1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 13 Hydref 2020.
4. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o adferiad economaidd ar ôl y pandemig yng Nghymru? OQ55683
Diolchaf i David Rowlands am y cwestiwn yna. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddwyd ein cynllun ail-greu ar ôl COVID-19. Mae'n nodi ein hasesiad o effeithiau economaidd, iechyd a chymdeithasol dwys y feirws a sut y byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i greu dyfodol diogel ac iach i bobl Cymru sydd yn decach, sydd yn fwy cyfartal, sydd yn fwy gwyrdd ac sy'n ffynnu.
Diolchaf i'r Prif Weinidog am ei ateb. Er ei bod hi'n ddoeth gwneud trefniadau o'r fath ar gyfer yr amgylchedd ôl-bandemig, mae hefyd yn wir ei bod hi'n ddyletswydd ar y Llywodraeth i liniaru canlyniadau economaidd cyfyngiadau symud tra bo'r feirws yn dal gyda ni. Mae'r trefniadau cyfyngiadau symud diweddar wrth gwrs yn cael effaith echrydus ar fusnesau ledled Cymru. Fodd bynnag, Prif Weinidog, nid wyf i eisiau cwestiynu rhinweddau neu ddiffyg rhinweddau'r mesurau cyfyngiadau symud cyffredinol, ond gwiriondeb y cyfyngiadau diweddar pan na ganiateir i ni deithio o un awdurdod lleol i'r llall. Ceir rhannau o'r de lle na chewch chi, yn llythrennol, groesi'r ffordd na mynd i ben draw'r stryd, oherwydd trwy wneud hynny byddech chi'n mynd o un awdurdod i'r llall. Sut gall y Gweinidog a'i Lywodraeth gyfiawnhau cyfyngiadau mor hurt? Pam mae angen atal pobl rhag teithio o un awdurdod i'r llall pan fo'r ddau yn destun cyfyngiadau symud a bod ganddyn nhw ffigurau COVID tebyg, ac eto at ddibenion gwaith, gall pobl deithio i Gymru o ddinasoedd llawn COVID fel Lerpwl? Prif Weinidog, mae'n bwysig ein bod ni'n dod â phobl Cymru gyda ni yn y cyfnod cythryblus iawn hwn. Onid yw'n wir na fydd cyfyngiadau disynnwyr o'r fath yn ein helpu ni i gyflawni hyn?
Llywydd, rwyf i eisoes wedi dweud sawl gwaith y prynhawn yma mai'r ateb i bobl yn cael teithio i Gymru o ardaloedd â niferoedd coronafeirws uwch y tu hwnt i Gymru yw ei atal rhag digwydd. Nid yw'n gyfyngiad disynnwyr dweud wrth bobl na ddylen nhw deithio y tu allan i ardal eu hawdurdod lleol eu hunain, oherwydd y mwyaf o bobl yr ydym ni'n eu gweld, a'r mwyaf o deithio yr ydym ni'n ei wneud, y mwyaf y mae'r feirws yn lledaenu. Bwriedir i'r cyfyngiadau geisio pwyso i lawr ar y ffaith fod coronafeirws yn cynyddu mewn cynifer o rannau o Gymru. Nawr, os gallwn ni wneud pethau yn y rhannau hynny o Gymru lle mae'r mesurau yr ydym ni wedi eu cymryd hyd yma yn cael effaith, yna hoffwn gynnig gobaith i bobl yn y rhannau hynny o Gymru bod eu gweithredoedd yn dwyn ffrwyth. Os gallwn ni wneud unrhyw beth ym maes teithio, credaf mai dyna un o'r pethau cyntaf y byddem ni'n debygol o allu ei gynnig. Ond mae'r cyd-destun yr ydym ni i gyd yn gweithredu ynddo yn un lle mae'r awyr yn tywyllu, ac mae arnaf ofn bod yn rhaid profi popeth yr ydym ni'n ei wneud yn erbyn y ffaith sylfaenol honno o fywyd cyfoes yng Nghymru. Mae coronafeirws ar led eto. Mae'n cyrraedd yn ddyfnach ac ymhellach i gymunedau, mae'n gyrru mwy o bobl i'r ysbyty, bydd yn arwain at fwy o ddefnydd o welyau ein hunedau gofal dwys, ac yn anffodus iawn, oherwydd bod hwn yn glefyd marwol, bydd mwy o bobl yn marw. Ac mae'r cyfyngiadau yr ydym ni'n gofyn i bobl fyw gyda nhw i gyd wedi eu cynllunio i geisio eu cadw nhw, eu teuluoedd a'u cymunedau yn ddiogel. Ac nid oes unrhyw beth disynnwyr ynglŷn â hynny.
Prif Weinidog, mae eich nod o gael 30 y cant o bobl yn gweithio gartref yn ganmoladwy iawn; fodd bynnag, i weithio gartref, mae bron yn sicr y bydd angen cysylltiad band eang da arnoch chi. Mae gen i etholwyr sydd eisiau gweithio gartref ond nid ydyn nhw'n gallu gwneud hynny oherwydd nad oes ganddyn nhw fand eang addas, sy'n golygu nad oes ganddyn nhw ddewis arall ond teithio i'r gwaith. Sut ydych chi'n mynd i gyflawni eich nod, Prif Weinidog, o weithio gartref pan eich bod chi wedi methu â chyflawni eich ymrwymiad maniffesto yn 2011 i ddarparu band eang cyflym iawn i bob eiddo erbyn 2015?
Wel, Llywydd, diolch i Lywodraeth Cymru a'i buddsoddiad, mae gan filoedd ar filoedd o aelwydydd yng Nghymru fynediad at fand eang cyflym iawn erbyn hyn ac yn sicr ni fydden nhw wedi ei gael heb ymyrraeth Llywodraeth Cymru yn y maes hwn sydd heb ei ddatganoli. Nawr, dim ond wythnos yn ôl yr oedd arweinydd plaid yr Aelod yn dweud wrth bobl Cymru y byddai'n atal Llywodraeth yn y dyfodol o dan ei arweiniad ei hun rhag gwario arian ar gyfrifoldebau nad ydyn nhw wedi eu datganoli. Felly, bydd y teuluoedd hynny sydd wedi cael y fantais o fand eang cyflym iawn oherwydd y ffordd y bu'n rhaid i Lywodraeth Cymru wario arian ar faes y mae ei Lywodraeth ef yn gyfrifol amdano, yn canfod nad yw'r manteision hynny ar gael iddyn nhw mwyach, yn y posibilrwydd annhebygol iawn y gallai ei blaid fod mewn llywodraeth yma yng Nghymru.
Felly, byddwn yn parhau i fuddsoddi, byddwn yn parhau i anwybyddu cyngor arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, byddwn yn cyfrannu arian at y maes hwn nad yw wedi'i ddatganoli, a gall mwy o deuluoedd ym mhob rhan o Gymru, yn enwedig y rhai hynny sydd yr anoddaf a'r drutaf i'w cyrraedd, wybod bod ganddyn nhw, yng Nghymru, Lywodraeth sy'n barod i weithredu ar eu rhan.