Part of Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip – Senedd Cymru am 3:22 pm ar 13 Hydref 2020.
Oeddech chi eisiau dweud unrhyw beth? Mae'n ddrwg gennyf, fe dorrais ar eich traws yn y fan yna, Dirprwy Weinidog. Roedd hwnna'n ymddangos yn fodd colegol iawn o ofyn eich cwestiwn, Laura Anne, cefais fy arwain i feddwl nad oedd angen ymateb, ond a ydych chi eisiau ymateb, Dirprwy Weinidog? Ni ddylwn i fod wedi eich diffodd. Rwy'n siŵr y byddwch yn manteisio ar y cyfle i ddweud rhywbeth, os wyf i'n eich adnabod chi, Jane Hutt.