Part of the debate – Senedd Cymru am 4:05 pm ar 13 Hydref 2020.
Hoffwn ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am ei datganiad ac ymuno â hi i gydnabod y gwaith rhagorol y mae ein hawdurdodau lleol wedi'i wneud yn ystod y systemau casglu, wrth gwrs, drwy'r pandemig hwn. Yn eich strategaeth 'Mwy nag Ailgylchu', rydych yn dweud, er mwyn cyflawni Cymru ddiwastraff a charbon isel;
'mae angen seilwaith rhanbarthol a hygyrch a chanolfanau cymunedol i ymdrin â deunyddiau â blaenoriaeth iddynt.'
Er mwyn gwireddu hyn, wrth gwrs, rhaid sicrhau mynediad rhwydd i safleoedd ailgylchu domestig ac annomestig. Mae'n amlwg o'r atebion i mi, mewn cais rhyddid gwybodaeth diweddar, fod tipio anghyfreithlon yn dal i fod yn fygythiad modern iawn. Yn wir, rhwng mis Gorffennaf 2019 a mis Mehefin 2020, cafwyd 675 o achosion o dipio anghyfreithlon ar draws Castell-nedd Port Talbot, 968 ar draws Sir Ddinbych, 1,034 ar draws Sir Fynwy, a 2,281 ledled Caerffili. Unigolion sy'n gwneud hynny—unigolion hunanol iawn, os caf i ychwanegu hynny—sy'n difetha ein cefn gwlad a'n hamgylchedd ac yn hytrach na mynd â'u hysbwriel i ganolfan y mae'r awdurdod lleol yn ei darparu, maent yn penderfynu mynd i wagio eu cerbyd, faniau yn aml, trelars. Ac i fod yn onest, mae'n warth a chywilydd llwyr arnynt. Fodd bynnag Rhondda Cynon Taf oedd testun y pryder mwyaf, ni chyhoeddwyd unrhyw hysbysiadau cosb benodedig er gwaethaf 2,816 o achosion a gofnodwyd rhwng 2019 a Mehefin 2020. Felly, i mi, mae angen rhwystr arnom ni, ac mae dyletswydd ar yr awdurdodau lleol, rwy'n credu, i ddarganfod pwy sy'n gwneud hyn, a sicrhau bod y dirwyon hynny'n swmpus, oherwydd mae angen rhwystr arnom ni yn gwbl bendant.
Felly, mae'r ffigurau'n awgrymu nad yw cynghorau, er bod ganddynt y pŵer, yn gallu gwneud y gwaith gorfodi. Felly, gyda'r ystadegau hyn mewn golwg, ac rwyf wedi codi hyn—rwyf wedi bod yn Aelod Cynulliad, yn Aelod o'r Senedd, ers naw mlynedd bellach—ar gynifer o achlysuron, rwy'n gofyn, a wnewch chi weithredu ar hyn nawr, i sicrhau bod awdurdodau lleol, gan roi COVID o'r neilltu nawr, mewn gwirionedd yn dechrau ystyried y dyletswyddau sydd ganddynt, a'r pwerau, ac yn dechrau gorfodi'n fwy cadarn? A wnewch chi ymrwymo i gynyddu cyllid awdurdodau lleol, i sicrhau bod canolfannau ailgylchu'n llawer haws eu cyrraedd? Mae eich strategaeth 'Mwy nag Ailgylchu' yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i gynyddu'r cymorth ariannol i'r sector er mwyn cynyddu gweithrediadau mewn ardaloedd gwledig. A gaiff y targed o £13 miliwn ei dargedu at drefi yn ogystal ag at ardaloedd gwledig? Ac a wnewch chi roi eglurder ynghylch eich cynlluniau ar gyfer cludo gwastraff mewn modd sy'n defnyddio adnoddau'n effeithlon ar gyfer cymunedau gwledig, yn enwedig eich cynlluniau ar gyfer trydaneiddio'r cerbydau hyn, a chynlluniau i wneud y gorau o lwybrau gwledig drwy wasanaethu dibenion deuol? Mae'n ymddangos bod y ddogfen yn awgrymu cyfuno gwasanaethau post a chasglu gwastraff, sy'n peri problemau yn fy marn i. A allwch chi gadarnhau hefyd a yw mannau gwefru ar bolion lamp a thechnoleg cerbyd i'r grid wedi'u hystyried yn rhan o'r cynlluniau trafnidiaeth gwastraff trydan hyn, fel y gall Cymru groesawu syniadau busnes yn gyntaf sy'n fentrus ac yn arloesol i gefnogi ymdrechion ein cenedl i leihau allyriadau?
Fel rwyf wedi dweud o'r blaen, canfu adroddiad diweddar gan WRAP Cymru fod modd ailgylchu 75 y cant o wastraff masnachol a diwydiannol a anfonwyd i'w losgi neu i safleoedd tirlenwi yng Nghymru mewn gwirionedd. Felly, mae hyn yn anghydnaws â llawer o'r ddeddfwriaeth—Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddfau eraill—yr ydym ni wedi eu pasio yn y fan yma. Dechrau da fyddai cyflwyno moratoriwm ar bob ymgynghoriad cynllunio sy'n ymwneud â llosgyddion newydd yn ystod y pandemig. Rwyf wedi crybwyll hynny. Rydych chi wedi dweud bod 45 y cant o allyriadau carbon yn dod o'r nwyddau a'r cynhyrchion yr ydym ni yn eu gwneud ac yn eu defnyddio ac, o'r herwydd, fod ailgylchu, ailddefnyddio, trwsio ac ailbrosesu, a dull newydd o ymdrin ag adnoddau yn ganolog i her yr argyfwng hinsawdd. Felly, gyda hyn mewn golwg, a wnewch chi amlinellu beth fyddwch chi'n ei wneud i weld cynlluniau a ariennir yn gyhoeddus yng Nghymru yn defnyddio deunyddiau naturiol ac ecogyfeillgar yn y lle cyntaf, fel gwlân Cymreig? [Torri ar draws.] Diolch. Mae gan Gymru'r potensial i fod hyd yn oed yn wyrddach ac yn well wrth ailgylchu, felly rwy'n erfyn arnoch i fod hyd yn oed yn fwy uchelgeisiol yn yr argyfwng hinsawdd hwn.
Ac mae gennyf un apêl arall, Dirprwy Weinidog. A wnewch chi, os gwelwch yn dda, weithio gyda Dŵr Cymru, a gadewch inni gael rhywfaint o addysg ynghylch y niwed y mae clytiau'n ei wneud i'n planed, newid yn yr hinsawdd ac, yn wir, ein cyflenwad dŵr? Oherwydd, pryd bynnag y byddaf yn cymryd rhan mewn diwrnod glanhau traeth, pryd bynnag yr af i'r gwaith trin carthion lleol ac ati, mae nifer y clytiau gwlyb a'r pethau y mae pobl yn eu rhoi yn y systemau yn broblem ddifrifol iawn, ac maen nhw yn achosi llawer o lygredd ledled Cymru, felly mae addysg yn allweddol. Ond rwy'n credu bod dyletswydd arnoch i weithio gyda Dŵr Cymru a gadewch i ni atal hyn unwaith ac am byth. Diolch.