Part of the debate – Senedd Cymru am 4:00 pm ar 13 Hydref 2020.
Diolch, dirprwy Lywydd dros dro. Rwy'n falch o allu gwneud y datganiad hwn heddiw ynglŷn ag ailgylchu a'r adferiad gwyrdd. Dros yr 20 mlynedd diwethaf, rydym ni wedi buddsoddi £1 biliwn mewn seilwaith ailgylchu. Mae dulliau fel ein casgliad gwastraff bwyd cartref cyffredinol yn destun cenfigen i eraill ac yn golygu bod gennym ni'r gallu i gasglu ac ailgylchu llawer mwy.
Fis diwethaf, lansiais yr ymgyrch Bydd Wych, Ailgylcha, gyda'r nod o helpu pawb i ddod yn fwy ymwybodol o'r ystod eang o ddeunyddiau y gellir eu hailgylchu yng Nghymru, o blisgyn ŵy i boteli siampŵ. Yr uchelgais yw nid yn unig cynyddu ailgylchu er ei fwyn ei hun, ond sicrhau y gallwn ni ddefnyddio'r deunydd gwerthfawr a gesglir. Caiff ein gwastraff bwyd ei droi'n ynni adnewyddadwy sy'n pweru cartrefi a busnesau, a gellir troi'r deunyddiau yr ydym ni'n eu hailgylchu yn gynhyrchion newydd. Gan weithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol i ddatblygu ymgyrch Bydd Wych, sy'n cydnabod gwaith ein criwiau casglu yn briodol—adlewyrchiad o'r diolch diffuant gan gymunedau ledled Cymru, wrth iddynt weithio'n ddiflino i barhau i gasglu drwy gyfnod heriol. Mae cydnerthedd ein systemau casglu yn ystod y pandemig wedi bod yn gamp sylweddol. Nid yn unig y gwnaethant ymdopi â chynnydd mewn deunyddiau cartref, ond hefyd cynnydd mewn ffrydiau fel gwastraff clinigol.
Tynnodd y pandemig sylw at bwysigrwydd cynyddol ailgylchu i'n heconomi. Mae casglu'r bagiau a'r blychau ailgylchu o'n palmentydd wedi bod yn hanfodol i ddiwallu busnesau yng Nghymru gyda'r deunyddiau sydd eu hangen arnynt i gynhyrchu'r nwyddau a ddefnyddiwn. Mae busnesau fel Smile Plastics ar Benrhyn Gŵyr, a Capital Valley Plastics yn Nhorfaen, sy'n defnyddio plastigau wedi'u hailgylchu i wneud cynhyrchion fel pilenni atal lleithder a chownteri cegin yn dangos sut mae cwmnïau o Gymru'n arloesi i gyflwyno atebion gwyrddach. Mae hefyd yn golygu bod cynnal y casgliad ailgylchu nid yn unig yn bwysig i'n hamgylchedd ac i'n cymunedau, ond mae'n gynyddol hanfodol i'n heconomi.
Mae'r tarfu a achoswyd gan COVID-19 a'r ansicrwydd ynghylch Brexit yn golygu bod gennym ni gyfle i ailystyried ffyrdd o weithio a gwneud y newidiadau nawr i gefnogi adferiad gwyrdd a chyfiawn. Mae'r economi gylchol yn allweddol i'r adferiad hwnnw. Drwy gwtogi cadwyni cyflenwi, gallwn hybu cadernid economaidd, a thrwy barhau i ail-ddefnyddio adnoddau, gallwn gyflawni mwy o'u gwerth a manteisio ar y cyfleoedd economaidd newydd.
Mae hyn yn golygu edrych ar sgiliau gwyrdd, gan gynnwys y rheini ym maes atgyweirio ac ail-gynhyrchu. Mae hyn eisoes yn digwydd ledled Cymru. Un enghraifft o hyn yw'r Ganolfan RemakerSpace newydd ym Mhrifysgol Caerdydd, yr ydym ni wedi'i hariannu, a bydd yn cefnogi busnesau gyda'r sgiliau, yr offer a'r cyngor i ailystyried dyluniad cynhyrchion. Byddwn hefyd yn cefnogi'r economi sylfaenol yng Nghymru drwy ganolbwyntio buddsoddiad yn y dyfodol yn y seilwaith rhanbarthol sydd ei angen ar gyfer economi gylchol carbon isel. Rydym ni eisoes yn gweld clystyru busnesau a mentrau mewn canolfannau ailgylchu, fel eco-barc Bryn Pica yn Rhondda Cynon Taf, lle mae cynhyrchion a ystyriwyd yn flaenorol yn wastraff, megis paent a matresi, yn cael eu hail-gynhyrchu neu eu hailbrosesu yn hytrach na'u llosgi neu eu claddu.
Ni all adferiad gwyrdd a chyfiawn ganolbwyntio ar yr economi yn unig, mae'n rhaid iddo gysoni gweithredu amgylcheddol a chymdeithasol. Gwyddom fod 45 y cant o allyriadau carbon yn dod o'r nwyddau a'r cynhyrchion yr ydym ni yn eu gwneud ac yn eu defnyddio. Felly, mae ailgylchu, ailddefnyddio, trwsio ac ailbrosesu—dull newydd o ymdrin ag adnoddau—yn ganolog i ymateb i her yr argyfwng hinsawdd.
Y llynedd, lansiais ein cronfa economi gylchol, gyda'r nod o gefnogi cyrff sy'n cael arian cyhoeddus i ddechrau arloesi a defnyddio dulliau mwy cylchol. Cynhaliwyd ail gylch ariannu gennym ni yn gynharach eleni, ac unwaith eto bu llawer iawn mwy o geisiadau nag oedd o arian ar gael. Mae ein hymrwymiad i adferiad gwyrdd yn golygu bod cyllid ychwanegol bellach wedi'i sicrhau fel y gallwn ni gefnogi 74 prosiect economi gylchol ychwanegol ledled Cymru, gan roi'r adferiad gwyrdd ar waith.
Mae economi gylchol yn gweithio i gymunedau hefyd. Ar anterth y pandemig, dyfarnwyd cyllid i FareShare Cymru i ehangu eu darpariaeth ailddosbarthu i rannau newydd o Gymru, gan sicrhau bod bwyd a fyddai fel arall wedi ei wastraffu ar gael i bobl oedd ei angen. Rydym wedi galluogi Caffi Trwsio Cymru i sefydlu mwy o gaffis a chynnig arweiniad ar-lein ynglŷn ag atgyweirio eitemau hanfodol. Nid mynd i'r afael â materion uniongyrchol yn unig y mae ein cefnogaeth, ond, yn bwysig, mae a wnelo ef hefyd â llunio atebion hirdymor mwy cynaliadwy sy'n grymuso cymunedau. Felly, rydym ni yn creu cronfa ychwanegol o dros £13 miliwn i gefnogi gweithgareddau atgyweirio ac ailddefnyddio yng nghanol ein trefi, gan greu seilwaith cymunedol i ysgogi arloesi a datblygu sgiliau ar ein strydoedd mawr a helpu i drawsnewid trefi.
Lansiwyd ein hymgynghoriad 'Mwy nag Ailgylchu' y llynedd yn Llangollen. Roedd yn ymgynghoriad gwahanol—sgwrs a aeth o amgylch y wlad yn gosod ein nod o fod yn genedl ddi-wastraff erbyn 2050, lleihau allyriadau a thyfu'r economi gylchol, a gofyn i bobl am eu syniadau ynglŷn â sut y gallem ni gyflawni hyn. Daeth mil o ddinasyddion a rhanddeiliaid i 40 o ddigwyddiadau neu gyflwyno ymatebion. Roedd y negeseuon yn glir ac yn gyson. Mae ymdeimlad cryf o falchder yn yr hyn yr ydym ni wedi'i gyflawni ac ymdeimlad ein bod wedi cyflawni hyn gyda'n gilydd, ochr yn ochr ag awydd gwirioneddol i Gymru barhau i arwain y ffordd. Y mis diwethaf cyhoeddwyd crynodeb o'r ymatebion a byddwn yn cyhoeddi strategaeth economi gylchol newydd i Gymru erbyn diwedd y flwyddyn.
Fe'i gwnes hi'n glir y dylai ein hymagwedd at yr economi gylchol ymwneud â gweithredu a dyna'r hyn yr ydym ni yn ei wneud—o gyllid i gefnogi sefydliadau, busnesau a chymunedau i arloesi mewn newid, i fwrw ymlaen ag ymgynghoriad i wahardd y naw eitem blastig untro fwyaf cyffredin yng Nghymru, a gweithio gyda Llywodraethau eraill yn y DU i gyflwyno cynllun dychwelyd ernes a chyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr am becynnu. Ugain mlynedd yn ôl dechreuwyd ar daith ailgylchu uchelgeisiol. Rydym ni wedi gwneud llawer a gyda'n gilydd rydym ni wedi dangos mai ailgylchu yw'r hyn a wnawn ni yng Nghymru, gan adeiladu ar ein record falch, mynd y tu hwnt i ailgylchu mewn ffordd sy'n dod â manteision i'n hamgylchedd, ein heconomi a'n cymunedau.