ond nad yw wedi'i chychwyn eto. Rydym yn deall y rhesymau y tu ôl i'r oedi, a gafodd eu dwysáu ymhellach gan y pandemig. Mae Deddf 2016 yn ddarn sylweddol o gyfraith tai, a fydd yn newid y fframwaith cyfreithiol ar gyfer rhentu eiddo, ac mae'n newid a fydd yn effeithio ar tua thraean o bobl Cymru.
Roeddem yn falch bod y Gweinidog wedi cadarnhau ei bod yn bwriadu i Ddeddf 2016, fel y'i diwygiwyd gan y Bil hwn, pe byddai'r Bil hwn yn cael ei basio, gael ei gweithredu erbyn hydref y flwyddyn nesaf, ac, yn amlwg, mae'r ffaith fod rhagor o oedi erbyn hyn yn yr amserlen honno yn peri pryder, ond rwy'n deall yr hyn a ddywedodd y Gweinidog ynglŷn â hynny.
Fe symudaf ymlaen felly at rai materion penodol yn yr adroddiad. Yn argymhelliad 2 rydym yn tynnu sylw at nifer o feysydd y credwn y mae'n rhaid i'r adolygiad ôl-weithredu o Ddeddf 2016 ymdrin â nhw—yr holl faterion a ddaeth i'r amlwg yn ystod ein gwaith craffu ac sy'n deillio o weithredu'r darpariaethau gyda'r Bil hwn sydd ger ein bron, yn hytrach na'r newidiadau ehangach yn Neddf 2016—ac rwy'n falch o glywed yr hyn a oedd gan y Gweinidog i'w ddweud am hynny.
Un thema gyffredin drwy gydol ein holl waith ar ddeddfwriaeth tai yn y Senedd hon fu diffyg data ar y sector rhentu preifat, wedi'i ddwysáu gan ddiffyg grwpiau wedi'u trefnu i gynrychioli tenantiaid. Mae hyn yn ei gwneud yn anodd sicrhau bod polisi a deddfwriaeth yn cael eu llywio'n llawn gan ddata cywir a phrofiad byw. Dyna pam y gwnaethom argymhellion 3 a 4, a fydd, yn ein barn ni, yn helpu i fynd i'r afael â'r materion hyn a gobeithio y byddan nhw'n arwain at welliannau o ran datblygu a gweithredu polisïau, a gwn fod y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad hefyd wedi gwneud argymhelliad tebyg ynghylch ymgysylltu â thenantiaid. Ac, unwaith eto, rwy'n falch bod y Gweinidog wedi ystyried y materion hyn.
Yn ystod ein gwaith craffu, fe wnaethom ni ystyried yr effeithiau ar rai meysydd penodol o'r farchnad rentu, fel myfyrwyr a'r sector tai cymdeithasol. Mae un o'r meysydd lle yr ydym ni wedi argymell newidiadau yn ymwneud â llety a ddarperir yn rhan o swydd gweinidog crefydd. Cawsom sylwadau gan Cytûn a'r Eglwys yng Nghymru, yn tynnu sylw at rai materion penodol iawn yn ymwneud â'r math hwn o lety. Fe wnaethom gytuno y dylid diwygio'r Bil i sicrhau y dylai eiddo sy'n lletya gweinidogion crefydd yn rhinwedd y swydd hon gael eu heithrio o'r darpariaethau yn y Bil, ac arweiniodd hynny at i ni wneud argymhelliad 5. Ac rwy'n falch unwaith eto y bydd y Gweinidog yn ystyried y materion hyn ac yn gweithio i weld sut orau i fynd i'r afael â nhw.
Mae'r Bil yn darparu ar gyfer gallu tynnu rhybudd adennill meddiant yn ôl o fewn 14 diwrnod i'w gyflwyno heb i'r landlord orfod aros chwe mis arall cyn ailgyflwyno'r rhybudd. Diben y cyfnod ystyried hwnnw yw sicrhau nad yw unrhyw wallau gweinyddol yn y rhybudd yn oedi materion yn ormodol ac yn oedi adennill meddiant yn ormodol. Clywsom gan landlordiaid nad yw 14 diwrnod yn hir iawn o ran nodi materion yn ymwneud â chamgymeriadau mewn rhybudd, a dyna pam y gwnaethom gytuno â nhw a galw am ymestyn y cyfnod i 28 diwrnod, ac, unwaith eto, rwy'n falch iawn o ymateb y Gweinidog.
O ran y llysoedd, tynnodd y rhan fwyaf o'n hymatebwyr sylw at yr oedi yn system y llysoedd, sy'n achosi anawsterau i landlordiaid a thenantiaid ar hyn o bryd. Rydym ni'n derbyn nad oes digon o amser yn nhymor presennol y Senedd i wneud gwaith sylweddol i geisio mynd i'r afael â'r materion hyn, ond rydym yn credu bod rhinwedd i Lywodraeth Cymru wneud rhagor o waith archwilio ar sefydlu llys neu dribiwnlys tai i nodi a fydd hyn yn ceisio mynd i'r afael â rhai o'r materion hyn. Fel y dywedodd y Gweinidog unwaith eto heddiw, gwyddom ei bod hi yn bersonol yn cefnogi'r galwadau hyn, ond, unwaith eto, clywais ei sylwadau a'i hesboniad heddiw, a byddwn yn edrych yn ofalus ar gynnydd ar y materion hynny.
Yn olaf, o ran digartrefedd—hoffwn sôn am effaith y Bil hwn ar ddigartrefedd. Bydd y darpariaethau yn rhyngweithio â gofynion ar awdurdodau lleol i gefnogi'r bobl hynny sydd dan fygythiad o ddigartrefedd, a dyna pam y gwnaethom ni argymhellion 8 a 9, i geisio sicrhau bod awdurdodau lleol, wrth gyflawni'r dyletswyddau hyn, yn cydymffurfio ag ysbryd y ddeddfwriaeth yn ogystal â'r gofynion yn y ddeddfwriaeth. Clywais sylwadau'r Gweinidog. Gwn fod y Gweinidog wedi ymrwymo'n llwyr i fynd i'r afael â digartrefedd a chysgu ar y stryd, ac rwy'n credu ein bod ni i gyd wedi bod yn ddiolchgar iawn o weld y cynnydd a wnaed yn ystod y pandemig, ac yn wir y cyhoeddiadau a gynhaliodd y gwelliannau hynny. Ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog, fel y dywedodd hi, yn mynd i'r afael â'r materion hyn yn yr ysbryd hwnnw, ac yn gwneud yn siŵr, gobeithio, na chollir dim o'r cynnydd hwnnw. Diolch yn fawr, Llywydd.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mick Antoniw.
Diolch, Llywydd. Dim ond pedwar argymhelliad sydd yn ein hadroddiad ar y Bil ar gyfer y Gweinidog, ac fe wnaf i amlinellu pob un yn gryno. Yn gyntaf, o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn ei gwneud yn ofynnol i holl ddarpariaethau Bil fod yn gydnaws â'r confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol. Fe wnaethom ni ofyn i'r Gweinidog am ei hasesiad hi o effaith y Bil ar hawliau dynol tenantiaid a landlordiaid. Dywedodd y Gweinidog wrthym ni y byddai effaith a bod y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn ymwneud â'r broses, a dywedodd hi hefyd fod cyfiawnhad dros unrhyw ymyrraeth â'r hawliau hynny a'u bod yn gymesur â budd y cyhoedd. Rydym ni'n cydnabod bod y memorandwm esboniadol yn rhoi rhagor o fanylion am effaith y Bil ar erthygl 1, protocol 1 ac erthygl 8 o'r confensiwn Ewropeaidd ar hawliau dynol, ond mae gennym ni rai pryderon nad yw'r Gweinidog wedi rhoi digon o fanylion i ni y byddem ni wedi dymuno eu cael.
Mae ein hargymhelliad 1 yn gofyn i'r Gweinidog gyhoeddi dadansoddiad llawn o effaith darpariaeth y Bil ar hawliau dynol. Cyn symud ymlaen, hoffwn i sôn yn fyr am reoliadau diweddar a wnaed gan Weinidogion Cymru mewn ymateb i'r coronafeirws i'r fframwaith deddfwriaethol presennol sydd wedi ei newid dros dro ar gyfer y broses feddiannu a chyfnodau rhybudd landlordiaid. Fe wnaeth Deddf y Coronafeirws 2020 gynyddu dros dro y cyfnod rhybudd yr oedd yn rhaid i landlord yng Nghymru neu Loegr ei roi i dri mis cyn y gallen nhw ofyn i lys am orchymyn adennill meddiant. Yna fe wnaeth y Gweinidog Reoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Tenantiaethau Sicr a Thenantiaethau Byrddaliadol Sicr, Estyn Cyfnodau Hysbysu) (Diwygio) (Cymru) 2020. Fe wnaethon nhw ymestyn y cyfnod rhybudd o dri mis i chwe mis dros dro, ac wedyn, ar 25 Medi 2020, fe wnaeth y Gweinidog Reoliadau Deddf y Coronafeirws 2020 (Tenantiaethau Preswyl: Gwarchodaeth Rhag Troi Allan) (Cymru) 2020. Mae'r rheoliadau hyn yn ymestyn tan 31 Mawrth 2021 ac yn ystod y cyfnod hwn bydd yn rhaid rhoi mwy o rybudd i denantiaid. Rwy'n sôn am y rheoliadau hyn, a chyfeiriwyd atyn nhw, i bwysleisio pwysigrwydd ystyriaethau hawliau dynol wrth wneud deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth. Daeth y ddwy set o reoliadau i rym lai na 21 diwrnod ar ôl iddyn nhw gael eu gosod gerbron y Senedd, sy'n golygu ychydig iawn o rybudd i landlordiaid a thenantiaid. Mae ein gwaith craffu ar y rheoliadau hyn wedi tynnu sylw Llywodraeth Cymru at yr hyn yr ydym ni'n ystyried ei fod yn ddadansoddiad annigonol o hawliau dynol landlordiaid a thenantiaid sy'n cystadlu â'i gilydd.
O ran yr angen am y Bil, fe wnaethom ni nodi nad oedd ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ei hun ar y diwygiadau arfaethedig i gyfnodau rhybudd yn darparu tystiolaeth o gefnogaeth ffafriol gref. Fe wnaethom ni sylwi hefyd ar awgrym y Gweinidog y bu rhywfaint o ddibyniaeth ar ddefnyddio tystiolaeth anecdotaidd. Rydym ni yn cydnabod y gall fod problem ehangach ynghylch ymgysylltu â'r sector rhentu preifat yng Nghymru, ond, ar bwynt egwyddor cyffredinol, mae sail dystiolaeth y Gweinidog wedi ei gwanhau gan anffurfioldeb y data ac nid oedd y pwyllgor o'r farn ei bod yn arfer da dibynnu ar dystiolaeth o'r fath fel sail dros newid deddfwriaeth sylfaenol.
Mae ein hargymhelliad 2 yn gofyn i Lywodraeth Cymru gynyddu ei hymgysylltiad a datblygu cysylltiadau mwy ffurfiol â deiliaid contractau yn y sector rhentu preifat yng Nghymru. Dylai hyn hwyluso'r gwaith o gasglu data yn fwy cadarn o'r sector hwn er mwyn llywio cynigion deddfwriaethol yn well. Ac rwy'n croesawu'r ffaith bod y Gweinidog wedi derbyn yr argymhelliad penodol hwn.
Roedd argymhelliad 3 yn ein hadroddiad yn ymwneud â chyfyngiadau y sail dystiolaeth. Rydym ni wedi croesawu bwriad y Gweinidog i adolygu gweithrediad y Bil yn rhan o'r gwerthusiad arfaethedig o Ddeddf 2016. Fel pwyllgor, mae gennym ni bryderon cyffredinol ynghylch amledd y llyfr statud fel y mae'n berthnasol yng Nghymru. Felly fe wnaethom ni argymell y dylai'r gwerthusiad arfaethedig o Ddeddf 2016 ystyried y brys posibl i gydgrynhoi cyfraith tai Cymru yn llawn. Unwaith eto, rwy'n croesawu'r ffaith bod y Gweinidog yn derbyn hyn mewn egwyddor ac rwy'n cydnabod hefyd fod hwn, yn amlwg, yn fater i Gynulliad yn y dyfodol erbyn hyn.
Gan symud at ein hargymhelliad olaf, nodwyd bod y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn cytuno â Llywodraeth Cymru bod effaith gyffredinol y Bil ar lwyth achosion y system llysoedd yng Nghymru yn debygol o fod yn ddibwys dros amser. Serch hynny, mae'r Gweinidog yn derbyn y bydd y Bil hefyd yn achosi cynnydd yn nifer yr hawliadau gan landlordiaid preifat y mae angen gwrandawiadau arnyn nhw. Mae'n rhaid osgoi oedi posibl i achosion llys. Ni ddylai'r system llysoedd arwain at gostau uchel ac mae datrys yn amserol yn bwysig er mwyn lliniaru'r effaith a gaiff y Bil ar hawl y landlord i gael mynediad i'w eiddo ei hun. Felly, ein pedwerydd argymhelliad—ac rydym ni'n ystyried bod hwn yn argymhelliad arbennig o bwysig, unwaith eto ar gyfer Cynulliad yn y dyfodol—sef i ymchwilio i'r angen am dribiwnlys tai penodedig yng Nghymru. Gallai tribiwnlys o'r fath, ymysg pethau eraill, ystyried hawliadau meddiant a wneir gan landlordiaid. Rydym ni'n argymell y dylid rhoi gwybod i'r Senedd am ganlyniad yr ymchwiliad hwn ac y dylai hwn fod yn fater sy'n cael ei gario drosodd yn sicr i'r Cynulliad nesaf hefyd. Diolch, Llywydd.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Llyr Gruffydd.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Dwi'n falch iawn o gyfrannu at y ddadl yma fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid. Roedden ni wedi disgwyl clywed tystiolaeth gan y Gweinidog yn ôl ym mis Mawrth, wrth gwrs, ar y mater yma, ond bu'n rhaid inni ohirio'r sesiwn honno yn wyneb pandemig COVID-19. Yn lle hynny, mi wnaethon ni ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn am wybodaeth am oblygiadau ariannol y Bil, rhag ofn y bydden ni'n methu aildrefnu sesiwn dystiolaeth cyn y dyddiad cau ar gyfer adrodd yng Nghyfnod 1. Ond gan fod y dyddiad cau hwnnw wedi'i ymestyn, fe gawsom ni yn y pendraw gyfle i glywed gan y Gweinidog, ac rŷn ni'n ddiolchgar iawn iddi am hynny, wrth gwrs.
Mae'r pwyllgor yn nodi y bydd y Bil yn diwygio Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 i roi rhagor o sicrwydd o ran tenantiaeth i ddeiliaid contractau sy'n rhentu, yn enwedig, wrth gwrs, y bobl hynny sydd yn y sector rhentu preifat, drwy ymestyn faint o rybudd y mae'n rhaid i landlord ei roi o ddeufis i i chwe mis, pan nad yw deiliad y contract ar fai.
Rŷn ni'n nodi bod diwygiadau yn cael eu gwneud yng ngweddill y Deyrnas Unedig yn y maes yma hefyd, wrth gwrs. Yn Araith y Frenhines ym mis Rhagfyr y llynedd, fe wnaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig gynnwys Bil arfaethedig i ddiwygio trefniadau ar gyfer rhentwyr, a fydd yn atal troi pobl allan o'u cartrefi heb fai. Yn yr Alban wedyn, fe greodd Deddf Tai Preifat (Tenantiaethau) (Yr Alban) 2016 gategori newydd o denantiaeth rhentu preifat yn yr Alban, gan ddod â'r arfer o droi allan heb fai i ben a nodi 18 rheswm y caiff landlord eu defnyddio i ddod â thenantiaeth i ben.
At ei gilydd, mi fydd cost net y Bil yma, fel sy'n cael ei nodi yn yr asesiad effaith rheoleiddiol, rywle rhwng £9.5 miliwn a £13 miliwn. Yn gyffredinol, rŷn ni'n fodlon ar y dystiolaeth a roddwyd gan y Gweinidog, felly does gennym ni ddim materion i'w hadrodd o ran goblygiadau ariannol y Bil.
Rwyf i'n siarad fel yr Aelod a gynrychiolodd grŵp y Ceidwadwyr yn nhrafodion Cyfnod 1, ac a etholwyd i'r pwyllgor cydraddoldeb a llywodraeth leol at y diben hwnnw, ond nid fi yw'r llefarydd ar dai mwyach, a bydd fy nghyd-Aelod Mark Isherwood yn siarad yn swyddogol ar ran y grŵp yn ddiweddarach.
A gaf i ddweud fy mod i'n falch iawn o gytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil hwn? Rwyf i'n credu, gyda mesurau eraill y cyfeiriwyd atyn nhw, y dylai ddarparu marchnad gryfach a mwy effeithlon i'r sector rhentu preifat yn benodol, ac mae'n ceisio sicrhau cydbwysedd rhwng tenantiaid—sydd yn aml yn cael eu galw yn 'genhedlaeth rhentu' erbyn hyn—a landlordiaid. Ac mae'r genhedlaeth rhentu, os caf i gymryd bod hynny yn golygu pobl yn y sector rhentu preifat, yn rhywbeth tebyg i 20 y cant o'r boblogaeth o ran tai erbyn hyn, sy'n newid eithaf rhyfeddol o'r 1980au, pan gafodd llawer o'r gyfraith yr ydym ni wedi ceisio ei diwygio yn ystod y Senedd hon ei deddfu am y tro cyntaf, a hynny mewn gwirionedd i adfywio y sector rhentu, a oedd wedi dirywio yn sgil gor-reolaeth ar y pryd. Felly, mae'n fater o ail-gydbwyso; mae'n digwydd yn Lloegr, mae'n digwydd yn yr Alban, a dyna pam, pan oeddwn i'n llefarydd y Ceidwadwyr—a pholisi sy'n parhau—yr oedd grŵp y Ceidwadwyr yn falch o gefnogi'r diwygiadau hyn i'r sector rhentu yn gyffredinol. Ac a gaf i ddweud cymaint o bleser y bu hi i weithio gyda'r pwyllgor cydraddoldeb a llywodraeth leol a'r Aelodau—yr oedd yn adeiladol iawn—ac, yn fwy diweddar, rwyf i hefyd wedi bod ar y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, ac, unwaith eto, rwy'n falch o'r gwaith diwyd sydd wedi ei wneud ar y Bil hwn. Ac yn wir, rwy'n nodi, fel y mae pobl eraill wedi gwneud, yr argymhellion tebyg mewn rhai ffyrdd rhwng y ddau bwyllgor hynny.
Hoffwn i wneud rhai pwyntiau penodol, ond gadewch i mi ddweud yn gyntaf fy mod i'n credu bod cydgrynhoi cyfraith tai yn rhywbeth a fyddai'n ddymunol iawn. Rydym ni'n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gydgrynhoi cyfreithiau. Bu'n un o'r pethau yr oeddem ni'n credu y gallai'r Senedd ei wneud, neu ddechrau ei wneud, pan gafodd bwerau deddfu sylfaenol, a sicrhau nad oedd gennym ni'r math o lyfr statud anniben sy'n bodoli mewn awdurdodaethau eraill, a bod tai yn faes cyfraith gyhoeddus da iawn i ddechrau hyn, oherwydd ei fod mor bwysig o ran bywydau pobl, ond hefyd yr oedd yn gyfreithiau yr oedd angen eu diwygio ac maen nhw'n systematig iawn; maen nhw'n ymwneud â'i gilydd. Mae'r Bil hwn mewn gwirionedd yn diwygio Deddf 2016, felly Deddf o'r pedwerydd Cynulliad, fel y gwnaethom ni glywed, na fydd yn cael ei chychwyn mewn gwirionedd tan y chweched Senedd. Rwyf i yn credu bod hyn yn dipyn o record i rywbeth gael ei basio mewn pedwaredd Senedd a pheidio â chael ei ddeddfu—ei gychwyn, yn hytrach—tan chweched Senedd, ac nid yw'n arfer da iawn o gwbl, hyd yn oed—. Wrth gwrs, mae yna rai rhesymau yn sgil COVID i esbonio'r estyniad i'r oedi gormodol hwn, ond mae'r rhan fwyaf o'r oedi gormodol wedi ei achosi gan ffactorau eraill, ac rwyf i'n credu y dylai Llywodraeth Cymru fod wedi rhoi mwy o sylw iddyn nhw. Ond, beth bynnag, mae hwnnw'n nodyn sur ac rwy'n awyddus i fod yn gadarnhaol ar y cyfan yn fy sylwadau.
Os gallaf i droi at yr adroddiad pwyllgor Cyfnod 1, hoffwn i dynnu sylw at y canlynol: cyfeiriwyd eisoes at yr angen am ddata gwell o'r sector rhentu preifat, ac rwy'n falch bod y Gweinidog wedi derbyn yr argymhelliad hwnnw. Fel y dywedais i, mae'n 20 y cant o'r sector tai erbyn hyn, ac mae angen gwell data arnom ni ac mae angen gwell cysylltu â thenantiaid y sector preifat arnom ni. Mae gennym ni gysylltiadau rhagorol dros ddegawdau lawer â'r rhai hynny yn y sector cymdeithasol, ac mae'n sector anoddach—mae'n fwy tameidiog, denantiaid y sector preifat—ond mae angen i ni gael gwell tystiolaeth ganddyn nhw. Mae angen gwneud rhai gwelliannau i'r Bil, ac rwy'n siŵr y bydd fy nghyd-Aelod Mark Isherwood yn siarad rhywfaint am hyn hefyd, ond byddem ni wedi pwyso'n gryf iawn am ymestyn y rhybudd tynnu yn ôl ac yna ailgyhoeddi y mae'n rhaid i landlordiaid ei roi o 14 i 28 diwrnod, ond rwyf i wrth fy modd bod y Gweinidog wedi derbyn yr argymhelliad hwnnw ac felly, yn ôl pob tebyg, ni fydd angen ein gwelliant ein hunain ar hynny.
Felly, rwyf i yn credu, i gloi, gan fod hyn yn cwblhau cyfres o ddiwygiadau i'r sector rhentu preifat, gan ein bod ni wedi symud o droi allan heb fai, i bob pwrpas, i droi allan am reswm, fod hawl y landlord i gael proses effeithiol yn bwysig iawn. A dyna pam mae'r ddau bwyllgor wedi gwneud y pwynt hwn ynghylch yr angen i landlordiaid allu cael gafael ar weithdrefn effeithlon a chost isel, ac o bosibl y byddai'n well gwneud hynny drwy dribiwnlys tai. Ac rwyf i yn gobeithio y bydd hynny yn cael ei ystyried o ddifrif yn y chweched Senedd na fyddaf i'n Aelod ohoni, ond byddwn i yn annog yr Aelodau sy'n cael eu hethol i honno i edrych ar y rhan benodol honno, oherwydd ei bod yn rhan o'r cydbwysedd, ac mae gan landlordiaid hawl i adfeddiannu eu heiddo ac mae'n rhaid bod â phroses sy'n effeithlon er mwyn iddyn nhw wneud hynny pan fydd rheswm i wneud hynny.
Mae'n bleser dilyn David Melding yn y ddadl hon. Mae Plaid Cymru yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil hwn, ond nid ydym ni'n credu bod y Llywodraeth wedi mynd yn ddigon pell. Rydym ni, wrth gwrs, yn cymeradwyo argymhellion adroddiadau'r pwyllgorau, ac yn diolch i Gadeirydd a chlercod y pwyllgorau am eu cefnogaeth wrth gasglu'r dystiolaeth a arweiniodd at ein hargymhellion yn yr adroddiad hwnnw. Mae gwerth mewn tynnu sylw, fel y mae David Melding newydd ei wneud, at y ffaith bod y Bil yn diwygio Deddf nad yw wedi ei gweithredu eto, Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016. Ac fel y mae'r pwyllgor wedi ei nodi hefyd, mae bod â'r bwlch sylweddol hwn rhwng Bil yn dod yn gyfraith ac yn cael ei weithredu yn anarferol ac yn destun gofid. Os ydym ni wedi dysgu unrhyw beth eleni, y wers yw nad yw diffyg gweithredu a syrthni gan y Llywodraeth yn arwain at wasanaeth cyhoeddus da, ac rwy'n gobeithio bod y wers honno wedi ei dysgu o'r profiad. Ond nodyn sur yw hwnnw ac rwy'n gobeithio bod yn fwy cadarnhaol yn rhai o'r sylwadau hyn.
Mae'n amlwg, er bod y Bil yn ymestyn y cyfnod cyn caniatáu troi allan heb fai, ei fod yn cynrychioli newid barn gan y Llywodraeth, oherwydd fe wnaeth y Prif Weinidog presennol, wrth gwrs, addo gwaharddiad llwyr yn ystod ei ymgyrch arweinyddiaeth. Nawr, mae hynny'n rhywbeth y byddwn ni, fel Plaid Cymru, yn dymuno dychwelyd ato mewn cyfnodau diweddarach. Mae'r cyfnod rhybudd estynedig yn ddechrau, ac mae'r Llywodraeth wedi cyfiawnhau ymestyn y cyfnod i chwe mis gan nad oedd y ddau fis o rybudd blaenorol yn ddigon o amser i denantiaid sicrhau llety amgen yn yr un gymuned neu ardal â'r ysgol y mae eu plentyn yn ei mynych. Nid yw'n ddigon o amser i drefnu newidiadau i becynnau gofal, i gynilo i dalu costau symud a chynllunio ar gyfer symud o amgylch bywydau bob dydd tenantiaid, gan gynnwys ymrwymiadau cyflogaeth a theuluol.
Nawr, rwy'n credu mai'r pwynt cyntaf yn y fan yna yw'r mwyaf argyhoeddiadol o bosibl: pam ddylai addysg a datblygiad personol unrhyw blentyn gael eu haberthu? Oherwydd, yn rhy aml yn y wlad hon, rydym ni'n ystyried eiddo fel buddsoddiad ac yn rhoi blaenoriaeth i hawliau landlordiaid dros hawliau plant i fwynhau plentyndod sefydlog. Mae chwe mis yn welliant—mae'n gwarantu, i bob pwrpas, denantiaeth am flwyddyn—ond byddwn i'n dal i gwestiynu a fyddai hynny yn ddigon o amser bob amser. Mewn ardaloedd gwledig, neu yng nghymunedau'r Cymoedd, mae prinder llety addas yn aml. Felly, mae'n bosibl na fyddai hyd yn oed chwe mis o rybudd yn ddigon o amser i deulu ddod o hyd i eiddo arall sy'n galluogi ei blentyn i aros yn yr un ysgol.
Llywydd, mae angen gwirioneddol i ni roi'r ddeddfwriaeth hon yn ei chyd-destun. Os caiff ei phasio heb ei diwygio, bydd tenantiaid yng Nghymru yn parhau i gael llai o amddiffyniad rhag troi allan heb fai nag yn yr Alban ac, yn wir, yn Lloegr, lle mae'r ddeddfwriaeth arfaethedig ar gyfer gwaharddiad llwyr ar droi allan heb fai. Mewn gwirionedd, y cwestiwn yw: pam newid meddwl? Mae'r Llywodraeth wedi dweud y byddai gwaharddiad llwyr yn torri hawliau dynol, ond, os yw hynny'n wir, pam nad oes unrhyw gymdeithasau landlordiaid cyfoethog wedi dwyn Llywodraeth yr Alban i'r llys?
Nawr, mae'r Llywodraeth hefyd wedi dweud y dylai landlordiaid allu cael eu heiddo yn ôl, er enghraifft, os mai dim ond un eiddo y maen nhw'n berchen arno a'u bod yn wynebu digartrefedd eu hunain. Nawr, o dan yr amgylchiadau hynny, wrth gwrs y byddem ni eisiau amddiffyniad, ond bydd amrywiaeth o resymau eraill o hyd lle gallai landlord gymryd y camau hyn. Y cyfan yr ydym ni eisiau ei weld yw bod gan denant da sy'n talu rhent ac yn gofalu am yr eiddo ei hawl i fywyd teuluol sefydlog wedi ei warchod, ac nad yw pedwar mis ychwanegol o amddiffyniad rhag troi allan heb fai yn mynd yn ddigon pell ar gyfer hynny. Dylem ni roi terfyn ar droi allan heb fai, fel yr addawodd y Prif Weinidog. Dylem ni fod â pholisi o gefnogi tenantiaid i fod yn berchnogion cartrefi trwy sefydlu dulliau er mwyn iddyn nhw allu prynu'r cartref oddi wrth landlordiaid sy'n dymuno gadael y farchnad, a hefyd ariannu cymdeithasau tai i gymryd eiddo oddi wrth landlordiaid sy'n dymuno gadael y farchnad. Oherwydd, mae hyd yn oed cymdeithasau'r landlordiaid yn cytuno y dylem ni fod yn cael gwared ar landlordiaid gwael, ac yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf rydym ni wedi gweld gormod o landlordiaid gwael. Ac mae'n rhaid rhoi terfyn ar y canfyddiad, a gaiff ei annog gan y cyfryngau, fod eiddo yn ffordd o wneud arian yn gyflym. Cartref rhywun yw tŷ yn bennaf oll; ni ddylid ei ystyried yn ased, yn ffordd o gronni cyfoeth, yn enwedig nid yn sgil tlodi pobl eraill.
Felly, mae llawer yn y Bil hwn yr ydym ni yn ei groesawu, ond mae llawer mwy yr hoffem ni weld y Llywodraeth yn ei wneud a byddwn ni'n pwyso am hyn yn y cyfnodau diweddarach. Diolch.
Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei datganiad heddiw ac am ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil hwn. Hoffwn i gofnodi fy niolch i'r pwyllgorau a adroddodd ar y Bil hwn. Mae'r adroddiadau yn gytbwys ac yn ddiddorol.
Unwaith eto, byddaf i'n datgan buddiant. Rwyf i yn rhywbeth rwyf i'n ei alw yn landlord damweiniol—fe wnes i etifeddu tŷ fy nhad ac rwy'n rhentu'r eiddo erbyn hyn i deulu lleol. Drwy wneud hynny, rwy'n rhannol yn darparu ar gyfer fy henaint ac yn ychwanegu at fy mhensiwn. Rwy'n gwybod bod eraill yn rhentu eiddo maen nhw wedi ei etifeddu dim ond er mwyn ad-dalu ffioedd cartref gofal sy'n ddyledus i gynghorau. Rwyf i wedi cofrestru gyda Rhentu Doeth Cymru, mae'r eiddo yn cael ei reoli gan asiant, cynyddodd y ffioedd 1 y cant pan gafodd Deddf Rhentu Cartrefi (Ffioedd ac ati) (Cymru) 2019 ei chyflwyno. Mae'n rhaid i mi lenwi ffurflen dreth. Mae'n gyfrifoldeb gwirioneddol ac mae'n teimlo'n rhy aml fel bwrn. Rwy'n dweud hyn wrthych chi, gan fy mod i'n teimlo bod gan lunwyr polisi a rhai yn y Siambr hon farn ar landlordiaid sydd yn sownd rywle yn y 1970au a'r 1980au—pobl gyfoethog, ddi-hid sy'n hapus i gyfrif eu harian tra bod eu tenantiaid yn byw mewn tlodi. Yn sicr, nid yw hynny yn wir mewn llawer o amgylchiadau.
Ond, ers dros ddegawd neu ddau erbyn hyn, mae pobl gyffredin wedi clywed y dylen nhw gynilo ar gyfer eu henaint ac mae llawer wedi ei ystyried yn beth da i fuddsoddi eu harian mewn eiddo. Ac yna daw cyni ac mae landlordiaid yn cael eu trethu a'u rheoleiddio, maen nhw'n talu'n fwy ac yn gorfod gwneud mwy nag erioed o'r blaen. Felly, i berchnogion un eiddo prynu-i-osod yn unig, mae'n eithaf beichus ac yn mynd yn opsiwn llai a llai deniadol. Gall fod yn wahanol i ddeiliaid portffolio, wyddoch chi.
Ni fyddaf i'n ymhelaethu yma yn awr pa mor anniben yw'r gyfres hon o ddeddfwriaeth, gyda diwygiadau yn cael eu gwneud i'r Ddeddf tai nad yw wedi dod i rym eto; mae'r ddau bwyllgor wedi codi'r pwynt hwn gyda chi. Fodd bynnag, rwyf i yn credu bod gwerth gwneud y pwynt bod angen i bobl fod â hyder yn y ddeddfwriaeth sy'n cael ei datblygu yma yn y Senedd hon ac yn ei bwriad a'i heffaith. Nid oes gen i unrhyw anhawster o ran cymryd camau i alluogi tenantiaid i deimlo yn fwy diogel ac i fod yn fwy diogel yn eu cartrefi rhent. Fel y dywedodd Delyth, wyddoch chi, eu cartrefi nhw ydyn nhw. Maen nhw'n talu am y fraint o gael byw yn yr eiddo hwnnw; dylai fod ganddyn nhw rywfaint o sicrwydd yn y ddeiliadaeth. Ac rwy'n deall pa mor anodd y gall fod pan fydd angen yr eiddo yn ôl ar landlord ac mae cysylltiadau teuluol â'r ardaloedd a'r ysgolion i'w hystyried. Fodd bynnag, mae'n rhaid i mi gyfaddef i mi ddarllen â chryn syndod bod unrhyw dorri ar hawliau dynol landlordiaid yn cael ei ystyried yn iawn a bod eu hanghenion a'u hawliau nhw yn cael eu hystyried yn isradd i anghenion y tenant. Byddaf i'n rhoi dwy enghraifft i chi: mae etholwr A yn ffurfio perthynas newydd ac yn symud i mewn gyda'i phartner newydd. Mae hi'n rhentu ei thŷ hi i rywun arall. Mae ei pherthynas yn chwalu, nid yw hi'n gallu cael mynediad i'w chartref ei hun oherwydd y gyfraith hon. Mae hi'n ddigartref nes iddi gyflwyno'r hysbysiadau perthnasol. Enghraifft: mae etholwr B yn cael diagnosis o salwch terfynol. Mae'n dymuno gwerthu ei holl asedau i wneud yr holl bethau ar ei restr fwced frys iawn erbyn hyn. Nid yw'n cael gwneud hyn oherwydd bod angen iddo gyflwyno hysbysiadau perthnasol. Efallai y bydd y dyn hwnnw druan yn marw wrth iddo aros. Sut y mae hyn yn deg?
Rydych chi'n sôn yn eich tystiolaeth i bwyllgor bod mwyafrif y landlordiaid yn landlordiaid da, felly beth ydych chi'n ceisio ei wella yn y fan yma? Hefyd, mae'n ymddangos bod cynsail y Bil wedi ei seilio ar dystiolaeth anecdotaidd, fel sydd wedi ei ddweud eisoes, yn bennaf drwy waith achos etholaethol. Mae hynny yn peri pryder mawr i mi. Mae'n ymddangos bod y Bil wedi ei seilio ar denant perffaith sy'n talu ei rent ac yn gofalu am yr eiddo, ond mae pob un ohonom ni yn gwybod nad yw hyn yn wir bob amser. Rwyf i wedi gweld cryn dipyn o achosion fel hynny, diolch byth nid ar fy eiddo fy hun ond trwy fy asiantau. Mae llawer o landlordiaid wedi gorfod ymdrin â thenantiaid twyllodrus nad ydyn nhw'n talu dim neu sy'n dinistrio'r eiddo, neu'n gwrthod gadael pan fyddan nhw i fod i'w wneud. Gall y math hwn o beth ddifetha bywydau pobl. Felly, rwy'n falch bod prosesau y llysoedd wedi eu hystyried. Mae rhentu eiddo i bobl yn edrych yn fwyfwy tebyg i draffig un ffordd, wrth i'r hawliau i gyd orwedd gyda'r tenantiaid a'r rhwymedigaethau i gyd gyda'r landlord. Nid yw hyn yn creu sector rhentu preifat bywiog, felly rwyf i'n credu ei bod yn hanfodol dangos rhywfaint o ewyllys da, a phan fo angen prosesau llysoedd neu dribiwnlysoedd, bod hyn yn digwydd yn gyflym ac yn effeithlon. Felly, rwyf i'n credu bod modd cael gwell cydbwysedd, Gweinidog. Os na, bydd landlordiaid preifat, fel sydd wedi ei ddweud o'r blaen hefyd, yn pleidleisio gyda'u traed, a bydd mwy o bwysau'n cael ei roi ar y farchnad dai sydd eisoes dan bwysau os byddan nhw'n gadael y farchnad honno. Diolch.
Huw Irranca-Davies. Huw Irranca-Davies, nid ydym yn eich clywed chi ar hyn o bryd. Mae'n ymddangos eich bod chi'n gwybod ein bod ni eisiau eich clywed chi.
Mae'n ddrwg gen i, Llywydd, mae'r botwm bach newydd ddod drwodd i ganiatáu i mi siarad.
Iawn. Ewch chi ymlaen.
Diolch yn fawr iawn. A gaf i, yn gyntaf, fel aelod o'r pwyllgor, ddiolch i fy nghyd-Aelodau ar y pwyllgor a'r Cadeirydd, a hefyd y tystion, am yr hyn sydd wedi bod yn dystiolaeth wirioneddol ddiddorol a thrylwyr, fel y mae'r pwyllgor hwn bob amser yn ei chymryd, gan geisio sicrhau bod y cydbwysedd hwn yn iawn o ran sicrwydd deiliadaeth i denantiaid a hefyd, y cydbwysedd hawliau i landlordiaid? Ac, wrth siarad yn rhan o'r ddadl hon i gefnogi, yn gryf mae'n rhaid i mi ddweud, nid yn unig yr egwyddorion cyffredinol, ond hefyd y syniad o fwrw ymlaen â hyn am resymau y byddaf i'n sôn amdanyn nhw mewn eiliad, rwyf i hefyd yn datgan buddiant oherwydd fy mod i yn landlord fy hun. Rwyf i wedi bod yn denant droeon wrth i mi symud o amgylch y wlad. Rwy'n landlord, rhywfaint fel yr oedd Mandy yn ei ddweud, drwy ddamwain—drwy amgylchiadau teuluol. Rwy'n credu y bydd llawer o fy etholwyr i yn yr un cwch, a bod ganddyn nhw, efallai drwy brofedigaeth, efallai drwy gymynrodd neu beth bynnag, un eiddo.
Ond lle y byddwn i'n anghytuno â Mandy yw fy mod i'n credu bod y cynigion yn y Bil yn gywir ar y cyfan mewn gwirionedd. Rwy'n edrych ymlaen at ddadl bellach ar hyn, ond rwy'n credu eu bod yn gywir ar y cyfan, oherwydd yr hyn yr ydym ni wedi ei gael ers amser maith yw tuedd gormodol tuag at bŵer y landlord, ac mae llawer o landlordiaid da ar gael, ond mae tenantiaid wedi bod yn ddi-rym ac, o ran y denantiaeth ddiogel hon, rydym ni wedi cymryd camau mor fawr yng Nghymru, yn enwedig gyda'r dull rhentu doeth, sydd, yn fy marn i, wedi achosi llawer o landlordiaid i ymateb i'r her a chymryd y cyfrifoldebau o ddifrif. Ond mae'r Bil hwn, mae'n rhaid i mi ddweud, yn mynd ag ef ymhellach hefyd, ond rwy'n edrych ymlaen at weld y dadleuon ehangach arno yn cael eu cyflwyno.
Ond, Gweinidog, rwy'n mynd i gynnig ychydig o bêl dro i chi, oherwydd er fy mod i'n cytuno yn llwyr â'r hyn y mae'r pwyllgor wedi ei gyflwyno a llawer o sylwadau David Melding ac eraill yma heddiw a Chadeirydd y pwyllgor, hoffwn i sôn am fater ychydig yn wahanol, ac mae'n ymwneud â beth arall y bydd y Bil hwn yn ei wneud. A'r rheswm rwy'n dweud hyn yw fy mod i'n dymuno diolch i bobl Diogelwch Trydanol yn Gyntaf am eistedd i lawr gyda mi yn rhithwir a thrafod rhywfaint am eu cefnogaeth fawr i'r Bil hwn, mae'n rhaid i mi ddweud, oherwydd eu bod nhw yn dymuno gweld hyn yn cael ei gyflawni yn gyflym ac yn cael ei roi ar waith, ond hefyd yr hyn y maen nhw'n ystyried y bydd hyn yn ei wneud o ran mesurau ffitrwydd i fod yn gartref sydd yn y Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) wreiddiol a'r hyn y gallai hyn ei wneud yn awr, mewn gwirionedd, ar gyfer diogelwch trydanol os byddwn ni'n bwrw ymlaen ag ef ac os byddwn ni'n gwneud hynny'n iawn. Y cefndir i hyn, wrth gwrs—gyda llaw, Gweinidog, mae'n rhaid i mi ddweud fy mod i'n gobeithio cael ymateb cadarnhaol gennych chi, oherwydd bod y prif unigolyn materion allanol ar gyfer Diogelwch Trydanol yn Gyntaf yng Nghymru yn digwydd byw yn fy nhref i, felly mae wedi bod yn curo ar fy nrws i—yw oherwydd, wrth gwrs, ein bod ni'n gwybod bod 62 y cant o danau domestig yn cael eu hachosi gan drydan, ac mae'r Bil hwn yn rhoi arwyddocâd mawr i'r mesurau ffitrwydd i fod yn gartref, nid yn unig i landlordiaid cymdeithasol ac i landlordiaid preifat, ond hefyd oherwydd yr hyn y mae'n ei wneud o ran y mater ehangach hwnnw yn ymwneud â diogelwch. Felly, y gofynion o ran diogelwch trydanol yw un, gan Diogelwch Trydanol yn Gyntaf, bod Aelodau'r Senedd yn cefnogi'r Bil hwn ac nad oes unrhyw oedi, a dweud y gwir, i sicrhau nad oes rhagor o oedi i'r gwiriadau diogelwch trydanol sy'n rhan o'r mesurau ffitrwydd i fod yn gartref hyn, eu bod yn cael eu gweithredu cyn gynted â phosibl. Maen nhw yn gofyn hefyd, Gweinidog, bod Llywodraeth Cymru yn llunio amserlen glir mewn gwirionedd o ran gweithredu'r gwiriadau diogelwch trydanol gorfodol yr ydym ni'n dal i aros amdanyn nhw, ac rwy'n credu y bydd symud hyn ymlaen yn gyflym yn ein galluogi i wneud hyn. Tybed a fyddai'r Gweinidog yn gallu ymateb i'r mater hwnnw ynghylch yr amserlen ar gyfer y gwiriadau diogelwch hynny hefyd, ond, wrth gwrs, heb aros i wneud hyn, oherwydd yn y cyfamser, mae angen datrys hefyd y mater o fwrw ymlaen mewn gwirionedd ag ymweliadau diogelwch yn y cartref i berchnogion cartrefi agored i niwed gan fecanweithiau sefydledig y gwasanaethau tân ac achub, a'u bod yn cyfeirio i wasanaethau gofal ac atgyweirio, er enghraifft, pan fo peryglon trydanol yn cael eu nodi.
Felly, Gweinidog, rwy'n gwbl gefnogol wrth siarad yn y ddadl ar egwyddorion cyffredinol y Bil hwn. Nid wyf i'n gweld yr anhawster i gyflwyno'r mesurau hyn cyn i'r Bil cyfan yr ydym ni wedi ei roi ar waith gael ei ddeddfu. Mae'n anarferol iawn, mae'n rhaid i mi ddweud, ond rwy'n credu ei fod yn iawn, oherwydd ein bod ni wedi sylwi ar bethau y mae angen ymdrin â nhw, ond, wrth wneud hynny, a allwn ni hefyd ystyried y materion hynny sy'n ymwneud â'r mesurau ffitrwydd i fod yn gartref, ac yn enwedig y rhai hynny sy'n ymwneud â diogelwch trydanol, gan ein bod ni'n gwybod ei fod yn arwain at farwolaethau? Os gallwn ni wneud hyn yn iawn, byddwn ni'n achub bywydau yn ogystal ag ymdrin â'r mater hwn o gydbwysedd sicrwydd deiliadaeth i denantiaid a gyda landlordiaid. Diolch yn fawr iawn.
Fel y mae memorandwm esboniadol Llywodraeth Cymru i'r Bil hwn yn ei ddweud,
'Mae'r sector rhentu preifat yn chwarae rôl bwysig wrth ddiwallu anghenion pobl Cymru o ran tai' ac
'mae Llywodraeth Cymru am sicrhau'r cydbwysedd iawn o gefnogaeth a rheoleiddio o fewn y sector rhentu preifat.'
Fodd bynnag, o ystyried dibyniaeth gynyddol pobl ar y sector rhentu preifat ar gyfer tai, mae'n rhaid cael cydbwysedd manwl i amddiffyn y ddwy ochr yn y trefniadau hyn ac osgoi canlyniadau anfwriadol sy'n mynd yn groes i'r nod hwn. Wrth gwrs, mae angen sicrwydd cartref da a landlord cyfrifol ar denantiaid, ond mae angen sicrwydd tenantiaid cyfrifol ar landlordiaid hefyd. Mae mwyafrif y landlordiaid yn unigolion sy'n gosod un neu ddau eiddo i'w rentu. Mae llawer o'r rhain yn dibynnu ar yr incwm hwnnw ar gyfer eu costau byw o ddydd i ddydd, neu i ddarparu pensiynau. Byddai unrhyw gamau gweithredu sy'n gyrru landlordiaid da allan o'r sector ac yn lleihau'r stoc dai sydd ar gael i'w rhentu yn niweidiol i denantiaid yn y tymor hir.
Er bod y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn argymell cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil hwn, mae hefyd yn cydnabod bod rhaniad clir yn y farn ar ba un a oedd angen y ddeddfwriaeth. Mae memorandwm esboniadol y Bil yn nodi mai nod cyffredinol y Bil yw gwella sicrwydd deiliadaeth i'r rhai hynny sy'n rhentu eu cartrefi yng Nghymru. Fodd bynnag, roedd yr ymatebion i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru yn gymysg. Er bod 70 y cant o'r deiliaid contract yn y sector hwn a ymatebodd yn cefnogi'r prif gynnig i ymestyn y cyfnod rhybudd ar gyfer troi allan adran 173 i chwe mis, a bod 78 y cant yn cefnogi'r cynnig i atal hysbysiad troi allan rhag cael ei gyflwyno o fewn chwe mis cyntaf contract meddiannaeth newydd, roedd 94 y cant o landlordiaid preifat a ymatebodd yn erbyn y cyntaf, ac roedd 92 y cant o asiantau gosod eiddo yn erbyn yr olaf. Er gwaethaf y gwahaniaeth barn hwn, byddwn ni'n cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil i roi mwy o sicrwydd i bobl sy'n rhentu eu cartrefi yng Nghymru. Fodd bynnag, rydym ni hefyd yn cydnabod pryderon landlordiaid o ran yr effaith y gallai'r diwygiadau hyn ei chael ar eu gallu i ddiogelu eu hincwm, cael gwared ar denantiaid gwael pan fo popeth arall wedi methu, a sicrhau y gallan nhw ailfeddiannu'r eiddo o dan amgylchiadau eithriadol, megis yr angen i symud ynddo eu hunain.
Fel y dywedodd Cymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid Preswyl mewn tystiolaeth ysgrifenedig i'r pwyllgor,
Nid yw landlordiaid yn mynd i'r llys heb reswm da ac mae'n well ganddyn nhw gadw tenantiaid da yn eu cartrefi.
Mae ARLA Propertymark, y corff proffesiynol a rheoleiddio ar gyfer asiantau gosod eiddo, yn datgan y bydd gosod eiddo yn llai hyfyw i landlordiaid o dan gynigion presennol y Bil, lle nad oes, ffordd syml o adennill yr eiddo yn gyflym pan fydd pethau yn mynd o chwith.
Maen nhw'n nodi o ganlyniad y bydd llai o gartrefi rhentu preifat, gan arwain yn y pen draw at lai o ddewis o le i fyw i denantiaid, rhenti cynyddol a gorfodi landlordiaid i fod yn fwy amharod i fentro a dewis rhoi cartref i denantiaid risg isaf yn unig. Er mwyn gwneud y ddeddfwriaeth yn ymarferol, maen nhw'n datgan bod yn rhaid diwygio'r Bil i gynnwys pedair sail orfodol dros adfeddiannu: pan fo'r landlord yn bwriadu gwerthu'r eiddo, yn bwriadu symud i mewn i'r eiddo, yn bwriadu symud aelod o'r teulu i'r eiddo, a phan fo angen i fenthyciwr morgais adennill yr eiddo. Caiff ei nodi er bod bwriad Llywodraeth y DU i ddiddymu camau troi allan heb fai yn Lloegr yn mynd ymhellach na Bil Llywodraeth Cymru, bod ei Bil Diwygio i Rentwyr yn rhoi mwy o hawliau i landlordiaid gael meddiant o'u heiddo drwy'r llysoedd, pan fo angen dilys iddyn nhw wneud hynny, trwy ddiwygio'r ddeddfwriaeth bresennol. Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi dweud y byddan nhw yn gweithio i wella proses y llysoedd er mwyn ei gwneud yn gyflymach ac yn haws i landlordiaid gael eu heiddo yn ôl yn gynt.
Yng ngoleuni canlyniadau anfwriadol y Bil hwn, mae Cymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid Preswyl wedi ceisio datblygu cyfaddawdau adeiladol sy'n ceisio cydbwyso anghenion landlordiaid a thenantiaid, ac rwy'n croesawu'r ffaith bod y Gweinidog eisoes wedi derbyn un ohonyn nhw. Er enghraifft, yn ogystal, caniatáu i hysbysiad troi allan heb fai adran 173 o chwe mis gael ei gyflwyno ar ôl pedwar mis ond i ddod i rym ar ddiwedd y cyfnod penodedig o chwe mis, gan roi mwy o rybudd i denantiaid a mwy o hyblygrwydd i'r landlord; a diwygio hyd y contract lleiaf i 12 mis, ond caniatáu toriad gan y tenantiaid yn unig o chwe mis os yw'r landlord a'r tenant yn cytuno ar hynny ar ddechrau'r contract.
Rwyf i hefyd, wrth wrando ar y cyfraniad blaenorol, yn nodi'r alwad gan Diogelwch Trydanol yn Gyntaf i Lywodraeth Cymru weithredu cyn gynted ag y bo modd y gofynion yn y ddeddfwriaeth wreiddiol i landlordiaid sicrhau bod unrhyw anheddau a gaiff eu gosod yn addas i fod yn gartref, gan gynnwys gwiriadau diogelwch trydanol gorfodol. Diolch.
Caroline Jones.
Na, Llywydd, nid wyf i wedi cyflwyno cynnig i siarad yn y ddadl hon, diolch. Mae'n ddrwg gen i.
Gwych. Peidiwch â chymryd hynny'n bersonol; ond mae'n agosáu at 8 o'r gloch, ac mae hynny'n codi fy nghalon—un siaradwr yn llai. Daw hynny â ni at y Gweinidog i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Llywydd. A gaf i ddechrau unwaith eto drwy ddiolch i John, Llyr a Mick am eu sylwadau adeiladol a defnyddiol heno a hefyd, unwaith eto, am waith eu priod bwyllgorau yr ydym ni'n ddiolchgar iawn amdano? Ac, fel y dywedais i ar y dechrau, rwy'n gwerthfawrogi'n fawr y gwaith caled aruthrol sydd wedi digwydd o dan amgylchiadau anodd iawn, ac yn arbennig o ddiolchgar i Llyr, gan ei fod wedi sôn ei fod wedi bod trwy weithdrefn gymharol anarferol i fynd trwy'r gwahanol gamau craffu. Felly rwy'n ddiolchgar iawn i bobl am wneud hynny. Rwyf i hefyd yn ddiolchgar iawn i'r holl Aelodau eraill sydd wedi siarad yn ystod y ddadl heddiw.
Hoffwn i wneud un neu ddau o sylwadau mewn ymateb i wahanol sylwadau y mae'r Aelodau wedi eu gwneud. Ni fydd gen i amser i fynd trwy bob un ohonyn nhw, Llywydd, ond hoffwn i ddechrau trwy ddweud ei bod yn bwysig cadw rheoliadau COVID ar wahân i'r Bil diwygio sydd ger ein bron ni heddiw. Rwy'n credu bod nifer o'r Aelodau wedi cyfuno un neu ddau o'r materion. Rwy'n hapus iawn i gynnal sesiwn briffio yn nes ymlaen i'r Aelodau ynghylch y gwahaniaethau rhwng y ddau.
O ran rhai o'r materion y gwnaeth nifer o'r Aelodau eu codi ynghylch gallu'r llysoedd i ymdopi, rydym ni'n disgwyl gostyngiad eang mewn achosion o feddiant landlordiaid cymdeithasol o ganlyniad i nifer o gytundebau yr ydym ni wedi eu gwneud â landlordiaid cymdeithasol yng Nghymru, a bydd hynny'n rhyddhau nifer o adnoddau'r llys i ddarparu ar gyfer unrhyw gynnydd mewn gwrandawiadau sy'n deillio o'r Bil hwn, er nad ydym ni'n disgwyl i hynny ddigwydd.
O ran sefyllfa'r Alban, mae'n ymddangos bod nifer o bobl o dan yr argraff bod yr Alban wedi gwneud rhywbeth nad ydym ni yn ei wneud, ond i fod yn glir, mae'r Bil diwygio hwn yn gwarantu chwe mis o rybudd pan nad yw'r tenant ar fai. Nid yw hyn yn wir yn yr Alban, lle mae'n bosibl troi tenant nad yw ar fai allan â chyn lleied â 28 diwrnod o rybudd, er enghraifft, pan fo landlord yn dymuno gwerthu'r tŷ y mae'r tenant yn ei feddiannu, ac nad oes angen i'r tenant fod wedi cyflawni unrhyw fai wrth feddiannu'r tŷ hwnnw er mwyn i hynny fod yn weithredol. Felly nid yw hynny yn wir, Llywydd, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn bod yr Aelodau yn deall hynny.
Mae nifer o bethau eraill y mae'r Aelodau wedi eu codi ynghylch y dystiolaeth, ac yn y blaen, ond yr un oedd yr ergyd ym mhob un. Y dystiolaeth sydd gennym ni yw mai dim ond deufis o rybudd y mae'n ofynnol ei roi ar hyn o bryd a, heb y Ddeddf diwygio, bydd hynny yn parhau. Mae'n amlwg nad yw hynny'n ddigon i ddod o hyd i gartref newydd neu ysgolion newydd i'ch plant, ac yn y blaen, ac felly bydd hyn yn rhoi llawer mwy o amser i denantiaid allu gwneud hynny ac, wrth gwrs, nid oes modd rhoi rhybudd yn y chwe mis cyntaf, felly mae'n rhoi o leiaf flwyddyn o sicrwydd deiliadaeth i bawb. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn dweud hynny.
Rwyf i'n awyddus hefyd i sicrhau'r Aelodau ein bod ni'n parhau i weithio'n agos gyda'n holl randdeiliaid, o'r sector landlordiaid a gyda'r rhai hynny sy'n cynrychioli buddiannau deiliaid contractau yng Nghymru, wrth i ni symud tuag at gam nesaf y broses graffu. A Llywydd, gallwch chi ddweud o'r gwahanol gyfraniadau o ochr arall y llawr ein bod ni'n cael ein beirniadu gan bobl sydd o'r farn ein bod ni'n llym ar y landlordiaid ac yn cael ein beirniadu gan bobl sydd o'r farn nad ydym ni wedi ystyried hawliau tenantiaid, ac felly rwy'n teimlo'n gryf iawn ei bod hi'n ymddangos ein bod ni yn cyflawni'r cydbwysedd y gwnaethom ni siarad amdano gymaint yn rhan o'r broses hon.
Dylwn i ychwanegu wrth gloi, yn ogystal â gwelliannau'r Llywodraeth yr wyf i wedi ymrwymo i'w cyflwyno mewn ymateb i argymhellion y pwyllgorau heddiw, y bydd nifer o welliannau gan y Llywodraeth yng Nghyfnod 2 hefyd i gywiro materion technegol, yn y Bil hwn ac yn Neddf 2016, y mae'n ei diwygio. Nid yw'r un o'r rhain yn arwyddocaol, gan hynny rwy'n golygu na fyddan nhw'n newid cwmpas y ddeddfwriaeth na'r polisi cyffredinol y mae'n ceisio'i gyflawni, a byddaf i'n sicrhau bod yr Aelodau yn cael eu briffio yn llawn o ran diben ac effaith y gwelliannau hynny pan fyddwn ni'n eu cyflwyno.
Fe wnes i sôn yn fy sylwadau agoriadol am fy siom o orfod gohirio gweithredu'r Ddeddf ddiwygiedig i ddechrau 2022. Fodd bynnag, mewn ymgais i gloi ar nodyn mwy cadarnhaol, gallaf i ddweud yn onest fy mod i'n credu y bydd yn gryn gyflawniad ar ran bob un ohonom ni os gallwn ni gwblhau'r gwaith sy'n weddill i gael y Bil hwn ar y llyfr statud cyn i'r tymor hwn ddod i ben, ac rwyf i'n edrych ymlaen yn fawr at barhau i ymgysylltu â'r Aelodau o bob plaid yn yr ysbryd adeiladol sydd wedi bod yn nodweddiadol yn ein gwaith ar y Bil pwysig hwn hyd yma. Diolch yn fawr, Llywydd.
Y cwestiwn yw, felly: a ddylid derbyn y cynnig o dan eitem 9? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Dwi'n gweld gwrthwynebiad i hynny, felly mae'r cynnig yna o dan eitem 9 yn cael ei ohirio tan y cyfnod pleidleisio.
Gan fod y bleidlais, felly, ar egwyddorion cyffredinol y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) Cymru wedi ei gohirio tan y cyfnod pleidleisio, byddaf hefyd yn gohirio'r bleidlais ar y penderfyniad tan y cyfnod pleidleisio hefyd.
Sy'n dod â ni at y cyfnod pleidleisio ac fe fyddwn ni'n cymryd egwyl o bum munund cyn cychwyn ar y bleidlais. Yr egwyl, felly.