Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru ar 13 Hydref 2020.
1. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cynnal hawliau dynol pobl hŷn drwy'r pandemig COVID-19? OQ55705
Rydym ni'n parhau i fod wedi ymrwymo'n llwyr i hyrwyddo a chynnal hawliau pobl hŷn yng Nghymru. Mae'n ganolog i'r ffordd y mae Gweinidogion wedi mynd ati i weithredu'r ymateb polisi ehangach i'r coronafeirws yng Nghymru.
Diolch, Gweinidog. Fel y gwyddoch, rwy'n arbennig o bryderus ynglŷn ag effaith cyfyngiadau ar ymweld â chartrefi gofal ar bobl sy'n byw gyda dementia mewn cartrefi gofal. Mae tystiolaeth gynyddol bod y cyfyngiadau symud cyntaf wedi arwain at bobl sy'n byw gyda dementia yn marw o ddementia, nid o COVID, oherwydd iddyn nhw gael eu hynysu oddi wrth anwyliaid. Nawr, wrth i ni wynebu gaeaf hir o gyfyngiadau, credaf fod angen i Lywodraeth Cymru wneud popeth posibl i liniaru'r risg y bydd rhywbeth o'r fath yn digwydd eto. Ac nid wyf i'n credu y dylid ei adael i lywodraeth leol a chartrefi gofal. A wnewch chi drafod hyn gyda'r Dirprwy Weinidog a chyda'r Prif Weinidog i geisio datblygu cynllun sy'n sicrhau y gall bobl sy'n byw gyda dementia barhau i allu gweld eu hanwyliaid yn ystod y gaeaf hwn? Diolch.
Diolch yn fawr iawn, Lynne Neagle, ac i gydnabod eich gwaith blaengar yn cadeirio'r grŵp trawsbleidiol ar ddementia ac am ddwyn y materion hyn at sylw Gweinidogion. A byddwch yn ymwybodol y bu fy nghyd-Weinidog, Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn gweithio gyda chynrychiolwyr y sector, gan gynnwys Fforwm Gofal Cymru a Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, i edrych ar yr holl fater hwnnw o ddarparu canllawiau i ddarparwyr cartrefi gofal ar sut y gallan nhw gefnogi pobl i ailgysylltu'n ddiogel â theuluoedd, ffrindiau a gweithwyr proffesiynol—sydd mor hanfodol i'r rhai hynny sy'n dioddef o ddementia. Ac wrth gwrs, mae cartrefi gofal wedi gweithio'n galed i sicrhau y gall pobl ymweld yn ddiogel â ffrindiau a theuluoedd. Mae hyn yn hanfodol, fel y dywedwch chi, i les pobl sy'n byw mewn cartrefi gofal, yn ogystal â'r rhai sy'n ymweld â nhw. Ac rwy'n credu ei bod hi'n glir iawn nad ydym ni eisiau—ac mae'r Dirprwy Weinidog wedi pwysleisio hyn—mynd ati mewn modd sy'n gosod cyfyngiadau cyffredinol diangen, ond mae'n rhaid cydnabod ymweliadau cymorth â chartrefi gofal—mae'n rhaid cael diogelwch o ran pa un a yw hi'n bosibl gwneud hynny.
Ond mae eich pwyslais arbennig ar ddementia yn hollbwysig. A chredaf fod hwn yn gwestiwn pan, wrth gwrs, os oes digwyddiad neu achosion gweithredol o COVID-19 mewn cartref gofal, mae'n rhaid cyfyngu ymweliadau i amgylchiadau eithriadol, rhesymau tosturiol, megis diwedd oes. Ond rwy'n gwybod y bydd y Gweinidogion eisiau ystyried hyn wrth i ni nesáu at fisoedd y gaeaf sydd ar ddod, a'r straen y gall hynny ei roi ar y rhai sy'n dioddef o ddementia a'u gofalwyr a'u teulu a'u ffrindiau.