– Senedd Cymru am 4:29 pm ar 13 Hydref 2020.
Fe symudwn ni nawr at eitem 4, sef datganiad can y Dirprwy Weinidog a'r Brif Chwip ar Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb 2020. Rwy'n galw ar Jane Hutt.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd dros dro. Heddiw rydym ni'n nodi Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb, digwyddiad cenedlaethol sy'n ceisio meithrin gwybodaeth a dealltwriaeth o ran troseddau casineb, gan annog pobl i roi gwybod amdanyn nhw, a hyrwyddo pwysigrwydd cymunedau'n gweithio gyda'i gilydd yn erbyn anoddefgarwch a rhagfarn.
Mae hon, wrth gwrs, yn Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb sy'n wahanol iawn i'r arfer. Un o gonglfeini'r wythnos ymwybyddiaeth yw sefydliadau'n mynd allan i fannau cyhoeddus ac yn ymgysylltu'n uniongyrchol â chymunedau ynghylch troseddau casineb. Mae'r amgylchiadau presennol wedi ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau fynd ar-lein i gyrraedd pobl eleni. Ac mae'r wythnos hon hefyd yn dilyn y momentwm cymdeithasol y tu ôl i fudiad Black Lives Matter, sydd wedi tynnu sylw at anghydraddoldebau dybryd y mae angen i Gymru fynd i'r afael â nhw ar frys, yn cynnwys casineb a rhagfarn.
Yn ogystal ag ymgysylltu ar y cyfryngau cymdeithasol, fe fydd sawl digwyddiad a lansiad yn cael eu cynnal ar-lein yn ystod yr wythnos hon. Er enghraifft, heddiw mae Race Equality First yn cynnal lansiad rhithwir o'i brosiect gwahaniaethu a throseddau casineb, a fydd yn rhoi cymorth i ddioddefwyr troseddau casineb a gwahaniaethu ledled Cymru dros y tair blynedd nesaf.
Ddydd Sadwrn, fe fydd Cymorth i Ddioddefwyr Cymru yn lansio ei siarter troseddau casineb, sy'n dod â hawliau dioddefwyr troseddau casineb i'r rheng flaen. Fe fydd yn annog sefydliadau i fabwysiadu'r siarter i ddangos eu hymrwymiad nhw i fod â rhan yn y gwaith o fynd i'r afael â throseddau casineb, o ddarparu cymorth a gwybodaeth i ddioddefwyr i godi ymwybyddiaeth. Fe fydd Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i'r siarter ac rwy'n annog sefydliadau i gofrestru a dangos eu cefnogaeth nhw hefyd.
Ym mis Mawrth, fe arweiniais i ddadl ar ein cynnydd ni wrth fynd i'r afael â throseddau casineb yng Nghymru, ac fe roddais i'r wybodaeth ddiweddaraf am waith parhaus Llywodraeth Cymru a'r gwaith sydd ar y gweill ganddi. Ers hynny, mae ein pwyslais wedi bod, yn briodol, ar fynd i'r afael â phandemig COVID-19. Fe fu'n rhaid inni addasu'r gwaith a oedd wedi ei gynllunio gennym, er enghraifft, mae'r gwaith o gyflawni prosiectau troseddau casineb wedi symud ar-lein ac rydym yn gobeithio ailgychwyn gweithgarwch troseddau casineb mewn ysgolion erbyn diwedd y flwyddyn. Er hynny, rydym wedi gweld tystiolaeth glir hefyd o gymunedau cydlynol ledled Cymru, wrth i bobl ddod ynghyd i gefnogi ei gilydd drwy'r cyfnod heriol hwn. Mae'r ymrwymiad hollol newydd i wirfoddoli, i gefnogi cymdogion a'r rhai sydd fwyaf agored i niwed yn rhywbeth y mae'n rhaid inni barhau i'w ddathlu a'i drysori. Rwy'n gobeithio y gallwn ni barhau i adeiladu ar y cydberthnasau hyn wrth symud ymlaen.
Rydym wedi diwygio amserlen ein hymgyrch gyfathrebu Cymru gyfan ar droseddau casineb, a bydd lansiad yn digwydd yn gynnar y flwyddyn nesaf. Ymgyrch fawr fydd hon gyda'r amcan o dynnu sylw at yr effaith a gaiff troseddau casineb o ran ynysu dioddefwyr ac annog cefnogaeth y cyhoedd.
Mae ein timau cydlyniant cymunedol wedi bod yn allweddol i'n gwaith o gefnogi cymunedau a lliniaru tensiynau ledled Cymru yn ystod y pandemig. Mae'r hyblygrwydd a ddangoswyd gan y timau yn eu hymateb ar y cyd i her annisgwyl COVID-19 unwaith eto wedi tynnu sylw at werth anferthol y rhaglen.
Ond mae yna rai sy'n ceisio rhannu ein cymunedau ni â naratifau anfad ac ymrannol. Yn ddiweddar, mae unigolion manteisgar wedi ceisio elwa ar y ffordd annerbyniol y mae'r Swyddfa Gartref wedi cyfleu ei phenderfyniad i ddefnyddio gwersyll hyfforddi byddin Penalun i letya ceiswyr lloches heb ymgynghori nac ymgysylltu â'r gymuned leol a gwasanaethau cyhoeddus lleol. Ein nod ni yw bod yn genedl noddfa yng Nghymru, ac mae hynny'n golygu cefnogi'r rhai sy'n cyrraedd yma i ymdoddi'n effeithiol er budd cymunedau cyfagos, gan ddarparu cymorth a chefnogaeth i gyflawni hyn.
Drwy gyfrwng ein cyfarfodydd rheolaidd ni gyda'r heddlu a Chymorth i Ddioddefwyr, rydym wedi gweld adroddiadau am droseddau casineb, ar gyfartaledd, yn aros yn is drwy gyfnod y pandemig. Er na allwn ni fod yn sicr pam, mae'n bosibl ei fod o ganlyniad i ymbellhau cymdeithasol a phrinder cyfathrebu, neu fel arall oherwydd bod pobl yn gyndyn i roi gwybod am droseddau casineb oherwydd nad ydynt eisiau trafferthu'r heddlu yn ystod y cyfnod prysur hwn.
Fe wyddom drwy ein sgyrsiau gyda phob un o'r pedwar heddlu yng Nghymru fod troseddau casineb yn parhau i fod yn flaenoriaeth, ac rwy'n awyddus i achub ar y cyfle hwn i atgyfnerthu'r neges hon. Rydym yn annog dioddefwyr i ddal ati i ddod ymlaen ac adrodd am ddigwyddiadau yn ystod pandemig COVID-19, boed hynny i'r heddlu neu drwy'r Ganolfan Genedlaethol Adrodd am Droseddau Casineb a gaiff ei hariannu gan Lywodraeth Cymru, ac sy'n cael ei rhedeg gan Gymorth i Ddioddefwyr Cymru.
Fe hoffwn i ddiolch i'r heddlu, awdurdodau lleol, y trydydd sector, a'n holl bartneriaid am eu hyblygrwydd a'u dyfeisgarwch dros y misoedd diwethaf. Rydym yn parhau i fod yn ddiolchgar am eu cefnogaeth a'u harbenigedd.
Yn y gorffennol, rwyf wedi tynnu sylw at adolygiad Comisiwn y Gyfraith o ddigonolrwydd a chydraddoldeb yr amddiffyniad y mae deddfwriaeth troseddau casineb yn ei gynnig. Fe gyhoeddodd ei bapur ymgynghori ar 23 Medi. Mae Comisiwn y Gyfraith yn dymuno clywed gan gynifer o randdeiliaid â phosibl, gan gynnwys dioddefwyr troseddau casineb a'r darparwyr gwasanaethau sy'n eu cefnogi nhw. Rwy'n annog pobl yn gryf iawn i gymryd rhan, gan ei bod yn bwysig i'r ymgynghoriad allu clywed am safbwyntiau a phrofiadau yng Nghymru.
Yng ngweddill y tymor Seneddol, rydym yn bwriadu gosod y sylfeini ar gyfer gweithgarwch yn y maes hwn i'r dyfodol. Yn ogystal ag ymateb i ymgynghoriad Comisiwn y Gyfraith, fe fyddwn ni'n gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu egwyddorion cydlyniant cymunedol i ddod o hyd i nodau cyffredin a fydd yn meithrin ac yn hyrwyddo cydlyniant cymunedol yng Nghymru. Ac yn rhan o'r gwaith hwn, fe fyddwn ni'n cynhyrchu diweddariad ar gamau gweithredu yn y fframwaith troseddau casineb. Rydym yn gweithio ar bartneriaeth newydd gyffrous hefyd gyda dangosfwrdd HateLab Prifysgol Caerdydd, i gynyddu ein gallu ni i fonitro ac ymateb i gasineb ar-lein.
Heddiw, fe gyhoeddwyd ystadegau troseddau casineb cenedlaethol 2019-2020 ar gyfer Cymru a Lloegr. Roedden nhw'n dangos cynnydd cyffredinol o 2 y cant mewn troseddau casineb a gofnodwyd yng Nghymru, o'i gymharu â chynnydd o 8 y cant ledled Cymru a Lloegr i gyd. Roedd yr ystadegau yn cynnwys cynnydd o 10 y cant mewn troseddau casineb trawsryweddol, cynnydd o 2 y cant mewn troseddau casineb anabledd, a chynnydd o 2 y cant mewn troseddau casineb lle mae cyfeiriadedd rhywiol yn ffactor ysgogol. Fe fu yna ostyngiad o 2 y cant mewn troseddau casineb hiliol a gostyngiad o 3 y cant mewn troseddau casineb crefyddol. Nid ydym wedi gweld yr un lefel o gynnydd ar draws pob elfen o droseddau casineb ag y gwnaethom yn y flwyddyn flaenorol. Eto i gyd, mae'r ystadegau yn dangos bod y codiadau a welsom yn 2018-19 wedi parhau.
Yn ogystal â hynny, fe wyddom fod tua hanner y digwyddiadau casineb hunan-gofnodedig yn parhau i fod heb eu cofnodi fel troseddau casineb ledled y DU. Fe allai hyn amrywio—y rhesymau am hyn—oherwydd diffyg ffydd yn y system cyfiawnder troseddol neu oherwydd nad yw pobl yn gwybod sut i adrodd am droseddau casineb. Mae ein gwaith ni o godi ymwybyddiaeth am droseddau casineb ac annog dioddefwyr i adrodd yr un mor hanfodol ag erioed, fel y mae ein hymdrech ni i ddeall profiadau dioddefwyr yn well a'r rhesymau dros beidio â dymuno rhoi gwybod am y digwyddiadau.
Ledled Cymru, mae sefydliadau'n defnyddio Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb fel cyfle i atgoffa pobl nad oes yn rhaid iddyn nhw ddioddef casineb na rhagfarn. Nid yw'n dderbyniol i bobl fyw mewn ofn oherwydd pwy ydyn nhw. Rwy'n gobeithio y bydd pob Aelod yn ymuno â mi i gefnogi'r neges glir iawn hon heddiw nad oes lle i gasineb yng Nghymru. Diolch yn fawr.
Rwy'n diolch i'r Dirprwy Weinidog am ei datganiad heddiw. Rwyf i'n llwyr gefnogi'r Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb, er fy mod i'n gresynu'n fawr fod angen hynny arnom ni yn yr oes bresennol.
Mae troseddau casineb yn broblem gynyddol yn ein gwlad ni, ac yn anffodus, nid yw Cymru'n eithriad i hynny. Roedd heddluoedd yng Nghymru a Lloegr wedi cofnodi cynnydd o 10 y cant mewn achosion o droseddau casineb yn 2018-19, fel yr amlinellwyd gennych. Roedd y cynnydd hwn yn gyffredinol: cynnydd o 3 y cant mewn troseddau casineb crefyddol, troseddau casineb anabledd yn cynyddu 14 y cant, cynnydd o 25 y cant mewn troseddau casineb oherwydd cyfeiriadedd rhywiol, a throseddau casineb trawsryweddol wedi cynyddu 37 y cant.
Er ei bod yn debygol fod y cynnydd mewn troseddau casineb yn deillio o welliannau o ran cofnodi gan yr heddlu, ac mae yna ymwybyddiaeth gynyddol o droseddau casineb ar hyn o bryd, nid oes amheuaeth nad yw'r broblem yn gwaethygu. A ydych chi'n cytuno, Dirprwy Weinidog, fod angen mesurau eto i fynd i'r afael â throseddau casineb yng Nghymru?
Er bod y mwyafrif llethol y troseddau hyn yn seiliedig ar hil neu grefydd—
Trefn. Rwy'n ofni bod gennym ni wall technolegol, ac rwy'n credu ein bod wedi colli Zoom. Felly, rwyf am atal y cyfarfod am ennyd tra bydd y technegwyr yn ceisio ailsefydlu'r cysylltiad, ac yna fe fyddwn ni'n dod yn ôl atoch chi, Laura.
Trefn. Croeso nôl. Rwy'n falch o ddweud ein bod ni wedi datrys y materion technegol, ac rwy'n galw ar Laura Anne Jones.
Diolch, Llywydd dros dro. Rwy'n diolch i'r Dirprwy Weinidog am ei datganiad heddiw, ac yn diolch iddi am y gwaith a wnaeth hyd yn hyn hefyd, ynglŷn â hyn. Rwy'n llwyr gefnogi'r Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb, er fy mod i'n gresynu'n fawr fod angen hynny arnom yn yr oes bresennol. Mae troseddau casineb yn broblem gynyddol yn ein gwlad, ac yn anffodus, nid yw Cymru'n eithriad i hynny. Roedd heddluoedd yng Nghymru a Lloegr wedi cofnodi cynnydd o 10 y cant mewn achosion o droseddau casineb yn 2018-19, fel yr amlinellwyd gennych. Roedd y cynnydd hwn yn gyffredinol: cynnydd o 3 y cant mewn troseddau casineb crefyddol, troseddau casineb anabledd yn cynyddu 14 y cant, cynnydd o 25 y cant mewn troseddau casineb oherwydd cyfeiriadedd rhywiol, a throseddau casineb trawsryweddol wedi cynyddu 37 y cant.
Er ei bod yn debygol fod y cynnydd mewn troseddau casineb yn deillio o welliannau o ran cofnodi gan yr heddlu, ac mae yna ymwybyddiaeth gynyddol o droseddau casineb ar hyn o bryd, nid oes amheuaeth nad yw'r broblem yn gwaethygu. A ydych chi'n cytuno, Dirprwy Weinidog, fod angen mesurau ychwanegol i fynd i'r afael â throseddau casineb yng Nghymru? Er bod mwyafrif llethol y troseddau hyn yn seiliedig ar hil neu grefydd, mae cynnydd annymunol mewn troseddau yn erbyn pobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol a phobl anabl. Fe ddywedodd Nancy Kelley, prif weithredwr Stonewall, nad oedd hi'n credu bod y cynnydd yn ymwneud â gwelliant yn yr adrodd. Ychwanegodd nad yw 80 y cant o bobl LGBT byth yn adrodd am droseddau casineb. Felly, dim ond crafu'r wyneb yw hyn mewn gwirionedd. Sut allwn ni argyhoeddi pobl bod angen iddyn nhw ddod ymlaen a rhoi gwybod am achosion o droseddau casineb?
Un o'r camau allweddol i'w cymryd yw rhoi sicrwydd i ddioddefwyr bod adrodd am droseddau casineb yn werth y drafferth. Er hynny, mae nifer y bobl sy'n cael eu herlyn am droseddau casineb homoffobig yn llai, er gwaethaf y cynnydd yn nifer y dioddefwyr posibl sy'n dod ymlaen. Fe gynyddodd adroddiadau a gofnodwyd am gam-drin homoffobig yn y DU o ychydig o dan 6,000 yn 2014-15 i dros 13,000 yn 2018-19, ond yn ystod yr un cyfnod, fe ostyngodd nifer yr erlyniadau o 1,500 i ychydig dros 1,000—o 20 y cant.
Yn yr un modd, mae'r ffigurau yn dangos mai dim ond pedwar o bobl a gyhuddwyd o drosedd casineb yn erbyn pobl anabl yng Nghymru llynedd, er gwaethaf 268 o gwynion. Fe wn i fod heddluoedd yng Nghymru yn cymryd y mater hwn o ddifrif. Mae gan Heddlu Gwent, er enghraifft, dîm o swyddogion cymorth troseddau casineb sydd wedi cael hyfforddiant ychwanegol i gefnogi dioddefwyr, cynnig cyngor a chyfeirio dioddefwyr at sefydliadau eraill a allai gynnig cymorth pellach. A wnewch chi ddweud wrthym pa drafodaethau mewn gwirionedd a gawsoch chi gyda'r heddluoedd, y comisiynwyr ac eraill i fynd i'r afael â'r broblem hon o'r gyfradd isel o euogfarnau am y troseddau hyn?
Yr hyn sy'n peri pryder, hefyd, fel yr amlinellwyd gennych, Gweinidog, yw'r cynnydd mewn troseddau casineb ar-lein. Cafwyd cynnydd arbennig o fawr mewn troseddau casineb ar-lein yn erbyn pobl anabl. Mae pandemig COVID-19 yn golygu y caiff pobl anabl eu cyfyngu i'w cartrefi gyda dim ond technoleg ddigidol i'w cadw nhw mewn cysylltiad â'r byd y tu allan. Felly, mae hwn yn destun pryder fod pobl anabl yn dioddef troseddau casineb ar-lein. Pa gamau y byddwch chi'n eu cymryd i fynd i'r afael â'r cam-drin hwn ar-lein, Gweinidog? Rwy'n croesawu'r ffaith eich bod chi'n cydweithio â Phrifysgol Caerdydd yn hyn o beth ac fe hoffwn i glywed ychydig mwy am hynny, os oes modd.
Ni ddylai unrhyw unigolyn yng Nghymru ddioddef rhagfarn na throsedd casineb. Rwy'n croesawu'r datganiad heddiw ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod pawb sy'n dioddef troseddau casineb yn cael eu cefnogi a bod y troseddwyr cael eu dwyn i gyfrif. Rwy'n cymell pobl hefyd i gymryd rhan yn y digwyddiadau ar-lein yr wythnos hon. Diolch.
Diolch yn fawr iawn i chi, Laura Anne Jones. Diolch am eich cefnogaeth i'r datganiad heddiw, gan ein hatgoffa ni, unwaith eto, bod troseddau casineb yn difetha bywydau llawer iawn o bobl. Nid oes amheuaeth nad oes angen y mesur pellach hwn arnom a'r gymeradwyaeth gennych chi heddiw, i fynd i'r afael â hyn, yn arbennig o ran ein hwythnos ni o ymwybyddiaeth o droseddau casineb.
Rwy'n arbennig o falch, ac fe fyddaf i'n gwneud sylwadau ar y pwyntiau a wnaethoch chi, o ran y dystiolaeth gan Stonewall Cymru a'r effaith ar bobl LGBT a phobl anabl hefyd. A hoffwn ddweud hefyd fy mod i wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cartref llynedd i annog Llywodraeth y DU i gydnabod troseddau casineb sy'n cael eu hysgogi gan gyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth drawsryweddol neu anabledd, fel troseddau difrifol, gan sicrhau eu bod nhw'n cael eu trin yn yr un ffordd ag y caiff troseddau casineb hiliol a chrefyddol eu herlyn. Felly, rydym yn aros am ganlyniad adolygiad Comisiwn y Gyfraith, fel y dywedais yn fy natganiad. Mae'r papur ymgynghori ar gael nawr ac rwy'n eich annog chi i gymryd rhan ac ymateb i'r adolygiad hwnnw.
Rwyf i o'r farn hefyd fod y materion a godwyd gennych sy'n ymwneud â phobl anabl yn berthnasol iawn heddiw ac rwy'n falch o gael y cyfle i gydnabod bod hwn hefyd yn fater lle gallwn ni droi ato am ymateb gan Gomisiwn y Gyfraith. Felly, rwy'n credu ei bod yn arbennig o bwysig, unwaith eto, ein bod ni'n edrych ar y cyfraddau sy'n gwanhau ar gyfer troseddau casineb anabledd. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod dioddefwyr troseddau casineb yn cael eu cefnogi a bod y troseddwyr yn cael eu dwyn i gyfrif o ran troseddau casineb anabledd. Rydym ni'n gweithio, er enghraifft, gyda Phobl yn Gyntaf Cymru Gyfan i godi ymwybyddiaeth o droseddau casineb. Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am droseddau casineb, ond rydym yn gweithio'n agos iawn gyda'r bwrdd cyfiawnder troseddol troseddau casineb i gynyddu'r achosion o adrodd am droseddau casineb a gwella cyfradd yr erlyniadau. Fel yr ydych chi'n dweud, Laura Anne, mae hynny'n hollbwysig, ac mae ein hymgysylltiad ni â'r heddlu yn allweddol i hynny.
Fe hoffwn i ddweud gair, yn olaf, am gasineb ar-lein. Mae'r HateLab ym Mhrifysgol Caerdydd yn bwysig iawn i ni. Fe fyddwn ni'n gleient yng nghynllun peilot dangosfwrdd HateLab—mae'n gweithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd. Mae'n helpu i nodi tueddiadau mewn areithiau casineb ar-lein, gan ddefnyddio mapio hashnodau, geiriau allweddol a dylanwadau'r cyfryngau cymdeithasol, ac fe fydd yn helpu i archwilio'r tarddle sy'n sail i densiynau mewn cymuned. Rydym yn gobeithio y bydd hwn yn ein galluogi ni i greu cyfathrebu wedi ei dargedu'n well. Ac, yn wir, oherwydd bod hwnnw gennym ni ym Mhrifysgol Caerdydd, fe allwn ni ei baru â'n gwaith ni ein hunain a meithrin cymunedau cydlynol yng Nghymru. Felly, diolch yn fawr iawn i chi, Laura Anne, am y cyfraniadau adeiladol iawn i'r datganiad y prynhawn yma.
Mae'n ddiddorol sut y gall gwahanol ystadegau adrodd gwahanol straeon. Mae'r Gweinidog yn defnyddio ffigurau'r heddlu, ond mae data llwyth achosion o Adroddiad Cenedlaethol Cymorth i Ddioddefwyr ar Droseddau Casineb a Chanolfan Gymorth Cymru yn dangos bod achosion o droseddau casineb wedi cynyddu 70 y cant rhwng mis Ebrill a mis Medi eleni. Nawr, rwy'n siŵr na fydd hynny'n syndod mawr i lawer, yn enwedig i rai mewn grwpiau lleiafrifol. Mae llawer o bobl yn dweud y gallan nhw ei synhwyro ac fe welwch chi ar-lein sut yn union y gall hynny fynd o ddrwg i waeth. Ac ni fydd o unrhyw syndod ychwaith, i'r rhai ohonom ni sydd wedi sylwi ar y ffordd y mae rhai yn gwneud môr a mynydd o fewnfudo, er enghraifft, ac yn fwyaf nodedig, yn sgil y digwyddiadau ym Mhenalun yn yr wythnosau diwethaf. Mae'r asgell dde eithafol yn defnyddio mater Penalun i'w harfogi ei hunan, ac maen nhw'n cael eu cefnogi a'u hysgogi gan elfennau o'r asgell dde eithafol sy'n eistedd yn y Senedd hon. Felly, a wnaiff y Gweinidog ymuno â mi i gondemnio'r rhai sy'n ceisio elwa'n wleidyddol ar y sefyllfa ofnadwy y mae ffoaduriaid yn eu cael eu hunain ynddi? A wnewch chi ymuno â mi hefyd i ddweud 'da iawn' wrth y Cynghorydd Joshua Beynon ac eraill sydd wedi amddiffyn y ffoaduriaid ym Mhenalun ac wedi cael eu sarhau am wneud hynny? A wnewch chi ddweud wrthym beth y gallwch chi ei wneud i atal ffoaduriaid ym Mhenalun rhag cael eu barnu, a pha gamau y gwnewch chi eu cymryd i atal yr asgell dde eithafol rhag ymgynnull yn y fan honno? Ac, yn olaf, pa adnoddau y gallwch chi eu rhoi i ysgolion a grwpiau cymunedol i'w galluogi nhw i herio'r ymddygiadau ar lefel gymharol isel sy'n gallu troi'n droseddau casineb? Mae'n amlwg nad ydym yn gwneud digon i fynd i'r afael â hyn yn llygad y ffynnon, neu fel arall ni fyddai angen cael diwrnod trosedd casineb yn flynyddol na dadl yn y Senedd hon ynglŷn â hyn. Felly, Gweinidog, rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno â'r pwynt hwnnw hefyd.
Diolch yn fawr iawn, Leanne Wood. Mae'n bwysig iawn eich bod chi'n tynnu sylw at brofiad byw gwirioneddol dioddefwyr troseddau casineb a'ch bod chi'n tynnu sylw at dystiolaeth ac ystadegau'r rhai sy'n cefnogi dioddefwyr troseddau casineb mewn gwirionedd. Mae angen inni gydnabod hynny a chydnabod hynny, yn wir, yn ogystal ag ystadegau'r Swyddfa Gartref.
Soniais am y ffordd amhriodol y gorfodwyd gwersyll byddin Penalun yn anghymwys gan y Swyddfa Gartref ac yna ei glustnodi'n ganolfan i letya ceiswyr lloches, a'r modd y gwnaed hynny, heb ymgynghori nac ymgysylltu â'r gymuned leol a gwasanaethau lleol. Ac fe fyddwn innau'n ymuno â chi i gydnabod dewrder pobl leol ac, yn wir, gynrychiolwyr etholedig fel y Cynghorydd Josh Beynon ac eraill. Ond rwyf wedi codi mater gwersyll Penalun, ac nid myfi yn unig, ond y Prif Weinidog hefyd, sydd wedi ysgrifennu dair gwaith at yr Ysgrifennydd Cartref ac wedi ysgrifennu at Chris Philp ar 9 Hydref. Yn ei lythyr, fe ddywedodd, 'Rwy'n ysgrifennu ar fyrder am y sefyllfa barhaus sy'n peri pryder mawr yng ngwersyll hyfforddi Penalun yn Sir Benfro. Credaf mai un o'r pethau am hyn a'r ffordd y digwyddodd yw ei fod wedi rhoi hwb i safbwyntiau asgell dde eithafol ddod i'r wyneb a difetha bywydau'r ceiswyr lloches hynny yn ogystal â'r gymuned leol. Fe wyddom fod yr asgell dde eithafol yn bodoli yn y DU; ein dyletswydd gyffredin ni yw ei gwrthsefyll.
Ond rwyf am ddweud bod llawer o gefnogaeth yn cael ei rhoi i gefnogi'r ceiswyr lloches a gafodd eu symud i wersyll hyfforddi byddin Penalun yn Sir Benfro. Mae Cymorth Mudol yn cydlynu cynigion o gefnogaeth, rwyf i wedi cyfarfod â'r fforwm cymunedau ffydd a'r eglwysi lleol, mae'r imam yn cymryd rhan, mae canolfan Oasis yn darparu hyfforddiant i ddysgu Saesneg, mae Cymorth i Ddioddefwyr yn ymgysylltu ag unigolion sy'n ymwneud â throseddau casineb, ac mae llawer o sefydliadau eraill, yn ogystal â'r gymuned leol, yn ceisio deall a llenwi'r bylchau yn y gwasanaethau lle mae modd.
Felly, rwy'n falch bod Leanne Wood wedi dod â hyn ger fy mron mewn cwestiynau ar y datganiad hwn. Ond hoffwn ddweud hefyd, fel y dywedodd hithau, ei bod yn hanfodol bwysig ein bod ni'n ymestyn allan at ein plant a'n pobl ifanc ni. Roeddem eisoes wedi dyfarnu cyllid i amrywiaeth o sefydliadau i fynd i'r afael â throseddau casineb, yn enwedig gydag ysgolion a chyda phobl ifanc. Mae gennym brosiect troseddau casineb gwerth £350,000 mewn ysgolion; fe gafodd hwnnw ei ariannu gyda chyllid pontio'r UE. Yr holl bwrpas yw creu hinsawdd ysgol lle nad yw rhagfarn nac ymddygiad casineb yn dderbyniol, ond yn caniatáu i blant ddatblygu safbwyntiau a barn amrywiol. Fe gafodd hyn ei ohirio gan COVID-19, ond, mewn gwirionedd, mae'r prosiect hwnnw'n mynd i symud ymlaen o ran hyfforddiant staff, gweithgarwch yn yr ystafell ddosbarth, pecynnau adnoddau, ymgysylltu â phlant a phobl ifanc yng nghyfnod allweddol 2 a chyfnod allweddol 3 cynnar, sy'n aml yn cael eu heithrio o sgyrsiau sy'n ymwneud â throseddau casineb, a bydd y gwaith hwnnw'n mynd yn ei flaen nawr.
Diolch yn fawr iawn i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip am ei datganiad am Wythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb, ac rwyf innau'n cytuno fod yna wahanol ystadegau a fydd yn cynnig gwahanol fesurau. Ond mae rhagwelediad o'r datganiad hwn i'w weld yn yr ystadegau troseddau casineb cenedlaethol 2019-20 ar gyfer Cymru a Lloegr a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Gartref heddiw. Mae'n dangos y cynnydd cyffredinol o 2 y cant mewn troseddau casineb a gofnodwyd yng Nghymru, o'i gymharu â chynnydd o 8 y cant ledled Cymru a Lloegr gyfan. Serch hynny, mae'r cynnydd llai hwn yn gynnydd y byddwn ni yng Nghymru yn gwneud popeth o fewn ein gallu i'w wrthsefyll.
Fel y dywedodd y Gweinidog, roedd yr ystadegau yn cynnwys cynnydd o 10 y cant mewn troseddau casineb trawsryweddol, cynnydd o 2 y cant mewn troseddau casineb anabledd a chynnydd o 2 y cant mewn troseddau casineb lle mae cyfeiriadedd rhywiol yn ffactor ysgogol iddo. Mae hyn yn ychwanegol at y cynnydd strategol diweddar, fel y crybwyllwyd gan Leanne Wood, mewn troseddau casineb dros y ddwy flynedd ddiwethaf, yn groes i'r duedd gynharach. Yn rhy aml o lawer, credaf y gallwn ni syrthio i'r fagl hon o gredu ein bod ni'n ymdrin â rhywbeth haniaethol, gyda data a materion damcaniaethol yn Siambr y Senedd hon, Senedd Cymru, ond y tu ôl i bob un o'r ffigurau hyn mae bywydau unigolion, straeon am fodau dynol unigol, mamau a thadau, neiniau a theidiau, brodyr a chwiorydd, a'u bywydau nhw'n cael eu difetha yn y gymdeithas, gan weithiau deimlo'n ddarostyngedig, yn wahanol ac yn wrthodedig. Felly, Dirprwy Weinidog, fel y crybwyllwyd, dim ond crafu'r wyneb a wna hyn o'r troseddau yr adroddwyd amdanynt; mae yna doreth o dan yr wyneb.
Gweinidog, yn dilyn cyhoeddiadau yn ddiweddar am fesurau, am y 'Genedl Noddfa', ac am Lywodraeth Cymru yn llofnodi siarter troseddau casineb Cymorth i Ddioddefwyr Cymru, sut y gall Llywodraeth Cymru barhau yn ei hymdrech wirioneddol a gweithgar i ddileu ymhellach y pla o droseddau casineb a sut y gall Llywodraeth Cymru gynorthwyo gwaith asiantaethau partner hanfodol a phwysig, megis Heddlu Gwent yn fy etholaeth i, sy'n gweithio'n ddygn i amddiffyn yr holl ddinasyddion y maen nhw'n eu cynrychioli? Ac i gloi, fe hoffwn i adleisio'r Dirprwy Weinidog hefyd: os ydych chi wedi dioddef oherwydd unrhyw drosedd casineb, dewch ymlaen a soniwch am hynny, oherwydd fe fydd Cymru'n gwrando ac fe fydd Cymru'n gwneud rhywbeth. Diolch.
Diolch yn fawr iawn, Rhianon Passmore. Fel y dywedwch, mae'r ystadegau sydd gennym ni heddiw yn dangos mai dim ond crafu'r wyneb yr ydym ni o ran troseddau na chawsant eu hadrodd, ac fe geir tystiolaeth eglur iawn o hynny gan y partneriaid hynny sy'n gweithio i ateb anghenion dioddefwyr troseddau casineb. Rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod yr arian ychwanegol a ddarparwyd gennym ar gyfer yr adroddiad cenedlaethol ar droseddau casineb a'r ganolfan gymorth—sy'n cael ei rhedeg gan Gymorth i Ddioddefwyr Cymru—£360,000 dros ddwy flynedd, arian sy'n ychwanegol i'w cyllid blynyddol nhw, ac yn buddsoddi'n arbennig mewn gwaith i fynd i'r afael â throseddau casineb yng Nghymru. Hefyd mae'n bwysig cydnabod y ffaith fod gennym brosiectau troseddau casineb cymunedau lleiafrifol ar gyllid grant gwerth £480,000 ledled Cymru, ac rydym yn lansio ymgyrch gyfathrebu troseddau gwrth-gasineb yn gynnar y flwyddyn nesaf hefyd. Gyda'r ymgyrch honno rydym yn edrych ar sut y gallwn ni dynnu sylw at yr effaith a gaiff troseddau casineb o ran ynysu unigolion, a thynnu sylw at y cymorth sydd ar gael, gan annog tystion a throseddwyr posibl i feddwl yn wahanol am eu hymddygiad nhw.
Rwy'n credu ei bod yn bwysig inni edrych ar y grant Cymorth i Ddioddefwyr Cymru, a'r contract sydd gennym ni gyda nhw, ac rydym wedi ei wella—roedd y gwasanaeth presennol wedi rhoi cymorth i 2,017 o gleientiaid, ac mae 23 y cant o'r holl atgyfeiriadau a gafwyd yn ymwneud â throseddau casineb, gyda 334 yn cael cymorth yn y flwyddyn ariannol gyfredol hyd yn hyn. Mae'n bwysig cydnabod hefyd bod cleientiaid fel arfer yn cael eu cyfeirio at gymorth gan yr heddlu—90 y cant gan yr heddlu—sydd yn dangos eu hymrwymiad nhw i hyn yn fy marn i, ond mae hunangyfeirio hefyd wedi gostwng llawer i lawr i 7.2 y cant, felly rydym ni'n ddibynnol iawn ar yr heddlu.
Rwy'n diolch i Rhianon Passmore—
Trefn. Rwyf am atal y cyfarfod nes i ni ailsefydlu cysylltiad y Dirprwy Weinidog. Mae wedi bod yn fwy nag eiliad erbyn hyn, rwy'n ofni.
Trefn. Mae'n ddrwg gennyf hysbysu'r Aelodau nad ydym wedi llwyddo i ailgysylltu â band eang y Dirprwy Weinidog. Roeddem ni'n tynnu at derfyn yr eitem honno ac mae arnaf ofn y bydd raid imi ymddiheuro i Joyce Watson, yr oeddwn i'n mynd i alw arni i fod y siaradwr olaf i gyflwyno cwestiwn. Ond ymddiheuriadau, Joyce, mae'r dechnoleg wedi mynd yn drech na ni. Rydym wedi cael hwyl arni gyda'r dechnoleg yn gyffredinol, ond fe fu yna ychydig o heriau heddiw, rwy'n ofni.