Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:53 pm ar 13 Hydref 2020.
Diolchaf i Angela Burns, Llywydd, am y cwestiwn yna. Ymhlith y mesurau a gymerwyd mae hyfforddiant cyllid gorfodol i holl staff Llywodraeth Cymru a hyfforddiant dwys ychwanegol i'r holl staff uwch. Mae sicrhau'r gwerth gorau am arian cyhoeddus yn sail i'r canllaw cynhwysfawr, 'Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru', sy'n ymdrin â phob agwedd ar ein rheolaeth ariannol.