Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 13 Hydref 2020.
Os cawn ni ddod yn ôl at brofi, mae e wedi dod i'm sylw i bod problemau difrifol wedi codi efo'r system brofi cyffredinol yn un o ardaloedd bwrdd iechyd y de, a mi liciwn i wybod beth ydy'r cysylltiad rhwng hynny a phrofi COVID. Dwi'n clywed bod profion gwaed dydd i ddydd mewn meddygfeydd teulu wedi cael eu canslo, a dim ond profi brys yn gallu digwydd. Mae'n swnio fel y math o beth yr oeddem ni'n yn cael ein rhybuddio ohono fo pan gafodd systemau cyflenwi Roche eu trafferthion, ond dwi'n nodi bod y Gweinidog iechyd wedi dweud wrthym ni wythnos yn ôl na fuasai hynny yn effeithio ar Gymru. Ydy'r Prif Weinidog yn gallu dweud wrthym ni beth sy'n mynd ymlaen yn fan hyn?