Part of Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 3:04 pm ar 13 Hydref 2020.
Diolch, Gweinidog. Fel y gwyddoch, rwy'n arbennig o bryderus ynglŷn ag effaith cyfyngiadau ar ymweld â chartrefi gofal ar bobl sy'n byw gyda dementia mewn cartrefi gofal. Mae tystiolaeth gynyddol bod y cyfyngiadau symud cyntaf wedi arwain at bobl sy'n byw gyda dementia yn marw o ddementia, nid o COVID, oherwydd iddyn nhw gael eu hynysu oddi wrth anwyliaid. Nawr, wrth i ni wynebu gaeaf hir o gyfyngiadau, credaf fod angen i Lywodraeth Cymru wneud popeth posibl i liniaru'r risg y bydd rhywbeth o'r fath yn digwydd eto. Ac nid wyf i'n credu y dylid ei adael i lywodraeth leol a chartrefi gofal. A wnewch chi drafod hyn gyda'r Dirprwy Weinidog a chyda'r Prif Weinidog i geisio datblygu cynllun sy'n sicrhau y gall bobl sy'n byw gyda dementia barhau i allu gweld eu hanwyliaid yn ystod y gaeaf hwn? Diolch.