1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 13 Hydref 2020.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau, ac, felly, yn gyntaf yr wythnos yma, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Paul Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, ddoe, rhybuddiodd un o'ch Gweinidogion iechyd y gellid cyflwyno ail gyfnod o gyfyngiadau symud cenedlaethol yma yng Nghymru. A yw hyn yn golygu bod dull presennol Llywodraeth Cymru o weithredu'r cyfyngiadau symud wedi bod yn fethiant?
Llywydd, dim mwy nag yr oedd cyhoeddiad Prif Weinidog y DU o system tair haen newydd yn Lloegr yn fesur o fethiant yn Lloegr. Mae'n bwynt arwynebol i'w wneud. Yr hyn yr oedd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn rhybuddio amdano ddoe yw bod niferoedd yr achosion coronafeirws yn tyfu ledled Cymru, bod y bwlch rhwng y rhannau hynny o Gymru nad ydyn nhw'n destun cyfyngiadau symud lleol a'r rhai sydd yn destun cyfyngiadau o'r fath yn lleihau, a bod yn rhaid i ni fod yn barod am y ffaith nad yw'r mesurau yr ydym ni wedi eu cymryd hyd yma yn ddigon i ymateb i ymosodiad y feirws yn ystod yr hydref a'r gaeaf. Cymerodd Prif Weinidog y DU gamau i newid trefniadau yn Lloegr ddoe oherwydd y cynnydd i'r feirws yno. Byddwn ninnau'n gwneud yr un peth yng Nghymru os bydd angen i ni wneud hynny yma.
Llywydd, wrth gwrs, mae'r Prif Weinidog eisiau siarad am Loegr, felly gadewch i ni siarad am Loegr. Gadewch i ni siarad am y ffaith fod y dystiolaeth ddiweddaraf gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â COVID yn gymesur uwch yma yng Nghymru nag yn Lloegr. Gadewch i ni siarad am y ffaith bod dwy ran o dair o'r profion a gynhelir yng Nghymru yn cael eu cynnal gan labordai goleudy'r DU ac felly mae'n amlwg nad yw capasiti Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cael ei ddefnyddio yn effeithiol yng Nghymru. A gadewch i ni siarad am y buddsoddiad enfawr y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud yng Nghymru i gefnogi ein busnesau a'n gwasanaethau cyhoeddus ledled y wlad—dros £4 biliwn hyd yma. Mae'n rhaid i mi ddweud, Llywydd, byddwn i eisiau siarad am Loegr pe byddwn i'n gyfrifol am hanes Llywodraeth Cymru.
Nawr, dull gweithredu Llywodraeth Cymru fu cyflwyno cymysgedd o gyfyngiadau symud ar draws siroedd a chyfyngiadau symud hyperleol, fel yn achos Llanelli a Bangor. Ac er mwyn barnu effeithiolrwydd, neu aneffeithiolrwydd yn wir, dull cyfyngiadau symud presennol Llywodraeth Cymru, mae'n hanfodol ei bod yn cyhoeddi data ar lefel gymunedol. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru hefyd gyhoeddi data yn ôl demograffeg, fel y gallwn ni ddilyn tueddiadau a defnyddio ein hadnoddau yn well i amddiffyn ein pobl. Ac mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru gyhoeddi data trosglwyddo yn agored, fel ein bod ni'n gweld sut mae'r feirws yn cael ei drosglwyddo, er enghraifft, yn ôl aelwyd, lleoliad lletygarwch, gweithle neu drwy deithio. Ac mae'n rhaid i bobl Cymru allu barnu drostynt eu hunain pa un a yw'r mesurau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru hyd yma wedi bod yn gymesur ai peidio.
Nawr, mae rhai siroedd, wrth gwrs, wedi dewis cyhoeddi data cymunedol eu hunain, fel Rhondda Cynon Taf, Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Sir Fynwy, ac mae'r tryloywder hwnnw yn gwbl hanfodol. Ac mae'n gwbl deg y dylai pawb yng Nghymru gael mynediad at ddata ar eu cymuned leol eu hunain. Felly, Prif Weinidog, a wnewch chi ymrwymo nawr i arwain ar hyn, trwy gyhoeddi data ar sail gymunedol, ar sail demograffeg ac ar sail trosglwyddo, fel y gall pobl Cymru fod yn ffyddiog bod y mesurau cyfyngiadau symud presennol yn gymesur â bygythiad y feirws yn eu hardaloedd eu hunain?
Wel, Llywydd, polisi plaid yr Aelod yn wir yw: ar gyfer Cymru, gweler Lloegr, felly ni ddylai neb synnu at ei gyflwyniad i'r gyfres nesaf hon o gwestiynau.
Rwy'n cytuno gydag ef bod data ar lefel leol a gyhoeddwyd gan rai awdurdodau lleol yng Nghymru wedi bod yn ganllaw defnyddiol iawn i'r poblogaethau lleol hynny, ac y bydd yn annog awdurdodau lleol eraill, sydd mewn sefyllfa i wneud hynny, i wneud yr un peth. Mae Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi llawer iawn o ddata bob dydd ar coronafeirws, yn uniongyrchol ein hunain a thrwy Iechyd Cyhoeddus Cymru a thrwy agweddau eraill ar wasanaethau yr ydym ni'n gyfrifol amdanyn nhw. Yr hyn na wnaf i ei wneud yw cyhoeddi data sydd mor gyfnewidiol fel ei bod hi'n amhosibl dod i gasgliadau synhwyrol a dibynadwy ohonyn nhw. Mae angen i'r data yr ydym ni'n eu cyhoeddi fod yn ddata y gellir eu defnyddio yn synhwyrol, a phan ellir gwneud hynny, yna rydym ni'n gwneud hynny.
Wel, Prif Weinidog, rydych chi'n dweud eich bod chi, fel Llywodraeth, yn cyhoeddi'r data, ond nid yw hynny'n wir, nac ydy? Oherwydd mae Vaughan Gething eisoes wedi ei gwneud yn eglur na fydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi data mwy lleol i roi mwy o wybodaeth i bobl yng Nghymru. Oherwydd ar 25 Medi, dywedodd nad yw eisiau darparu sylwebaeth barhaus. Rydych chi'n dweud un peth ac mae Vaughan Gething yn dweud rhywbeth arall. Yn amlwg, nid ydych chi'n unfrydol fel Llywodraeth, Prif Weinidog.
Mae Cymru angen cydbwysedd rhwng diogelu bywydau a bywoliaethau, ac nid ydym ni wedi gweld digon o ddata gwerthfawr hyd yn hyn i farnu cymesuredd mesurau Llywodraeth Cymru. Yn hytrach, yr hyn yr ydym ni wedi ei weld yw Llywodraeth Cymru yn pwyso am waharddiad ar deithio, er nad yw wedi darparu unrhyw tystiolaeth bod angen hynny mewn gwirionedd. A, Prif Weinidog, cyn i chi fwrw ymlaen â gwaharddiad ar deithio, dylech chi gyhoeddi'r dystiolaeth sydd gennych chi sy'n profi'r ddadl dros hynny.
Ac yn y cyfamser, mae Llywodraeth Cymru wedi cael digon o gyfleoedd i gyflwyno profion gorfodol ym Maes Awyr Caerdydd. Dywedasoch bedair wythnos yn ôl eich bod chi mewn trafodaethau gyda rheolwyr y maes awyr yr ydych chi'n berchen arno, ac eto ni fu unrhyw gynnydd o hyd. Prif Weinidog, mae nifer y teithwyr wedi gostwng gan 93 y cant, felly a oes gennych chi unrhyw fwriad i gyflwyno profion gorfodol—yr un profion y mae cydweithwyr eich plaid yn Llundain yn dal i alw amdanyn nhw—neu, fel sy'n wir am eich gwaharddiad arfaethedig ar deithio, ai'r cwbl yr ydych chi'n ei wneud yw aros i Loegr ei wneud yn gyntaf?
Wel, Llywydd, mae gen i ofn bod arweinydd yr wrthblaid ar chwâl yn llwyr y prynhawn yma: mae'n neidio o un peth sy'n annhebyg o ddigwydd i un arall. Nid oes unrhyw wahaniaeth rhwng y Gweinidog iechyd a minnau. Dywedais na fyddem ni'n cyhoeddi data ar lefel leol nad ydyn nhw'n ddibynadwy ac nad ydyn nhw'n gallu helpu pobl i wneud penderfyniadau cytbwys a phriodol; dyna mae'r Gweinidog iechyd yn ei ddweud, a dyna y mae angen i'r Aelod ei ddeall.
Gadewch i mi ymdrin â'r mater teithio, un y mae ef a'i blaid gymaint ar ochr anghywir y ddadl, gan wrthod cymryd cam syml a fyddai'n helpu i gadw Cymru yn ddiogel, ac sy'n creu dicter ofnadwy, gyda llaw, yn y rhan o Gymru y mae'n dod i'r Senedd i'w chynrychioli. Rhan o Gymru lle mae cyfradd bresennol coronafeirws yn is na 30 fesul 100,000 o'r boblogaeth, ond lle mae ei Lywodraeth ef, yn Lloegr, yn caniatáu i bobl o Lerpwl, lle mae 800 o achosion fesul 100,000, deithio o Lerpwl i Ddinbych-y-pysgod ac i orllewin Cymru i aros. Nawr, mae hynny yn annerbyniol i bobl yn yr ardal honno ac mae'n annerbyniol i minnau hefyd.
Holais Prif Weinidog y DU ynghylch y pwyntiau hyn eto ddoe. Unwaith eto, gwrthododd wneud y peth syml a'r peth iawn. Rwyf i wedi ysgrifennu ato unwaith eto heddiw. Rwyf i wedi cyflwyno'r dystiolaeth iddo, sy'n amlwg i unrhyw un ei gweld. Roedd gan yr Aelod ddiddordeb mawr mewn data yn gynharach yn y sesiwn hon. Cymeradwyaf iddo'r data yr wyf i'n cyfeirio atyn nhw yn y llythyr hwnnw, a fydd yn dangos pam mae'r cwbl y mae caniatáu i bobl o ardaloedd â chylchrediad uchel symud i ardaloedd â chylchrediad isel yn ei wneud yw cario'r feirws gyda nhw. Rydym ni'n atal hynny rhag digwydd yng Nghymru ac mae angen i Brif Weinidog y DU ei atal hefyd. A dylai fod yn siarad dros bobl Cymru, nid dros ei safbwynt pleidiol cul ei hun.
O ran y maes awyr, rydym ni'n parhau i fod mewn trafodaethau. Pan fydd yn bosibl cael system nad yw'n arwain at oedi hir dros ben â phobl yn y maes awyr yn aros i brofion gael eu cynnal—. Efallai ei fod ef yn meddwl ei bod hi'n hawdd gwneud hynny. Gallaf ddweud wrthych chi, ar ôl darllen yr holl wybodaeth, nad yw'n hawdd. Ceir ffyrdd y gallwn ni fynd i'r afael â'r broblem honno. Rydym ni'n agos iawn at gytuno ar hynny. Ar ôl i ni wneud hynny, byddwn yn gwneud yn siŵr bod pobl sy'n cyrraedd Maes Awyr Caerdydd yn gallu cael eu profi—a'u profi yn gyflym—fel y gallan nhw barhau â'u bywydau bob dydd pan fyddan nhw'n gallu gwneud hynny.
Arweinydd Plaid Cymru nawr—Adam Price.
Diolch, Llywydd. Dair wythnos yn ôl, dywedodd y Grŵp Cynghori Strategol ar Argyfyngau, SAGE, ei bod yn debygol y byddai angen cyfuniad o ymyraethau i ddod ag R ar gyfer coronafeirws yn is nag 1. Ymhlith y mesurau y dywedodd y dylid ystyried eu cyflwyno ar unwaith oedd dangosydd sbarduno cyfyngiadau, cyfnod byr o gyfyngiadau symud, i ddychwelyd nifer yr achosion i lefelau isel; cau pob bar, bwyty, caffi, campfa dan do a gwasanaethau personol; ac i holl addysgu prifysgolion a cholegau fod ar-lein oni bai bod addysgu wyneb yn wyneb yn hanfodol.
A allwch chi gadarnhau, Prif Weinidog, eich bod chi'n ymwybodol o'r wybodaeth hon dair wythnos yn ôl? A chydag R yng Nghymru yn 1.37 ar hyn o bryd, a chyda nifer yr achosion newydd a adroddwyd heddiw yn 764, pam ydych chi wedi penderfynu peidio â gweithredu argymhellion SAGE pan eich bod chi wedi dweud yn gyson y byddech chi'n cael eich arwain gan yr wyddoniaeth?
Wel, Llywydd, daw cyngor SAGE i Lywodraeth Cymru drwy'r pwyllgor cell cyngor technegol. Nid yw'n dod heb ei gyfryngu gan fod cyngor SAGE yn cael ei reoli gan yr angen i roi cyngor i'r fwyaf o bedair gwlad y DU. Dyna pam mae gennym ni ein cell cynghori technegol ein hunain, a daw cyngor SAGE i mi drwy'r gell honno, ac nid ydym ni wedi cael ein cynghori hyd yn hyn gan TAC i weithredu system dangosydd sbarduno cyfyngiadau.
Ond, rwyf i yn cymryd y dadleuon o blaid cyfnod sbarduno cyfyngiadau o ddifrif, ac yng nghyfarfod COBRA ddoe, gofynnais i Brif Weinidog y DU am gyfarfod COBRA arbennig ychwanegol i drafod y syniad o ddangosydd sbarduno cyfyngiadau yn benodol. Rwy'n credu bod hwnnw yn syniad y bydd angen ei archwilio ymhellach, ac y mae angen ei rannu mewn safbwyntiau rhwng pedair gwlad y DU. Rwy'n ailadrodd yr alwad honno i Brif Weinidog y DU yn y llythyr yr wyf i wedi ei ysgrifennu ato heddiw.
Gadewch i ni edrych ar y dystiolaeth gan y gell cynghori technegol y cyfeiriasoch ato, Prif Weinidog. Ar 18 Medi, dywedodd:
Efallai y bydd angen pecyn o ymyraethau nad ydynt yn rhai fferyllol... ar raddfa leol a chenedlaethol i ddod ag R yn ôl o dan 1...mae ymateb cynharach a mwy cynhwysfawr yn debygol o leihau'r amser y bydd eu hangen.
Ailadroddodd hynny yn ei adroddiad nesaf ar 25 Medi, pryd y dywedodd:
Os na fydd y mesurau presennol yn dod ag R islaw 1 yna bydd angen cyfyngiadau ychwanegol i reoli'r epidemig yng Nghymru. Y cynharaf y bydd y mesurau ychwanegol yn cael eu cyflwyno, y mwyaf effeithiol y byddant.
Mae eich cydweithiwr Llafur yn San Steffan, Jonathan Ashworth, wedi dweud heddiw bod diffyg gweithredu'r Llywodraeth, yng ngoleuni papurau SAGE, yn peri pryder, ac y byddai'r wrthblaid Lafur wedi dilyn y cyngor gwyddonol ac wedi gweithredu dangosydd sbarduno cyfyngiadau wythnosau yn ôl. Dywedodd Keir Starmer ddoe bod yn rhaid i Brif Weinidog y DU, o dan yr amgylchiadau hyn, weithredu yn gyflym ac yn bendant, ond onid yw'r un peth yn berthnasol i chithau hefyd, Prif Weinidog?
Wel, Llywydd, rwy'n credu ein bod ni wedi gweithredu yn gyflym ac yn bendant. Mae'r cyfyngiadau lleol sydd gennym ni mewn ardaloedd diogelu iechyd yng Nghymru yn mynd y tu hwnt i'r hyn sy'n ofynnol yn Lloegr, hyd yn oed yn y mesurau haen 3 y mae Prif Weinidog y DU wedi eu cyhoeddi. Ac yn ystod y penwythnos, bu'n rhaid i ni gymryd camau unwaith eto i gyflwyno cyfyngiadau lleol o'r fath mewn ardal arall o Gymru, ym Mangor yn y gogledd. Felly, rwy'n credu ein bod ni'n gweithredu yn gyflym a'n bod ni'n gweithredu yn bendant.
Hoffwn fod yn eglur gyda'r Aelodau, yn yr un modd a gyda phobl sy'n byw yng Nghymru, os bydd y sefyllfa sy'n ein hwynebu yn parhau i ddirywio, os bydd nifer yr achosion o coronafeirws yn parhau i gynyddu, os byddwn ni'n parhau i weld llif ychwanegol o bobl i'n gwasanaeth iechyd, fel yr ydym ni wedi ei weld dros yr wythnos ddiwethaf—. Llywydd, bedair wythnos yn ôl, tua 200 oedd nifer y gwelyau lle'r oedd pobl â coronafeirws tybiedig neu a gadarnhawyd, ynddyn nhw yn ein hysbytai; mae'r nifer tua 500 yr wythnos hon. Os byddwn ni'n parhau i weld y niferoedd hynny yn cynyddu yn y modd hwnnw, yna bydd angen mesurau ychwanegol.
Un maes lle mae angen gweithredu cyflym a phendant arnom ni yw teithio o ardaloedd lle ceir haint uchel yr ydych chi eisoes wedi cyfeirio ato. Dyma'r bedwaredd wythnos yn olynol i mi dynnu sylw at wiriondeb pobl mewn ardaloedd lle ceir cyfraddau COVID uchel yn Lloegr yn cael teithio i rannau o Gymru. Ddoe, cadarnhaodd y Gweinidog iechyd, am y tro cyntaf, bod achosion coronafeirws wedi cael eu mewnforio o gysylltiad â rhai o'r ardaloedd hynny lle ceir llawer o achosion yn Lloegr. Efallai, Prif Weinidog, y gallech chi roi ychydig mwy o fanylion i ni am y dystiolaeth honno.
Yn amlwg, dylai Llywodraeth y DU weithredu i roi terfyn ar yr anghysondeb teithio hwn. Ond mae'n ymddangos bod aros am BoJo yn ymarfer eithaf ofer. Felly, yn hytrach nag ysgrifennu llythyr arall nad yw'n cael ateb neu aros am COBRA pedair gwlad, beth am weithredu yn annibynnol nawr er lles pobl Cymru? Os oes arnoch angen amser seneddol ychwanegol yr wythnos hon, Prif Weinidog, i gael y ddeddfwriaeth hon drwodd, yna byddwn ni fel gwrthblaid yn eich cefnogi. A allwn ni wir fforddio aros diwrnod arall, heb sôn am wythnos arall?
Wel, Llywydd, gofynnodd yr Aelod o ble mae'r dystiolaeth yn dod. Mae'n dod o'r arolwg gwyliadwriaeth dŵr gwastraff sy'n dangos, pan fydd pobl yn dod i Gymru o rannau eraill o'r Deyrnas Unedig, yna mae cyfradd y coronafeirws a geir mewn dŵr gwastraff yn cynyddu ac fe'i canfyddir mewn tystiolaeth genomeg—tystiolaeth genomeg newydd bwysig. Cyfeiriais at hynny yn y llythyr yr wyf i wedi ei anfon at Brif Weinidog y DU.
Rydych chi'n gweld, y modd lle rwy'n wahanol i arweinydd Plaid Cymru yw hwn: mae'n defnyddio'r iaith drwy'r amser o bobl o Loegr yn dod i mewn i Gymru, fel pe byddai hon yn rhyw fath o gystadleuaeth rhwng Cymru a Lloegr, ac rwyf i wedi bod yn gwbl eglur nad dyna'r pwynt yr wyf i wedi ei wneud i Brif Weinidog y DU erioed. Y pwynt yr wyf i'n ei wneud iddo yw na ddylid caniatáu i bobl o ardaloedd lle ceir nifer fawr o achosion deithio i ardaloedd lle ceir nifer fach o achosion—lle bynnag y mae'r ardaloedd â nifer fawr o achosion yn y Deyrnas Unedig, lle bynnag y mae'r ardaloedd â nifer fach o achosion yn y Deyrnas Unedig. Felly, nid yw hyn yn ymwneud ag atal pobl o Loegr rhag dod i Gymru, ac ni ddylem ni fyth ddechrau siarad yn y modd hwnnw. Mae'n ymwneud yn syml ag atal pobl, pa un a ydyn nhw'n byw yng Nghymru mewn ardal lle ceir nifer fawr o achosion yn mynd i ardal lle ceir nifer fach o achosion yng Nghymru neu Loegr neu'r Alban, neu bobl yn unrhyw le arall yn y Deyrnas Unedig lle mae cylchrediad y feirws yn uchel yn mynd i fannau lle nad yw'r feirws yn bodoli yn yr un ffordd, oherwydd pan eu bod nhw'n gwneud hynny, mae'r risg o ddod â'r feirws gyda nhw yn anochel ac yn amlwg yn uwch.
Arweinydd Plaid Brexit nawr, Mark Reckless.
Prif Weinidog, ni fu unrhyw wahaniaeth rhwng sut yr ydych chi ac Adam Price yn siarad am y mater hwn. Yn wir, mae'n ymddangos erbyn hyn mai prin yw'r gwahaniaeth rhwng eich Llywodraeth chi a Phlaid Cymru. Mae llawer yn ofni ein bod ni'n cerdded yn ein cwsg tuag at annibyniaeth.
Ddoe, fe wnaethoch chi geisio cyflwyno wltimatwm i Brif Weinidog y Deyrnas Unedig. Heddiw, roeddech chi ar draws bron pob cyfrwng newyddion yn dweud eich bod chi eisiau gorfodi ffin rhwng Cymru a Lloegr. Yn y cyfamser, roedd yr awdur teithio llwyddiannus, Simon Calder, a oedd yn annog pobl i ddod ar wyliau i Gymru gan gydymffurfio â chyfyngiadau COVID, yn destun toreth o sarhad. Meddai:
Roedd dwyster y sylwadau negyddol o faint nad wyf i erioed wedi ei weld.
Ar ôl cael ei alw'n 'scum' a chael y neges i fynd i'r diawl ac aros yn Lloegr, mae'n dweud na fydd yn ymweld â Chymru eto. Pan gafodd ei holi, atebodd llefarydd ar ran eich Llywodraeth bod Boris Johnson wedi gwrthod cyflwyno cyfyngiadau teithio, er gwaethaf eich galwadau. Prif Weinidog, a wnewch chi gondemnio'r sarhad a ddioddefwyd gan Simon Calder am annog pobl i ymweld â Chymru mewn ffordd sy'n cydymffurfio â COVID, neu a ydych chi'n mabwysiadu safiad gwrth-Loegr Plaid Cymru nawr eu bod nhw wedi mabwysiadu gwrth-semitiaeth eich plaid chi?
Wel, Llywydd, ni allai'r Aelod fod wedi dehongli pethau yn fwy anghywir. Rwyf i wedi gwneud fy ngorau glas drwy gydol y drafodaeth am deithio i'w gwneud yn eglur nad yw'n fater o'r ffin i mi. Prif Weinidog y DU sy'n gorfodi iddo ddod yn fater yn ymwneud â'r ffin trwy ei wrthodiad i weithredu i atal pobl y tu mewn i Loegr rhag teithio o ardaloedd lle ceir nifer fawr o achosion i ardaloedd lle ceir nifer fach o achosion a theithio y tu hwnt i Loegr. Felly, fy safbwynt i yw fy mod i'n credu yn y Deyrnas Unedig; rwyf i'n credu mewn Teyrnas Unedig lwyddiannus. Rwy'n gresynu'n arw bod Prif Weinidog y DU yn ymddwyn mewn ffyrdd sy'n codi amheuon ynghylch hynny ym meddyliau pobl eraill. Ac rwy'n ailadrodd, Llywydd, fel yr wyf wedi ei ddweud eisoes: i mi, nid yw hyn yn ymwneud o gwbl ag atal pobl o Loegr rhag dod i Gymru; mae'n fater o atal unrhyw un, yn unrhyw le yn y Deyrnas Unedig, sy'n byw mewn ardal lle ceir nifer fawr o achosion rhag teithio i ardal lle ceir nifer fach o achosion, unrhyw le yn y Deyrnas Unedig. Er mwyn i hynny ddigwydd, mae'n rhaid i bob un ohonom ni chwarae ein rhan. Mae'r trefniadau hynny gennym ni yma yng Nghymru. Rwyf i eisiau i Brif Weinidog y DU wneud yr un peth i Loegr, gan fy mod i'n credu bod hynny yn cefnogi Teyrnas Unedig lwyddiannus, ac rwy'n credu bod peidio â gwneud hynny yn tanseilio'r rheini ohonom ni sydd eisiau dadlau o blaid yr achos hwnnw. O ran Simon Calder, credaf fod y cyngor a roddodd i bobl yn naïf, ond nid wyf i'n credu o gwbl y dylai pobl sy'n siarad am unrhyw bwnc gael eu sarhau, ac mae'n ofid i mi mai dyna oedd canlyniad yr hyn yr oedd wedi ei ddweud. Efallai nad wyf i'n cytuno ag ef, ond mae ganddo bob hawl i'w ddweud ac mae ganddo bob hawl i gael ei barchu.
Prif Weinidog, rydych chi'n sôn am barchu datganoli a'ch bod chi eisiau Teyrnas Unedig gref ond yn mynnu wedyn bod yn rhaid i Loegr wneud yr hyn yr ydych chi'n ei wneud yng Nghymru, neu gwae chi. Nawr, mae gennych chi'r polisi hwn o atal unrhyw un rhag croesi ardal cyngor, fel yr ydych chi'n ei ddiffinio, mae hwn gennych chi gyda grym y gyfraith, ond y gwir amdani, yn sgil syrffed â'r cyfyngiadau symud, oherwydd eich bod chi wedi ei barhau cyhyd o'r blaen, yw bod cydsyniad i'ch polisi yn lleihau. Gwrthwynebodd yr wrthblaid swyddogol eich polisi o atal pobl rhag croesi'r ffiniau cyngor hynny. Gan eich bod chi wedi cyflwyno cyfyngiadau symud caletach a hwy yng Nghymru i ohirio heintiau o'r haf i'r hydref a'r gaeaf, mae ein heconomi, yn ogystal â'n hiechyd, wedi dioddef.
Canfu melin drafod Centre for Cities y cafwyd yr adferiad gwannaf ar ôl y cyfyngiadau symud y tu allan i Lundain yng Nghaerdydd, gyda dim ond 51 y cant o'r ymwelwyr cyn-COVID yn dychwelyd i Gaerdydd, ac eto mae'r haint yng Nghymru yn saethu yn ôl i fyny, fel y mae yn Lloegr. Yn fy rhanbarth i, mae'r ardaloedd sydd â'r lleiaf o haint ar y ffin â Lloegr, tra bod gan Gaerdydd, Abertawe a'r Cymoedd gyfraddau uwch na rhannau cyfagos o Loegr, ac eto rydych chi'n awgrymu bod ein problemau ni yma yn adlewyrchu polisi yn Lloegr ac yn ceisio beio lledaeniad COVID ar bobl sy'n dod dros y ffin o Loegr. Prif Weinidog, onid dyna'r gwir reswm yr ydych chi'n bygwth gorfodi ffin i dynnu sylw oddi wrth gamreolaeth eich Llywodraeth eich hun a'r sefydliad hwn o'r pandemig?
Rwy'n anghytuno yn llwyr â'r pwyntiau yna. Rwy'n credu bod y ffordd y mae coronafeirws wedi cael ei reoli yng Nghymru wedi sicrhau cytundeb a chydsyniad pobl yng Nghymru. Yn sicr, nid ydyn nhw'n cytuno â'r math o syniadau ymylol y mae'r Aelod yn eu harddel yn y Siambr, yn ystod yr amser sy'n dal i fod ar ôl ganddo ar ôl gyda ni. Nid wyf ychwaith yn derbyn bod diben ein cais teithio i Brif Weinidog y DU yn ddim byd heblaw dull synhwyrol a syml o weithredu, sydd â'r nod o amddiffyn pobl a chadw Cymru yn ddiogel. Dyna yw amcan y Llywodraeth hon; efallai nad yw ef yn ei rannu.
Cwestiwn 3, Rhianon Passmore.
Dydych chi ddim wedi dad-dawelu. Ni ellir clywed Rhianon Passmore. Ewch ymlaen.