Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 13 Hydref 2020.
Llywydd, i ddweud y gwir, bydd yn rhaid i fi gael mwy o fanylion am y problemau mae Rhun ap Iorwerth wedi cyfeirio atyn nhw. Dwi wedi gweld datganiad ysgrifenedig gan Vaughan Gething a oedd yn esbonio'r effaith mae'r problemau mae Roche yn eu hwynebu ar hyn o bryd yn gallu ei gael yma yng Nghymru, nid ar ochr coronafeirws, ond ar rai pethau eraill rŷn ni'n trial eu gwneud bob dydd yn y gwasanaeth iechyd. Dwi ddim cweit yn deall eto beth oedd y cefndir i'r cwestiwn penodol, ond wrth gwrs os ydy Rhun ap Iorwerth eisiau ysgrifennu ataf i gyda'r manylion, dwi'n fwy na hapus i edrych i mewn i'r problemau.