1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 13 Hydref 2020.
5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddiogelwch tân cladin yng Nghymru yn sgil datgeliadau bod tystysgrif diogelwch tân wedi'i llofnodi'n dwyllodrus ar gyfer blociau o fflatiau yng Nghaerdydd a thu hwnt? OQ55706
Llywydd, mater i'r heddlu ac adrannau safonau masnach awdurdodau lleol yw twyll. Mae adroddiadau am dwyll mewn materion diogelwch tân yn cael eu hymchwilio ganddyn nhw ar hyn o bryd.
Iawn. Ochr-gamu da yn y fan yna. Mae miloedd o bobl yng Nghymru bellach yn byw mewn fflatiau anniogel sy'n werth dim. Ni allan nhw eu gwerthu ac maen nhw'n byw yno gan wybod, os bydd tân yna byddwn ni'n edrych ar Grenfell yng Nghymru. Maen nhw'n cael eu rinsio'n llwyr ar bob cyfle: mae'r yswiriant drwy'r to, mae'r taliadau gwasanaeth yn codi, ac mae rhai hyd yn oed yn gorfod talu i arolygwyr diogelwch tân fod ar y safle bob amser. Mae hon yn sefyllfa y mae wir angen ei datrys, ond pan ysgrifennodd preswylwyr Victoria Wharf atoch chi am eu bloc nhw, ni chawsant ymateb gennych chi hyd yn oed.
Yn Glasgow, Harbwr Glasgow, mae'r datblygwr Taylor Wimpey yn talu'r £30 miliwn sydd ei angen i newid y cladin peryglus yno, ond yn Victoria Wharf, disgwylir i'r preswylwyr dalu'r £30 miliwn eu hunain, ac mae un cyn-filwr y siaradais ag ef, David Murphy, sydd bellach yn poeni am gael ei wneud yn ddigartref oherwydd y costau hyn. Felly, pam mai'r datblygwr sy'n talu i ddatrys y broblem yn yr Alban, ond yng Nghymru disgwylir i breswylwyr dalu eu hunain? Mae Taylor Wimpey mewn gwirionedd yn cynghori eich Llywodraeth ar reoliadau adeiladu, felly oni allech chi eu cynghori nhw i dalu'r arian fel y maen nhw wedi ei wneud yn yr Alban, yn hytrach na'r gwrthdaro buddiannau sy'n sbarduno diffyg gweithredu gan y Llywodraeth yn y maes hwn?
Llywydd, mae cyrhaeddiad greddfol yr Aelod am esboniad sy'n gynllwyn i'w weld eto heddiw. Os yw preswylwyr wedi ysgrifennu ataf, byddan nhw wedi cael ymateb. Adeiladwyr a pherchnogion sy'n gyfrifol am yr adeiladau y maen nhw wedi eu hadeiladu a'r rhai y maen nhw'n berchen arnynt, a nhw ddylai dalu. Dylen nhw dalu i unioni'r diffyg yn yr adeiladau hynny. Nid yw'n iawn nac yn deg, nac yn foesol y dylid gadael y lesddeiliaid i gymryd y cyfrifoldeb. Ni allaf fod yn fwy eglur am hynny. Dylai'r cwmnïau hynny wneud y peth iawn dros y bobl hynny y mae eu methiannau wedi effeithio arnyn nhw. Dyna safbwynt Llywodraeth Cymru; rwy'n ei ailadrodd eto heddiw. A pha un a yw'n dwyll, fel y dywedais yn fy ateb gwreiddiol, Llywydd, nid yw am eiliad yn achos o ochr-gamu rhywbeth i fod yn eglur bod yr awdurdodau sydd â'r cyfrifoldeb i ymchwilio i dwyll yn gwneud hynny. Yn yr achos hwn, mae Heddlu Gwent ac adran safonau masnach Caerffili yn cynnal ymchwiliad gweithredol i'r materion y dechreuodd y cwestiwn hwn gyda nhw, ac mae'n rhaid caniatáu iddyn nhw gwblhau'r ymchwiliad hwnnw.
Prif Weinidog, rwy'n credu bod yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud am yr angen i'r sector preifat dderbyn cyfrifoldeb yn bwysig, ond bu methiant cyhoeddus gwirioneddol yn y fan yma. Nid yw rheoleiddio cyhoeddus wedi bod yn addas i'w ddiben; nid oedd yn addas i'w ddiben mewn Llywodraethau yr ydych chi wedi dweud sydd wedi gwasanaethu yma yng Nghymru pan roedd yn cael ei ddatblygu, ac mae hefyd wedi bod yn fethiant yn Lloegr, o dan Lywodraethau Llafur a Cheidwadol—nid wyf i'n osgoi cydnabod y cyfrifoldeb sydd gan fy mhlaid i yn y fan yma. Mae'n rhaid i lesddeiliaid gael eu gwasanaethu bellach drwy'r sector cyhoeddus yn dod a rhoi rhywfaint o sicrwydd o leiaf, fel cronfa diogelwch tân, ac yna mynd ar drywydd y buddiannau preifat hynny sydd wedi bod yn ddiffygiol iawn, ac mae angen system reoleiddio briodol arnom ni. Rwy'n cytuno â chi ar un peth—ni ddylid gadael y bil hwn ar garreg drws y lesddeiliaid.
Llywydd, byddwn yn cytuno â nifer o'r pwyntiau y mae'r Aelod wedi eu gwneud, ac os caiff fy mhlaid i ei dychwelyd i'r Llywodraeth ar ôl etholiadau mis Mai nesaf, yna byddwn yn cyflwyno deddfwriaeth i ymdrin â materion rheoleiddio a bylchau sydd wedi dod i'r amlwg yn y sector hwn. Rydym ni'n edrych o fewn Llywodraeth Cymru ar y posibilrwydd o gronfa diogelwch adeiladau i gynorthwyo lesddeiliaid heb greu'r perygl moesol o dalu biliau landlordiaid a chwmnïau adeiladu aflwyddiannus. Byddai gwneud hynny yn gyfystyr â chymryd y cyfrifoldeb oddi arnyn nhw ac annog ymddygiad anghyfrifol yn y dyfodol. Ond rydym ni'n edrych ar ffyrdd y gellid cynorthwyo'r lesddeiliaid eu hunain, a gwn fod gan fy nghyd-Weinidog, y Gweinidog sy'n gyfrifol am hyn, gyfarfod ddydd Iau yr wythnos hon i barhau i ddod o hyd i ffordd y gallwn ni ddiwallu eu hanghenion, heb greu, fel y dywedais, y perygl moesol o achub pobl gydag arian cyhoeddus o'r cyfrifoldebau preifat y dylen nhw eu cyflawni.