Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru ar 13 Hydref 2020.
4. Sut mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo cydraddoldeb rhywiol yng Nghymru? OQ55712
Prynhawn da, Angela Burns. Mae'r cynllun i hyrwyddo cydraddoldeb rhywiol yng Nghymru, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth, yn nodi ein huchelgais a'n camau ymarferol i hyrwyddo cydraddoldeb i fenywod a merched. Mae camau gweithredu i ddileu rhwystrau yn cynnwys darparu cymorth gofal plant, creu cyfleoedd hyfforddi, mynd i'r afael â chyflogau isel, gwahaniaethu ac anghydraddoldebau hiliol.
Fel y gwyddoch chi, dydd Sul oedd Diwrnod Rhyngwladol y Ferch, ac mewn llawer lle yn y byd mae merched yn dal yn nwydd, i'w defnyddio, i'w cam-drin ac i'w masnachu. Mewn llawer lle, Gweinidog, byddwch yn gwybod nad yw merched yn cael fawr o addysg, eu bod yn beichiogi'n rhy ifanc, yn teimlo mai perthnasau treisiol yw eu hunig ddewis, o dan bwysau i briodi, yn dioddef anffurfio eu horganau rhywiol, ac yn cael eu trin fel gwrthrychau rhyw, ac, yn y cyfnod gwenwynig hwn yr ydym ni'n byw ynddo, maen nhw yn dioddef effeithiau cyfryngau cymdeithasol negyddol yn anghymesur. Rwy'n gwybod eich bod wedi ymrwymo o ddifrif i'r agenda hon, ond pan ddywedaf 'llawer lle', mae hynny hefyd yn cynnwys llawer lle yng Nghymru a llawer o ferched sy'n teimlo hyn. Yr hyn yr oeddwn i eisiau ei wybod oedd beth ydych chi'n ei wneud i ddysgu o'r arferion gorau mewn gwledydd eraill—rhai o'r gwledydd tlotach yn y byd, sydd wedi cymryd camau syfrdanol mewn gwirionedd i allu addysgu nid yn unig merched ifanc yn well, ond bechgyn ifanc, dynion ifanc, bod menywod a dynion yn gyfartal ac y dylid eu parchu yn yr un modd â'i gilydd. Beth allwn ni ei wneud i ddysgu o'r mathau hynny o leoedd a dod â'r dysgu hwnnw i Gymru oherwydd—ac rwy'n siarad fel rhywun a oedd yn y don honno o ffeministaeth yn y 1970au a'r 1980au—mae'n rhaid i mi ddweud fy mod i wedi fy nhristáu'n fawr oherwydd rwy'n credu bod hawliau menywod wedi dod o dan y lach gryn dipyn yn ddiweddar?
Wel, diolch yn fawr iawn, Angela Burns, am dynnu sylw at Ddiwrnod Rhyngwladol y Ferch a gwneud yn siŵr ein bod yn cofio amdano. Mae'n braf iawn hefyd eich bod yn edrych ar hyn o safbwynt byd-eang, gan fynd yn ôl at ein deddfwriaeth llesiant cenedlaethau'r dyfodol—ein bod yn ceisio bod yn wlad sy'n gyfrifol yn fyd-eang yn ogystal â bod yn wlad decach a mwy cyfartal hefyd. Mae hynny, wrth gwrs, yn dod â rhai cyfrifoldebau y mae angen i ni, Llywodraeth Cymru, eu cyflawni o ran ein pwerau ynghylch cyflawni'r Ddeddf Cydraddoldeb. Mewn gwirionedd, rwy'n credu bod y gwaith yr ydym ni yn ei wneud yn enwedig o ran bwrw ymlaen â'r cyfleoedd drwy ein gwaith gyda deddfwriaeth a chynlluniau sy'n mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn hanfodol i hyn. Ond rwy'n croesawu'n fawr eich cydnabyddiaeth bod hyn yn ymwneud nid yn unig ag edrych ar hyn o safbwynt byd-eang, ond y gallwn ni ddysgu yn fyd-eang a gweithredu yn lleol a gweithredu yn genedlaethol yma yng Nghymru i hyrwyddo'r cyfleoedd hyn i ferched a menywod ifanc ym mhob agwedd ar eu bywydau.