1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 13 Hydref 2020.
6. Sut mae'r Prif Weinidog yn sicrhau bod gwariant Llywodraeth Cymru yn cynnig gwerth am arian? OQ55711
Diolchaf i Angela Burns, Llywydd, am y cwestiwn yna. Ymhlith y mesurau a gymerwyd mae hyfforddiant cyllid gorfodol i holl staff Llywodraeth Cymru a hyfforddiant dwys ychwanegol i'r holl staff uwch. Mae sicrhau'r gwerth gorau am arian cyhoeddus yn sail i'r canllaw cynhwysfawr, 'Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru', sy'n ymdrin â phob agwedd ar ein rheolaeth ariannol.
Ymateb diddorol, ac rwy'n gofyn y cwestiwn hwn gan fod nifer o feysydd lle nad yw'n ymddangos bod gwerth am arian i drethdalwyr Cymru. Mae'r cynllun rheoli cynaliadwy yn nodi'n eglur mai ei nod yw cefnogi gweithredu ar y cyd sy'n gwella adnoddau naturiol. Mae'r cynllun newydd gael dyraniad pellach o £3 miliwn, er gwaethaf y ffaith mai dim ond £6 miliwn o'i ddyraniad blaenorol o £25 miliwn sydd wedi ei wario hyd yma, a dyfarnwyd y £3 miliwn er gwaethaf y ffaith nad yw'r cynllun wedi ei werthuso. Mae'r cynllun galluogi adnoddau naturiol a llesiant yn enghraifft arall. Mae ganddo ddyraniad cyllideb o £26 miliwn. Ym mis Medi rhoddwyd £16.5 miliwn arall i'r cynllun hwnnw, ac eto nid oes yr un geiniog wedi'i gwario ac ni fu unrhyw werthusiad o'r cynllun.
Prif Weinidog, a allwch chi esbonio i mi sut y mae'r mathau hyn o ddyfarniadau, gyda'r diffyg goruchwyliaeth neu fwriad hwn i ddefnyddio'r arian yn unol â'r gofyniad dyfarnu, yn dangos ac yn cynnig gwerth am arian i drethdalwyr Cymru?
Llywydd, nid wyf i'n gweld sut y mae'r Aelod yn dod i'r casgliad yn ail ran yr hyn a ddywedodd o'r dystiolaeth a ddarparwyd ganddi yn y rhan gyntaf. Mae'r Llywodraeth hon yn darparu 11,000 o lythyrau dyfarnu grant bob blwyddyn i dros 400 o gynlluniau grant. Mae gwerthuso wedi'i gynnwys yn rhan o bob cynllun grant, ac nid oes llawer o'n cynlluniau grant yn y flwyddyn eithriadol hon wedi gallu gwario arian yn y ffordd yr oedden nhw wedi ei fwriadu yn wreiddiol. Bydd yr Aelod yn gwybod ei bod yn un o flaenoriaethau allweddol y Llywodraeth hon yng nghylch llunio cyllidebau y llynedd i sicrhau bod cynlluniau bioamrywiaeth ar draws Llywodraeth Cymru yn cael eu hariannu yn briodol. Ariannwyd £140 miliwn arall gennym ni ar gyfer y math o gynlluniau cynaliadwy a galluogi yn yr amgylchedd y cyfeiriodd hi atyn nhw. Ni fu modd gwario cryn dipyn o'r arian hwnnw yn ystod y pandemig, ond rydym ni'n bwriadu, lle bynnag y gallwn, ailgyflwyno'r cynlluniau hynny, ochr yn ochr â'r sefydliadau trydydd sector yr ydym ni'n dibynnu cymaint arnyn nhw yn y maes hwn, ac y bydd eu gallu eu hunain i godi eu harian eu hunain ac i roi staff yn y maes wedi cael ei wneud yn llawer mwy anodd gan y pandemig.
Felly, hoffwn roi sicrwydd iddi bod y rheini yn gynlluniau pwysig iawn i'r Llywodraeth hon yng Nghymru. Rydym ni'n bwriadu dod o hyd i ffyrdd o barhau i ariannu gweithgarwch sy'n ddiogel ac y gall pobl ei wneud mewn amgylchedd coronafeirws. Yn anffodus, gohiriwyd nifer o'r cynlluniau hynny dros y misoedd diwethaf, ond lle ceir cyfleoedd newydd yng ngweddill y flwyddyn ariannol hon i adfer rhywfaint o'r tir hwnnw, dyna'n union yr hyn yr wyf i'n annog fy nghyd-Weinidogion i'w wneud, ac i ddod o hyd i ffyrdd o weithio gyda'n partneriaid yn y maes er mwyn cyflawni hynny.