1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 13 Hydref 2020.
7. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf o ran COVID-19 yn Ynys Môn? OQ55699
Diolch yn fawr, Llywydd. Mae nifer yr achosion o COVID-19 sydd wedi eu cadarnhau yn Ynys Môn wedi bod yn isel ers rhai misoedd, ond maen nhw wedi cynyddu yn ystod yr wythnos diwethaf. Mae'r grŵp lleol sy'n cydlynu'r camau gweithredu yn yr ardal yn adrodd yn rheolaidd i Lywodraeth Cymru.
Diolch am yr ateb yna. Pan aeth Bangor i mewn i gyfnod o gyfyngiadau uwch, mi wnaeth un busnes ar Ynys Môn gysylltu'n syth i ddweud, 'Plis, gawn ninnau hefyd.' Y rheswm ydy yr addewid o gymorth ychwanegol i ardaloedd efo cyfyngiadau uwch. Ond ar gymaint o lefelau, mae busnesau yn fy etholaeth i yn dioddef yn yr un ffordd heb y cyfyngiadau uwch. Dwi'n poeni am effaith trafferthion Edinburgh Woollen Mill ar siop Pringle yn Llanfairpwllgwyngyll ac ar Peacocks yng Nghaergybi. Mae busnesau digwyddiadau, fel cwmni sain MAD neu gwmni Always Aim High, sy'n methu cynnal unrhyw weithgaredd busnes ar hyn o bryd, yn dioddef yn arw. Mae yna fusnesau lletygarwch sy'n dioddef yn drwm, a busnesau neu'r hunangyflogedig sydd wedi methu cael cymorth o dan gam 1 na 2 y gronfa cadernid economaidd ac sydd yn desperate am gefnogaeth. Ac mae Busnes Cymru, asiantaeth i Lywodraeth Cymru, wedi cyfeirio o leiaf dau fusnes i'm swyddfa i chwilio am help.
Rŵan, Prif Weinidog, plis gawn ni ymrwymiad (1) y bydd ymdrech o'r newydd i adnabod y rheini sydd yn y dyfroedd economaidd mwyaf dwfn, oherwydd cyfyngiad ar eu gweithgaredd neu fethiant i gael help hyd yma, a (2) y bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio sicrhau bod cymorth yn ymestyn i bob ardal, nid dim ond y rhai sydd yn destun cyfyngiadau uwch?
Cyn i'r Prif Weinidog ateb y cwestiwn yna, rwy'n ymwybodol bod rhywfaint o anhawster gyda'r cyfieithiad ar hyn o bryd sy'n gysylltiedig â'n problemau cysylltiad band eang parhaus. Rwy'n cymryd yn ganiataol bod y Prif Weinidog wedi deall y cwestiwn heb fod angen cyfieithu, ond byddwn yn ymchwilio ymhellach i'r mater hwn. Felly, y Prif Weinidog i ymateb.
Wel, Llywydd, fe atebaf y cwestiynau yn Saesneg felly. Hoffwn roi sicrwydd i Rhun ap Iorwerth, pan oeddem ni, dros y penwythnos, yn gwneud y penderfyniad anodd i osod cyfyngiadau lleol yn ardal Bangor, bod gennym ni lawer o wasanaethau a chyrff lleol o amgylch y bwrdd hwnnw a oedd yn gallu myfyrio ar yr effaith y byddai hynny yn ei chael ar Ynys Môn yn arbennig. Dilynwyd hynny gennym ni ddoe gyda chyfarfod yn cynnwys arweinydd awdurdod lleol Ynys Môn, i wneud yn siŵr y gallem ni glywed yn uniongyrchol ganddi hi am effaith debygol y cyfyngiadau hynny ym Mangor ar yr ynys. Felly, roeddem ni'n ymwybodol o hynny o'r cychwyn cyntaf fel problem, ac rydym ni wedi gwneud gwaith dilynol arno ers hynny. Rwy'n credu y bydd Rhun ap Iorwerth wedi clywed fy ateb i Laura Anne Jones yn gynharach yn y prynhawn am hyblygrwydd yn y cronfeydd yr ydym ni'n eu darparu i ardaloedd lle ceir cyfyngiadau symud lleol ac i ardaloedd cyfagos lle mae effaith hynny yn treiddio i'r ardaloedd hynny. Bydd hynny'n sicr yn wir yn Ynys Môn. Ac, unwaith eto, byddaf yn gwneud yn siŵr, mewn trafodaethau y byddaf yn eu cael gyda'm cyd-Weinidog Ken Skates, ein bod ni'n dod o hyd i ffyrdd o wneud yn siŵr bod y cymorth angenrheidiol i gwmnïau sy'n cael eu heffeithio yn uniongyrchol ar yr ynys oherwydd cyfyngiadau Bangor—bod hynny yn cael ei gymryd i ystyriaeth yn briodol.
Yn olaf, cwestiwn 8, Leanne Wood.