COVID-19 yn Ynys Môn

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:57 pm ar 13 Hydref 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:57, 13 Hydref 2020

Diolch am yr ateb yna. Pan aeth Bangor i mewn i gyfnod o gyfyngiadau uwch, mi wnaeth un busnes ar Ynys Môn gysylltu'n syth i ddweud, 'Plis, gawn ninnau hefyd.' Y rheswm ydy yr addewid o gymorth ychwanegol i ardaloedd efo cyfyngiadau uwch. Ond ar gymaint o lefelau, mae busnesau yn fy etholaeth i yn dioddef yn yr un ffordd heb y cyfyngiadau uwch. Dwi'n poeni am effaith trafferthion Edinburgh Woollen Mill ar siop Pringle yn Llanfairpwllgwyngyll ac ar Peacocks yng Nghaergybi. Mae busnesau digwyddiadau, fel cwmni sain MAD neu gwmni Always Aim High, sy'n methu cynnal unrhyw weithgaredd busnes ar hyn o bryd, yn dioddef yn arw. Mae yna fusnesau lletygarwch sy'n dioddef yn drwm, a busnesau neu'r hunangyflogedig sydd wedi methu cael cymorth o dan gam 1 na 2 y gronfa cadernid economaidd ac sydd yn desperate am gefnogaeth. Ac mae Busnes Cymru, asiantaeth i Lywodraeth Cymru, wedi cyfeirio o leiaf dau fusnes i'm swyddfa i chwilio am help.

Rŵan, Prif Weinidog, plis gawn ni ymrwymiad (1) y bydd ymdrech o'r newydd i adnabod y rheini sydd yn y dyfroedd economaidd mwyaf dwfn, oherwydd cyfyngiad ar eu gweithgaredd neu fethiant i gael help hyd yma, a (2) y bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio sicrhau bod cymorth yn ymestyn i bob ardal, nid dim ond y rhai sydd yn destun cyfyngiadau uwch?