– Senedd Cymru am 5:10 pm ar 13 Hydref 2020.
Felly, symudwn nawr at eitem 5, sy'n ddatganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ynglŷn â mynd i'r afael â pharcio ar y palmant. Lee Waters.
Diolch. I rieni sydd â chadeiriau gwthio neu bobl mewn cadeiriau olwyn, gall parcio ar y palmant fod nid yn unig yn niwsans, ond hefyd yn berygl. Rwyf wedi bod am dro gydag unigolyn dall o amgylch ei ystad dai ac wrth ddod ar draws car yn gorchuddio y rhan fwyaf o'r palmant, fe wnaeth ei gi tywys yr hyn yr hyfforddwyd i'w wneud—fe'i arweiniodd i mewn i'r ffordd, yn hytrach na cheisio gwasgu drwy'r bwlch cul. Mae hwn yn ddigwyddiad beunyddiol i lawer o bobl sy'n agored i niwed. Pan fyddant yn dod ar draws ceir wedi'u parcio ar fannau sydd ar eu cyfer hwy, cânt eu gorfodi i gamu i'r ffordd. Ac nid yw'n syndod bod rhai'n dweud bod ofni wynebu'r perygl hwn yn peri iddynt aros gartref—ymddygiad gwrthgymdeithasol gan leiafrif sy'n achosi niwed i'r mwyafrif.
Rydym eisiau i fwy o bobl gerdded ar gyfer teithiau byr ac eto rydym yn goddef amgylchedd nad yw'n aml yn ystyriol o gerddwyr—mae gormod o lwybrau'n llawn annibendod neu wedi eu rhwystro. Canfu arolwg diweddar fod 83 y cant o bobl yng Nghymru yn ystyried hyn yn broblem gyffredin, yn broblem fawr neu'n broblem fawr iawn. Nid yw'r gyfraith bresennol ynghylch parcio ar y palmant mor glir nac mor ddefnyddiol ag y gallai fod. Nid oes unrhyw drosedd benodol ar gyfer parcio ar y palmant. Gall yr heddlu orfodi'r gyfraith drosedd bresennol o achosi rhwystr diangen i unrhyw ran o'r briffordd, ond anaml y caiff y drosedd hon ei gorfodi.
Rwy'n falch bod y Llywodraeth yn Lloegr wedi lansio ymgynghoriad ar yr hyn y gallent ei wneud i gryfhau'r gyfraith. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru ar y blaen. Yr haf diwethaf galwais dasglu arbenigol at ei gilydd i lunio argymhellion ymarferol ar gyfer mynd i'r afael â'r broblem. Roeddwn yn falch iawn bod Phil Jones wedi cyflawni'r dasg o gadeirio'r grŵp, ochr yn ochr â'r panel a gadeiriodd ar derfynau cyflymder 20 mya. Rwyf yn ddiolchgar iawn iddo ef a'i banelwyr am yr holl waith y maent wedi'i wneud. Gyda'i gilydd, mae gan y ddwy fenter hyn botensial gwirioneddol i achub bywydau ac ailgydbwyso'r amgylchedd o blaid cerddwyr i greu cymunedau sy'n rhoi pobl o flaen ceir.
Roedd fy mrîff i'r grŵp yn glir: dewch o hyd i ffordd ymlaen a fydd yn gweithio'n ymarferol. Nid wyf eisiau creu hyd yn oed mwy o broblemau i awdurdodau lleol na'r heddlu. Rwyf eisiau rhywbeth sy'n mynd i helpu ar lawr gwlad. Roedd y grŵp arbenigol yn cynnwys yr heddlu, y gwasanaeth tân, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Ffederasiwn y Busnesau Bach, y Gymdeithas Cludo Nwyddau ar y Ffyrdd, Cymdeithas Parcio Prydain a'r Gymdeithas Cludo Nwyddau, ochr yn ochr â grwpiau ymgyrchu fel Anabledd Cymru, Cŵn Tywys, Living Streets Cymru a Sustrans.
Mae'r adroddiad, yr ydym ni yn ei gyhoeddi heddiw, wedi cael ei brofi gan y grwpiau allweddol hyn. Mae tasglu parcio ar y palmant Cymru yn gwneud 10 argymhelliad, ac mae Llywodraeth Cymru yn derbyn pob un ohonynt. Nid yw'r tasglu o blaid gwahardd parcio ar y palmant yn llwyr. Fe edrychon nhw ar y profiad yn yr Alban lle mae gwaharddiad wedi'i greu mewn deddfwriaeth sylfaenol a daethant i'r casgliad bod honno'n broses rhy gymhleth ac y gallai gymryd hyd at bum mlynedd i'w chyflwyno. Ffordd gyflymach a gwell o fynd i'r afael â pharcio ar y palmant yw rhoi pwerau ychwanegol i awdurdodau lleol fynd i'r afael â'r broblem. Mae adroddiad y tasglu yn argymell y dylai Gweinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth i ychwanegu 'parcio ar droedffordd' at y rhestr o droseddau parcio yn Neddf Rheoli Traffig 2004. Bydd hyn yn galluogi cynghorau i gyflwyno gorfodaeth sifil am barcio ar y palmant.
Rydym yn cydnabod bod gormod o geir ar gyfer y lle sydd ar gael mewn rhai strydoedd. Byddwn yn nodi yn ein strategaeth drafnidiaeth newydd ar gyfer Cymru sut byddwn yn annog newid dulliau teithio i'w gwneud hi'n haws i bobl ddibynnu llai ar geir ar gyfer teithiau bob dydd. Ond yn y cyfamser, nid ydym ni eisiau cosbi pobl nad oes ganddyn nhw ddewis arall. Drwy roi pwerau gorfodi sifil i awdurdodau lleol gallant farnu ble y byddant yn gosod gwaharddiadau. Gallant dargedu mannau lle ceir problemau megis ysgolion ac ymateb i amgylchiadau lleol. Bwriadwn i'r pwerau newydd hyn, o orfodi sifil ar gyfer rhwystro diangen, ddod i rym erbyn mis Gorffennaf 2022.
Byddwn nawr yn sefydlu grŵp gweithredu gyda chynrychiolwyr llywodraeth leol a rhanddeiliaid i ddatblygu canllawiau gorfodi i helpu i sicrhau dull cyson o weithredu ledled Cymru. Bydd y gwaith hwn yn cyd-fynd â'r gwaith yr ydym ni yn ei wneud i gyflwyno terfyn cyflymder diofyn o 20 mya mewn ardaloedd preswyl o fis Ebrill 2023. Ac fel y dywedais wrth y Senedd o'r blaen ym mis Gorffennaf, mae hyn yn ymwneud â newid calonnau a meddyliau yn ogystal â gorfodi caled, a byddwn yn datblygu ymgyrch gyfathrebu sydd wedi'i gwreiddio mewn gwerthoedd i gyflwyno'r achos dros newid.
Dros amser, Dirprwy Lywydd, daw hyn yn beth arferol. Yn yr un ffordd ag ysmygu mewn bwytai, rhoi organau, ac ailgylchu ein gwastraff. Rwy'n argyhoeddedig y caiff hwn ei ystyried yn fesur synnwyr cyffredin yn gyflym iawn. Ac rwy'n gwerthfawrogi'r gefnogaeth drawsbleidiol dros fwrw ymlaen â hyn. Diolch.
Hoffwn ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma, ac i ddiolch fy hun i Phil Jones a'r grŵp gorchwyl a gorffen am eu gwaith hefyd. Dylwn i ddweud bod mater parcio ar y palmant yn fater y mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau wedi edrych arno o'r blaen, ac rydym ni wedi edrych arno'n arbennig fel rhan o'n hymchwiliad i deithio llesol.
Mae'n amlwg bod parcio ar y palmant yn arwain at ganlyniadau negyddol i lawer o gerddwyr, gan gynnwys pobl hŷn, pobl anabl a phlant, felly croesawaf argymhellion y grŵp gorchwyl a gorffen, ac rwyf hefyd yn croesawu ymateb Llywodraeth Cymru. Nid wyf yn credu ein bod yn anghytuno llawer y prynhawn yma ar y mater hwn. Dylwn ddweud fy mod yn siŵr bod Aelodau eraill wedi cael pobl yn codi materion etholaethol gyda nhw, a chytunaf â'r Dirprwy Weinidog, pan edrychais ar hyn fy hun fel Aelod etholaeth, nad oes canllawiau clir yn y gyfraith ynghylch y maes penodol hwn.
Rwy'n tybio y cytunwch â mi, Gweinidog, mai'r her sydd gennym ni yw bod parcio ar y palmant, mewn sawl ardal, yn cael ei ystyried yn hanfodol, nid yn unig oherwydd nad oes gan bobl sy'n byw yn yr ardaloedd hynny unman arall i barcio, ond oherwydd na fyddai cerbydau argyfwng a cherbydau ailgylchu ac ati yn gallu mynd ar hyd rhai strydoedd pe na bai pobl yn parcio ar y palmant. Felly, byddai unrhyw ddeddfwriaeth, boed yn sylfaenol neu'n eilaidd, wrth gwrs yn creu cryn bryder ymhlith rhai cymunedau gan mai dyma'r unig ffordd i breswylwyr barcio ger eu cartref. Felly, o ystyried hynny, sut y byddai Llywodraeth Cymru yn rhoi ystyriaeth briodol i hyn yn ystod unrhyw ymgyrch genedlaethol i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd ynghylch y mater mewn ymdrech i gynyddu dealltwriaeth y cyhoedd a chael adborth gan y cyhoedd? A faint o arian fydd eich adran yn ei neilltuo tuag at yr ymgyrch addysg gyhoeddus?
Wrth weithredu'r polisi hwn, mae'n ymddangos y byddai'n rhaid i bob awdurdod lleol, os wyf wedi deall yn iawn, wneud archwiliad o'r cannoedd o ffyrdd yn eu hardaloedd. A byddai'n rhaid i'r awdurdod wedyn wneud gorchmynion rheoleiddio trafnidiaeth ar gyfer unrhyw eithriad sydd ei angen. Felly, credaf y byddai'n anghyfrifol peidio ag ystyried y pwysau ar awdurdodau lleol o orfod eithrio cannoedd o strydoedd mewn llawer o achosion. Felly, tybed pa drafodaethau ydych chi wedi'u cael gyda'ch cyd-Weinidog, y Dirprwy Weinidog llywodraeth leol a gydag arweinwyr awdurdodau lleol i gael eu barn ar yr hyn sy'n debygol iawn o fod yn dasg anodd yn fy marn i.
Mae'n amlwg bod ardaloedd trefol fel Caerdydd ac Abertawe yn wahanol iawn, o ran dosbarthiad poblogaeth, i ardaloedd awdurdodau gwledig fel Powys neu Geredigion, a gallai fod canlyniadau anfwriadol sylweddol yn sgil gwaharddiad cyffredinol, os caiff ei gyflwyno, felly credaf fod yn rhaid i ni fod yn ofalus, wrth liniaru problem, yr ydym ni i gyd yn cytuno sy'n bodoli, nad ydym yn creu problem arall mewn ardal arall. Felly, tybed beth fyddai'r risg o unrhyw waharddiad yn ei achosi o ran canlyniadau anfwriadol. Rwy'n siŵr, Gweinidog, eich bod chi a'ch swyddogion wedi ystyried hynny, felly byddai'n ddefnyddiol cael eich barn ar hynny. Ac os gallech chi hefyd—. Gallech yn hawdd ragweld amgylchiadau lle y gallai fod angen i rai awdurdodau lleol eithrio cannoedd o ffyrdd o'r gwaharddiad oherwydd trefn y ffyrdd. Gallai pob ffordd gostio o leiaf £1,000 i'w heithrio, a gallai'r gost o baratoi gwaharddiad ar barcio ar y palmant ddisgyn yn anghymesur ar awdurdodau sydd â phoblogaethau dwysach mewn cymunedau a allai fod yn dlotach, oherwydd natur y strydoedd a'r stociau uwch o dai teras. Byddwn yn ddiolchgar pe gallech amlinellu pa ystyriaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u rhoi i hyn.
Yn olaf, mae'n bwysig mai'r corff sydd fwyaf abl i orfodi sy'n gwneud hynny, ac mae'r dystiolaeth yn awgrymu mai awdurdod lleol yw'r corff mwyaf priodol. Fodd bynnag, o gofio bod cyllidebau awdurdodau lleol a chyllidebau plismona dan bwysau, byddwn yn ddiolchgar pe gallech chi efallai ystyried sut y byddai'r rheoliadau'n gweddu i'r gweithgarwch gorfodi priodol mewn modd priodol hefyd.
Diolch. Rwy'n credu y gallaf roi rhywfaint o sicrwydd i leddfu pryderon Russell George, oherwydd mae wedi nodi'r broses o orchmynion rheoleiddio traffig ac eithrio strydoedd ar draws ardal fawr a fyddai'n berthnasol pe bai gwaharddiad cyffredinol, ond, fel yr wyf wedi'i wneud yn glir, nid creu gwaharddiad cyffredinol yw cynnig y tasglu, na chynnig Llywodraeth Cymru. Felly, ni fydd angen yr holl bethau hynny y mae wedi'u disgrifio o dan y cynnig hwn. Mae hon yn ffordd lawer callach a symlach o'i gwneud hi. Y dull y mae'n ei nodi yw'r modd y byddant yn mynd ati yn yr Alban a chredwn y byddai hynny'n gymhleth ac yn feichus.
Mae'r dull y mae'r tasglu wedi'i gynnig ychydig yn symlach na hynny, mewn gwirionedd: sef dweud wrth awdurdodau lleol, 'Chi sy'n adnabod eich cymunedau orau. Rydym yn derbyn nad yw pawb ym mhob stryd yn gallu osgoi palmant'—sy'n rhywbeth y mae angen i bob un ohonom ni fyfyrio arno; rydym ni wedi creu amgylchedd o'r fath ac mae angen i ni ddod yn ôl at hynny, ond, am y tro, yr hyn y gallwn ni ei wneud yn y cyfamser yw rhoi pwerau i ddirwyo yn yr ardaloedd hynny lle soniwyd bod parcio gwrthgymdeithasol yn achosi problemau penodol. Felly, er enghraifft, pe bai y tu allan i ysgol neu leoliad penodol, yna gallent ganolbwyntio'n gryf ar yr ardal honno, os mynnwch chi, gyda dirwyon i atal yr ymddygiad gwrthgymdeithasol hwnnw. Byddai'n ymyriad call, nid dull gweithredu cyffredinol. Felly, dyna pam fy mod i'n credu bod dull Cymru yn well na dull gweithredu'r Alban, gan ei fod yn fwy hyblyg; mae'n caniatáu i'r broblem gael ei thargedu lle mae fwyaf amlwg. Fel y dywedodd Russell George, pe bai gennym ni waharddiad cyffredinol, bob tro y credem fod parcio ar y palmant yn briodol, byddai'n rhaid i ni gyflwyno gorchmynion rheoleiddio traffig unigol ar gyfer y stryd benodol honno, a fyddai'n broses ddrud iawn ac yn cymryd llawer o amser. Felly, rwy'n credu bod camddealltwriaeth yna y fan yna, felly rwy'n gobeithio bod rhoi'r sicrwydd yna wedi tawelu'r meddwl rywfaint.
O ran y cyllid, mae'n gywir; goblygiadau hyn wrth gwrs yw y bydd awdurdodau lleol yn gallu penderfynu sut y maent yn dyrannu eu hadnoddau, ac mae honno'n sgwrs y byddwn yn ei chael gyda nhw yn y cyfnod cyn cyflwyno hwn.
Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw ac yn falch iawn o allu dweud y gallwn ni barhau i gefnogi yn y modd trawsbleidiol hwnnw y mae'n cyfeirio ato. Rwy'n adleisio'r hyn y mae'n ei ddweud am waith y tasglu: maent wedi gwneud darn rhagorol o waith ac mae'n ymddangos i mi fod y dull pragmatig hwn yn un synhwyrol iawn.
Rwy'n adleisio hefyd yr hyn y mae'r Dirprwy Weinidog wedi'i ddweud am ddifrifoldeb y broblem. Dyna'r math o beth, os nad yw erioed wedi effeithio arnoch chi, a allai ymddangos yn ddibwys, ond, fel y dywed y Dirprwy Weinidog, i bobl, mamau yn bennaf, gyda chadair wthio, i bobl â phroblemau symudedd, i bobl sy'n mynd ymlaen â'u bywyd bob dydd—. Yn rhywfaint o'r gwaith achos yr wyf wedi'i gael, pan fo pobl wedi dioddef anghwrteisi parhaus yn hyn o beth gan gymdogion, mae'n troi'n felltith ar eu tai, melltith ar eu heiddo a melltith ar eu bywydau. Felly, i bobl yr effeithir arnynt yn uniongyrchol, mae hwn yn fater difrifol iawn, ac, fel y dywed y Dirprwy Weinidog, os ydym ni eisiau creu amgylchedd lle mae'n hawdd i bobl gerdded, lle'r ydych chi'n teimlo'n ddiogel wrth gerdded ar hyd y ffordd gyda'ch plant, gyda'ch teulu, os ydych yn berson hŷn eich bod yn teimlo'n ddiogel ac yn gyfforddus, yna mae hwn yn fater y mae'n rhaid mynd i'r afael ag ef.
Hoffwn ofyn i'r Dirprwy Weinidog ein sicrhau ni y bydd yn edrych ar y problemau penodol sy'n cael eu creu gan gerbydau masnachol, boed y rheini'n gerbydau masnachol sy'n codi ac yn gollwng yng nghanol ein trefi, boed y rheini'n gerbydau pobl sydd efallai'n gwneud gwaith adeiladu ar dŷ sy'n arwain at barcio amhriodol dros gyfnod o ddyddiau—tybiaf mai dyna fyddai'r math o broblemau y gallai awdurdod lleol benderfynu eu bod yn wir yn broblemau ac y byddai angen iddynt weithredu.
Mae Russell George eisoes wedi cyfeirio at fater y cymunedau hynny lle nad oes unrhyw beth arall y gellir ei wneud mewn gwirionedd ar wahân i rywfaint o barcio ar ffyrdd, a tybed—ac rwy'n meddwl yn benodol am gymunedau'r Cymoedd yn y fan yma—a allai'r grŵp gweithredu edrych a oes capasiti i greu nifer bychan o leoedd parcio cymunedol. Rwy'n meddwl am lawer o leoedd yn y Cymoedd lle mae sawl darn o dir gwastraff nad oes neb yn gwybod pwy yw'r perchennog na beth yw ei ddefnydd, a gallai fod yn bosib i awdurdod lleol helpu i leihau problem parcio ar y palmant pe gellid manteisio ar rai o'r cyfleoedd hynny mewn modd hyblyg.
Rydych chi wedi crybwyll, ynghyd â Russell George, cost gorfodi. Tybed a yw hi'n wir, ac a wnaiff y Dirprwy Weinidog ddweud wrthym ni heddiw—mai'r bwriad yw caniatáu i awdurdodau lleol gadw'r dirwyon y maent yn eu codi, oherwydd, os yw hynny'n wir, yna gallai ddod yn weithred niwtral o ran cost iddynt yn y pen draw, gan fod llawer ohonynt, er enghraifft, yn gweithredu gorfodaeth parcio y dyddiau hyn.
Felly, gyda'r ychydig gwestiynau penodol yna, cynigiaf ein cefnogaeth i'r Dirprwy Weinidog unwaith eto. Gwneuthum ychydig o waith ar y cyfryngau cymdeithasol ynghylch y ddadl hon sy'n digwydd heddiw, y datganiad hwn heddiw, a chael ymatebion o barthau eithaf fy rhanbarth, o Bontyberem i Flaenau Ffestiniog, gyda phobl yn dweud wrthyf fod hon yn broblem wirioneddol iddynt a'u bod yn falch bod y Senedd yn mynd i'r afael â hi—felly, rwy'n hapus iawn i gynnig cefnogaeth Plaid Cymru i'r Dirprwy Weinidog yn hyn o beth.
Diolch yn fawr iawn ac rwy'n gwerthfawrogi'r gefnogaeth honno. Rwy'n credu bod hwn yn fater trawsbleidiol ac y bydd yn cymryd nifer o flynyddoedd i ddod i rym, a chredaf, gan ei fod yn cael ei orfodi gan bob awdurdod lleol o bob lliw, mae'n bwysig cynnal y consensws hwnnw, ac rwy'n falch fy mod wedi cael trafodaethau gydag arweinwyr awdurdodau lleol a chyda chomisiynwyr heddlu a throseddu, sy'n gefnogol hefyd.
I ateb y pwyntiau penodol gan ddechrau gyda'r olaf: ie, pwerau awdurdodau lleol yw'r rhain, felly mater i awdurdodau lleol fydd penderfynu sut i'w defnyddio a byddant, wrth gwrs, yn cael unrhyw refeniw a godir. Nid ydym yn gweld hyn fel mesur codi refeniw; mae hyn yn rhywbeth i awdurdodau lleol, eu barn nhw ynghylch sut i'w ddefnyddio orau i ymateb i sylwadau lleol, gan fy mod yn credu bod hynny'n briodol.
O ran creu mannau parcio, rwyf wedi cael y ddadl hon fy hun heddiw ar gyfryngau cymdeithasol. Diben hyn, ochr yn ochr â'r terfyn cyflymder o 20 mya, ochr yn ochr â'n hymagwedd o ran newid dulliau teithio yn strategaeth drafnidiaeth arfaethedig Cymru, yw newid ein diwylliant a newid yr amgylchedd lleol, gan roi blaenoriaeth i bobl dros geir. Dydw i ddim yn meddwl mai creu mannau parcio ychwanegol yw'r ateb tymor canolig na hirdymor i hyn. Mae angen inni fod—. Un o'r rhesymau dros broblemau parcio yw bod gormod o geir ar gyfer y mannau sydd ar gael. Erbyn hyn, mae gan lawer o deuluoedd bedwar car—neu fwy, mewn rhai achosion—ar strydoedd nad oeddent wedi'u cynllunio ar gyfer hynny, yn amlwg.
Felly, gan neilltuo lle cyhoeddus prin ar gyfer parcio ceir—ac o gofio y byddai hynny'n costio arian—gwyddom nad oes gan chwarter yr holl aelwydydd gar, felly byddai arian yn cael ei ddargyfeirio o wasanaethau a fyddai o fudd iddynt i fod o fudd i berchnogion ceir, felly byddai'n gam cymdeithasol anghyfiawn. Rwy'n credu bod angen i ni fod yn ofalus iawn nad ydym yn parhau â'r broblem o ran creu lle ychwanegol; mae angen i hyn fod yn rhan o gyfres o fesurau, a dim ond un yw hwn, fel rhan o ystod o ymyriadau, i annog pobl i wneud llai o ddefnydd o'u ceir, a hefyd i ystyried sut i wneud hyn yn addas ar gyfer y dyfodol, oherwydd, fel y gwyddom ni, wrth i geir sy'n gyrru eu hunain gael eu cyflwyno—. Gwyddom fod y rhan fwyaf o geir yn segur am 23 awr y dydd, gyda phobl yn buddsoddi yn sylweddol iawn mewn ceir sy'n llonydd yn gwneud dim byd am y rhan fwyaf o'r amser. Yr hyn y bydd ceir hunan-yrru yn ei ganiatáu wrth gwrs—a byddant mor ddrud fel ei bod hi'n annhebygol y bydd y rhan fwyaf o bobl yn gallu eu prynu—yw y byddwn yn gallu galw arnynt fel y mae eu hangen nhw arnom ni, a phan nad ydynt yn cael eu defnyddio, yn hytrach nag aros yn segur, gallant yrru ymaith a bod o ddefnydd i rywun arall.
Felly, rwy'n disgwyl—a dyma'r hyn y mae'r arbenigwyr yn ei awgrymu—wrth i'r rhain ddod yn fwy cyffredin dros yr 20 mlynedd nesaf, y bydd angen llai o geir arnom ni, oherwydd bydd modd defnyddio'r fflyd bresennol o geir yn fwy effeithlon. Felly, dydw i ddim yn meddwl y dylem ni fod, wrth ymateb i bryderon pobl am hyn, yn ceisio dargyfeirio arian i greu mannau parcio ychwanegol. Mae angen inni weld hyn fel cyfres o fesurau i symud y cydbwysedd mewn cymdeithas oddi wrth berchnogaeth ceir preifat ac at roi dewisiadau amgen gwirioneddol i bobl ar gyfer teithio'n lleol.
Ac yn olaf, o ran y pwynt cychwynnol am gerbydau masnachol, soniais fod y Ffederasiwn Busnesau Bach ymhlith y rhai a oedd ar y tasglu parcio ar y palmant ac a fydd nawr yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid i weithredu hyn, a chredaf fod hwnnw'n bwynt pwysig y byddaf yn sicrhau bod y grŵp hwnnw'n ei ystyried.
Diolch, Dirprwy Weinidog, am eich datganiad heddiw. Croesawaf waith y tasglu parcio ar y palmant ac rwy'n cydnabod yr effaith y mae parcio ar y palmant yn ei gael ar gerddwyr, yn enwedig y rheini sydd â phroblemau symudedd, cadeiriau gwthio, a defnyddwyr cadeiriau olwyn. Ond yn cynrychioli'r Cymoedd, â'u strydoedd teras hardd ond cul, rwy'n siŵr na fyddwch yn synnu o glywed fy mod hefyd yn falch o weld y dull pragmatig a geir yn argymhellion 2 a 3 y bydd angen, mewn rhai ardaloedd, i wneud eithriadau a chaniatáu parcio ar y palmant.
Gyda strydoedd fel yna sydd wedi'u hadeiladu 150 mlynedd neu fwy yn ôl, gallwn ddeall y problemau sy'n codi yno, ond yr hyn yr hoffwn ei ofyn ichi yw: pa drafodaethau ydych chi wedi'u cael gyda'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynglŷn â'r ffordd y mae'r adeiladwyr mawr yn adeiladu ystadau tai modern, mewn llawer achos gyda ffyrdd cul iawn a diffyg parcio ar gyfer aelwydydd, mae hynny'n golygu bod parcio ar y palmant yn broblem yno, mewn ardaloedd lle y dylid bod wedi adeiladu'r datblygiadau hynny mewn gwirionedd i ganiatáu parcio priodol a defnyddio palmentydd yn briodol? Mae hwnnw'n faes yr hoffwn weld Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio arno yn y dyfodol.
Soniwch hefyd am eich gwaith gyda'r Ffederasiwn Busnesau Bach, a tybed a yw rhan o'r trafodaethau hyn wedi crybwyll y nifer y bobl sydd bellach yn mynd â faniau gwaith adref ac yn eu parcio y tu allan i'w tai. Mae'n sicr yn fater y mae llawer iawn o etholwyr yn ei godi gyda mi pan na allant barcio y tu allan i'w cartrefi eu hunain, yn enwedig yn y strydoedd teras cul hyn. Nid wyf yn siŵr beth y gellir ei wneud yn ei gylch, ond byddwn yn croesawu eich barn ar hynny mewn ymateb. Ac—
Diolch, Vikki. Dyna ddau gwestiwn. Rydych chi ar ddwy funud, nawr—munud drosodd. Gweinidog.
Diolch. Iawn ceisiaf fod yn gryno mewn ymateb. Rydym, fel rhan o'r 'Polisi Cynllunio Cymru' diweddaraf a gyhoeddwyd, tua dwy flynedd yn ôl bellach, wedi rhoi'r hierarchaeth o ddefnydd ffyrdd o fewn y canllawiau hynny, sy'n rhoi cerddwyr ar y brig a cheir ar y gwaelod, ac mae sicrhau bod hynny'n cael ei weithredu ym mhob adeilad newydd, mi gredaf, yn mynd i fod yn hanfodol er mwyn sicrhau nad yw'r broblem hon yn dal i godi. Oherwydd un o'r problemau sydd gennym, fel y nododd Vikki Howells yn gywir, yw bod ystadau newydd yn creu'r broblem wrth adeiladu ac mae'n aml yn anymarferol—. Rydym i gyd wedi cerdded y rhain fel rhan o'n penwythnosau niferus hapus yn canfasio yn ein hetholaethau, lle byddai'n anodd iawn gweithredu gwaharddiad mewn llawer o ystadau, dyna un o'r rhesymau pam yr ydym yn ffafrio'r dull pragmatig. Felly, mae Vikki yn iawn i dynnu sylw at y broblem.
Ac mae'r cerbydau masnachol, ar un ystyr, yn amlygiad arall o'r ffaith ein bod wedi datblygu cymdeithas sy'n canolbwyntio ar geir, a dyna—. Rydym yn ceisio, ar un ystyr, ymdrin â symptomau'r broblem yma, gyda'r cynnig terfyn cyflymder 20 mya a pharcio ar y palmant, ond oni bai ein bod yn ymdrin â gwraidd y broblem, yna bydd yn parhau i amlygu ei hun. A dyna pam, rwy'n credu, fod y pwyslais ar newid dulliau teithio yn strategaeth drafnidiaeth arfaethedig Cymru yn hanfodol, nid yn unig ar gyfer mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, oherwydd mae'n rhan hanfodol o hynny, ond hefyd o ran ailgydbwyso ein cymdeithas oddi wrth y pwyslais ar berchnogaeth ceir fel yr ateb i bopeth ac sy'n teyrnasu dros y ffordd y mae ein cymunedau'n edrych ac yn teimlo.
Diolch am eich datganiad, Dirprwy Weinidog. Parcio ar y palmant yw un o'r problemau mwyaf sy'n wynebu'r rhai sydd â phroblemau symudedd, mamau ifanc â chadair wthio a phlant bach, a phobl sydd wedi colli eu golwg. Dirprwy Weinidog, oni chaiff mesurau eu gorfodi'n llym, bydd yn rhaid i'm hetholwyr barhau i wynebu'r her pryd bynnag y byddant yn gadael eu cartrefi. Sut y caiff mesurau eu gorfodi, a pha drafodaethau ydych chi wedi'u cael gydag awdurdodau lleol a heddluoedd am fesurau gorfodi? Oherwydd, mewn pentref bach yn fy rhanbarth i, mae cerbyd masnachol yn parcio'n gyson lle ceir llinellau melyn dwbl, gan orfodi pobl i fynd i'r ffordd a pheryglu eu bywydau dro ar ôl tro.
Dirprwy Weinidog, wedi dweud hynny, a ydych yn cytuno bod yn rhaid inni hefyd roi sylw i ochr arall y geiniog, sef diffyg darpariaeth parcio? Pa drafodaethau ydych chi wedi'u cael gyda'r prif adeiladwyr tai ynghylch sicrhau bod datblygiadau tai yn darparu digon o le parcio ger yr eiddo neu gerllaw? Ac a ydych chi yn cytuno bod darparu un neu ddau o leoedd parcio ar gyfer cartref pum ystafell wely yn gwbl annigonol y dyddiau hyn? Mae gan rai aelwydydd ddau neu dri char—pedwar yn aml. Dirprwy Weinidog, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i leihau'r ddibyniaeth ar geir personol? Ac a fyddwch yn gwneud buddsoddiad ychwanegol mewn trafnidiaeth gyhoeddus? Pa ystyriaeth ydych chi wedi'i rhoi i hyrwyddo neu hyd yn oed sybsideiddio cynlluniau rhannu ceir fel dewis arall? Yn olaf, Dirprwy Weinidog, pa effaith y credwch y bydd gweithio gartref yn ei chael ar berchnogaeth ceir a phroblem parcio ar y palmant? Diolch yn fawr.
Dydw i ddim yn siŵr y byddaf yn gallu gwneud cyfiawnder â'r holl gwestiynau yna yn yr amser sydd ar gael. Mae nifer ohonyn nhw eisoes wedi cael sylw yn y datganiad. Felly, efallai y bydd Caroline Jones yn maddau i mi os nad wyf ond yn canolbwyntio ar y rhai nad ydynt wedi'u cynnwys.
Credaf fod rhannu ceir yn fater hollbwysig, a bydd annog pobl i wneud yr hyn a elwir yn 'ddewisiadau doethach'—rhannu ceir a chynllunio teithio yn eu plith—yn rhan bwysig o'r mesurau a wnaethom i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd fel rhan o strategaeth drafnidiaeth Cymru. Yn hollbwysig, yr enghraifft a roddodd o bobl â phum car mewn cartref pum ystafell wely, credaf fod angen inni ofyn i ni'n hunain fel cymdeithas: ai dyna'r hyn yr ydym ni eisiau ei weld o hyd? A ydym ni eisiau sefyllfa lle mae pobl yn teimlo mai'r unig ddewis sydd ganddyn nhw yw cael nifer o geir sydd, fel y dywedais, yn aros yn segur am y rhan fwyaf o'r amser? Heb os nac oni bai mae angen inni symud tuag at sefyllfa, os ydym o ddifrif ynghylch gweithredu ein hymrwymiadau newid yn yr hinsawdd, o leihau dibyniaeth pobl ar geir.
Wrth gwrs, bydd gan bobl geir o hyd. Rwy'n hapus i yrru car. Ond, ni ddylai fod angen i chi gael car i wneud pob taith. Dylech gael dewis, a dylai fod yn haws ac yn fwy cyfleus defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer llawer o'n teithiau bob dydd. Dyna y mae angen i ni fod yn ymgyrraedd tuag ato. Rydym ni wedi buddsoddi'n sylweddol, yn enwedig yn sgil COVID, i gynnal y sector trafnidiaeth gyhoeddus, a fyddai fel arall wedi mynd i'w wal mewn llawer o achosion. Ond mae angen i bob un ohonom ni feddwl am gyfran y gwariant ar wahanol ffurfiau o drafnidiaeth, gan adlewyrchu i ble'r ydym ni eisiau cyrraedd.
Gweinidog, a gaf i ddweud o ddifrif fy mod yn croesawu hyn a'r camau gweithredu sy'n deillio ohono mewn gwirionedd? Dros yr ugain mlynedd bron yr wyf wedi bod yn gynrychiolydd yma yn Ogwr, mae hyn wedi cynyddu a chynyddu yn fy etholaeth. Credaf eich bod yn iawn i ganolbwyntio ar ddwy agwedd. Mae un yn ffordd bragmatig ymlaen sy'n gweithio gydag awdurdodau lleol, yn gweithio gyda chymunedau lleol a, rhaid imi ddweud, gyda sefydliadau ar lawr gwlad hefyd, fel clymblaid Pen-y-bont ar Ogwr o bobl anabl, er mwyn canfod atebion. Ond, y peth arall yw'r angen enfawr hwn am newid ymddygiad hefyd, ac mae hynny, mae'n rhaid i mi ddweud, yn gryn orchwyl. Pan edrychwch chi ar dai teras, fel y crybwyllwyd, mewn cymunedau yn fy nghwm i, nad oeddent wedi'u cynllunio ar gyfer cael car y tu allan ac sydd bellach o bosib ag un neu ddau gar, neu drelar a fan waith o bosib hefyd, dyna faint yr her sydd gennym ni. Mater i chi a fi ac eraill yw sefyll gyda phobl ac egluro y gallwn ni wneud hyn mewn ffordd wahanol.
Felly, a gaf i ofyn iddo ymhelaethu ar sut y mae'n gweld hyn yn gweithio wrth ymgysylltu â chymunedau lleol, trigolion lleol, grwpiau buddiant lleol, gan gynnwys y grwpiau hynny o bobl â nam ar eu golwg a phobl sydd â phroblemau symudedd, rhieni lleol a phlant a phlant bach, yn ogystal â phreswylwyr a'r awdurdod lleol, i sicrhau ei fod yn drefniant pwrpasol ar gyfer pob stryd a phob cymuned, ac nid gordd i dorri'r un gneuen ar bob stryd yn unig?
Roedd dau bwynt yn y fan yna, mewn gwirionedd. Yn gyntaf, cytunaf â Huw Irranca pan fo'n rhoi'r darlun a gyflwynodd Vikki Howells i ni hefyd, o strydoedd cul gyda cheir lluosog a cherbydau gwaith weithiau, ac rwy'n ailadrodd: ni allwn adeiladu ein ffordd allan o'r broblem hon. Mae hon yn broblem sydd wedi dod i'r amlwg dros yr 20 i 30 mlynedd diwethaf wrth i ddibyniaeth ar geir dyfu. Hyd yn oed pe bai'r arian a'r tir ar gael gennym ni, credaf y byddai cwestiynau difrifol i'w gofyn ynghylch pa un ai dyma oedd y flaenoriaeth gywir i ni ai peidio, oherwydd mae'n parhau â'r broblem ac nid yw'n mynd i'r afael â gwraidd y broblem.
O ran gweithredu hyn nawr, a gweithio gyda chymunedau lleol, dyna pam, yn y gwaith ar y terfyn 20 mya a'r gwaith hwn, rwyf wedi ceisio sicrhau mai awdurdodau lleol yw'r partneriaid allweddol wrth gyflawni hyn, a'u dwyn at ei gilydd, yn ysbryd cydweithio, wrth inni lunio'r rheolau a'r argymhellion hyn, i ystyried rhywbeth a fydd yn gweithio iddynt.
Edrychwch ar yr amserlen. Rydym yn dweud y caiff y pwerau parcio ar y palmant eu rhoi i awdurdodau lleol ym mis Gorffennaf 2022. Yna, y mis Ebrill canlynol, daw'r terfynau cyflymder 20 mya i rym ledled Cymru. Yn y ddau achos hynny, mater i'r awdurdodau lleol fydd penderfynu sut y caiff y pwerau hynny eu gweithredu yn eu hardaloedd lleol, a nhw fydd yn gwybod orau. Byddwn yn gweithio ochr yn ochr â nhw, hyd at y pwynt hwnnw, wrth ddatblygu ymgyrch cyfathrebu cyhoeddus, fel y gwnaethom ni ynghylch rhoi organau, sy'n ceisio cael pobl ar ein hochr ni, nid fel ffordd o'u cosbi neu i wneud bywyd yn anodd, ond fel ffordd o ddweud wrthynt, 'Mae gennym ni ymdeimlad cyffredin o werthoedd yma o ran y ffordd yr ydym ni eisiau i gymdeithas fod a sut mae ein cymunedau lleol eisiau gweithio.' Gwyddom o arolygon barn mynych yr ystyrrir y rhain yn broblemau, yn niwsans gwirioneddol beunyddiol i bobl yn eu cymunedau, a dyna pam rydym ni eisiau gweithio, gyda'r cyhoedd, i feithrin cefnogaeth ac ymdeimlad o ysbryd a dealltwriaeth a diben cyffredin, a chydag awdurdodau lleol i sicrhau bod y gweithredu'n briodol a'i fod yn ddigon hyblyg yn lleol fel y gallant benderfynu sut a ble i'w gymhwyso.
Wel, mae hon yn broblem sydd wedi difetha fy nghymuned yn Aberconwy o'r adeg pan oeddwn yn gynghorydd tref, yna yn gynghorydd sir, i'r fan lle yr wyf yn awr, ac rwyf wedi bod yma—fel y'm cywirwyd gan Llyr yn gynharach—am bron i 10 mlynedd. Felly, croesawaf eich datganiad yn fawr. Mae'n eithaf trist gweld pobl—. Mae gennym ni ddemograffeg hŷn yn Aberconwy ac mae'n wirioneddol drist pan—. Rydych yn tueddu i feddwl am barcio ar ymyl palmant—na. Rydych yn gweld ceir cyfan, yn aml iawn, hanner lled car, a rhaid imi ddweud, weithiau, pan fydd llwyni wedi gordyfu hefyd, ni roddwyd unrhyw ystyriaeth o gwbl i'r sawl sy'n ei chael hi'n anodd cael mynediad i'r palmant hwnnw. Sylwaf nad oes gan 80 y cant, ledled Cymru, fawr o ffydd y gall yr awdurdod lleol na'r heddlu wneud unrhyw beth.
Gwn, yn fy sefyllfa fy hun, fod gennyf i awdurdod lleol gwych, ond fe geir sefyllfa o fwrw bai, felly byddai—. Ond, yr hyn y byddwn yn ei ddweud wrthych yw bod ein hawdurdodau lleol dan bwysau mawr ar hyn o bryd, felly byddaf yn chwilio am adnoddau ychwanegol i gefnogi hyn, oherwydd mae datganiadau'n iawn yn eu lle, Dirprwy Weinidog, ond credaf, os ydych yn rhoi'r gwaith iddyn nhw o orfodi'r dirwyon—rwy'n hoffi syniad Helen Mary pryd y gallai ddod yn ffrwd refeniw mewn gwirionedd, ond i ddechrau, ceir y costau sefydlu gwirioneddol. Felly, hoffwn weld rhai ystyriaethau o ran hynny.
Ac yn olaf, yr hyn yr hoffwn i ei ofyn—. Mae palmentydd wedi eu gostwng yn bryder enfawr hefyd yn fy etholaeth i, felly er eich bod yn rhoi arweiniad a chyfarwyddiadau i awdurdodau lleol, a wnewch chi ystyried y rheini sydd mewn bygis neu mewn cadeiriau olwyn neu sydd â fframiau Zimmer—wyddoch chi, fframiau Zimmer ar olwynion bychain—a gwneud yn siŵr y cawn fwy o balmentydd wedi'u gostwng hefyd? Felly, gadewch i ni gael hyn yn iawn.
Ac yn olaf—
Na, does dim 'yn olaf', Janet Finch-Saunders.
O, iawn.
Gweinidog.
Diolch yn fawr iawn. Croesawaf sylwadau Janet Finch-Saunders yn gynnes iawn. O ran y ddau bwynt penodol, mae gan awdurdodau lleol bwerau gorfodi sifil eisoes dros nifer o bethau. Yr hyn yr ydym yn ei wneud yn y fan yma yw ychwanegu arf at yr arfau. Felly, o safbwynt lleiafsymiaeth, nid ydym yn creu unrhyw waith ychwanegol na chyfrifoldebau ychwanegol iddynt; rydym yn rhoi arf ychwanegol iddynt ei ddefnyddio os ydynt yn dewis ei ddefnyddio, ac os yw parcio ar y palmant yn broblem yn eu hardaloedd a'u bod eisiau mynd i'r afael â hynny ac os ydyn nhw eisiau cyflwyno dirwyon, byddwn yn caniatau iddyn nhw wneud hynny. Felly, nid oes angen cynhenid am gyllid ychwanegol ar gyfer hynny. Ond, yn amlwg byddwn yn gweithio gydag awdurdodau lleol, fel y buom ni yn ei wneud, i ddeall yn iawn a fydd yna unrhyw ofynion ychwanegol i weithredu hyn yn briodol a byddwn yn trafod hynny yn y ffordd arferol.
O ran y palmentydd isel, fel y dywedais, mae hyn yn rhan o weddnewid yr amgylchedd lleol i'w wneud yn fwy cyfeillgar i gerddwyr. Rydym ni wedi creu, dros y 50 mlynedd diwethaf, amgylchedd gelyniaethus i gerddwyr ac i feicwyr ar ein ffyrdd ac yn ein cymunedau, ac mae hyn yn rhan o'r mudiad i newid hynny. Oherwydd oni newidiwn ni hynny, byddwn yn parhau i gael problem gordewdra, problem ansawdd aer ac allyriadau carbon cynyddol—yr holl bethau y mae pob un ohonom ni yn dweud bod arnom ni eisiau mynd i'r afael â nhw—ac mae hyn yn rhan bwysig o newid hynny, ar lawr gwlad.
Mae gan awdurdodau lleol eisoes fynediad at gyllid drwy'r cronfeydd teithio llesol, a gadewch i ni gofio, mae teithio llesol yn ymwneud â cherdded a beicio; mae'n ymwneud â cherddwyr. Ac mae gennym ni arian ar gyfer gwelliant parhaus o dan Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 ar gyfer awdurdodau lleol, wedi'i neilltuo bob blwyddyn o'r dyraniadau a wnawn iddynt, lle gallant gael arian ar gyfer gwella'r amgylchedd, ar gyfer newidiadau bach fel gostwng palmentydd, yn union fel y mae ganddynt arian ar gyfer dileu rhwystrau ar lonydd beicio, er enghraifft, nad ydynt bellach yn addas i'r diben y cawsant eu cynllunio'n wael ar ei gyfer yn y lle cyntaf. Felly, mae cyllid ar gael eisoes i awdurdodau lleol wneud hynny, ond rwy'n cytuno â hi bod yn rhaid gweld hyn yng nghyd-destun gwneud ein cymunedau'n fwy cyfeillgar i gerddwyr, a bydd angen amrywiaeth o ymyriadau i gyflawni hyn, a dim ond un ohonyn nhw yw hyn.
A David Rees.
Diolch, Llywydd dros dro. A gaf i ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am ei ddatganiad? Rwy'n llwyr gefnogi'r hyn y mae wedi bod yn ei ddweud ynglŷn â'r angen i weithredu. Dim ond y penwythnos diwethaf deuthum ar draws fan wedi'i pharcio ar ddarn cas o'r ffordd i fyny Cwm Afan, ac fe'm gorfodwyd i fynd i'r ffordd, ac ni ddylai'r sefyllfa honno fyth godi. Rwy'n derbyn popeth y mae wedi'i ddweud ynglŷn ag ystyried, ar gyfer y dyfodol, newid dulliau teithio ac ymddygiad pobl a lleihau nifer y cerbydau, ond nid ydym ni yn y fan yna eto, ac mae gennym ni lawer o waith i'w wneud o hyd i gyrraedd y fan yna tra byddwn yn sicrhau bod ein trafnidiaeth gyhoeddus yn gweithio yn effeithiol. Felly, a wnaiff ystyried yn ofalus iawn rai o'r pethau dros dro y gellir eu gwneud i gefnogi pobl, i sicrhau bod pobl yn cofleidio ein neges? Nid wyf yn hoffi siarad am hyn fel refeniw arian parod i awdurdodau lleol, oherwydd bydd pobl yn ei weld fel dim ond ffordd o gael arian parod, heb ddeall ei ddiben mewn gwirionedd; a'i ddiben yw sicrhau bod pob cerddwr yn ddiogel. Felly, a wnewch chi edrych ar fesurau dros dro yn y cyfamser nes inni gyrraedd y sefyllfa lle mae gennym ni system drafnidiaeth gyhoeddus effeithiol ac y gallwn ni weld wedyn y gostyngiad yn nifer y cerbydau? I lawer o bobl mewn llawer o gymunedau, y cerbyd ar hyn o bryd, ac efallai hyd y gellir rhagweld, yw'r unig ffordd y gallant gyrraedd y gwaith neu'r unig ffordd y gallant gyrraedd eu lleoedd hanfodol. Ond mae angen i ni ystyried y ddwy agwedd: symud i un cyfeiriad, ond, ar yr un pryd, cefnogi'r symudiad hwnnw drwy gynnig dewisiadau amgen dros dro.
Cytunaf â hynny. Mae'n amlwg y bydd hyn—wyddoch chi, mae wedi cymryd degawdau inni gyrraedd y sefyllfa hon ac mae'n mynd i gymryd amser i newid y diwylliant ac i roi'r buddsoddiad ar waith ac ailgydbwyso'r buddsoddiad tuag at fesurau sy'n annog pobl i beidio â defnyddio ceir ac annog newid mewn dulliau teithio. Felly, ni fydd hyn yn digwydd drwy glicio bysedd.
Gadewch i ni fod yn glir ynghylch beth yw'r pŵer hwn. Nid yw pawb sy'n parcio ar y palmant yn gwneud hynny am nad oes ganddynt ddewis arall. Mae rhai pobl yn parcio ar y palmant am eu bod yn anystyriol, oherwydd nid ydynt wedi ystyried sut beth yw bod yn fam â chadair wthio neu rywun rhannol ddall nad yw'n gallu mynd o le i le. Ac wrth i ni ddod yn fwy dibynnol ar geir, mae llai o bobl yn gwybod sut beth yw bod heb gar i fynd ar daith heb gymorth neb arall.
Ac mae hwn hefyd yn fater o dlodi. Gwyddom fod chwarter y bobl yn yr 20 y cant o'r aelwydydd tlotaf, yn or-ddibynnol ar gludiant ceir. Mae'n ddrwg gennyf, mae hynny'n anghywir, Llywydd. Yn yr 20 y cant isaf o aelwydydd, mae pobl yn gwario tua chwarter eu hincwm ar gynnal ceir. Ac, yn gynyddol, rydym yn gorfodi pobl nad ydynt yn gallu ei fforddio i gael car, oherwydd ein bod wedi creu amgylchedd lle mae hynny'n hanfodol er mwyn gallu mynd o le i le. Rhaid ystyried hyn fel rhan o ymdrech ehangach i newid hynny, drwy fynd i'r afael â'r tlodi trafnidiaeth hwn, i fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau. Rydym yn dweud wrth bobl ar incwm is yn y bôn, 'Cewch gadw at wasanaethau bysiau o safon isel' neu, 'Cewch gerdded ar strydoedd anniben'.
Rhan o'n hymyriad yw creu cymdeithas decach yn ogystal â chymdeithas sy'n mynd i'r afael â melltith llygredd aer, gordewdra a newid yn yr hinsawdd. Felly, ynglŷn â sylw David Rees: mae'n bwysig iawn ein bod yn gwneud hyn yn briodol ac yn sensitif i gael pobl ar ein hochr ni. Nid mesur yw hwn sydd wedi'i gynllunio i gosbi pobl. Mae'n rhaid i ni helpu pobl i wneud y newid, ac mae hynny'n gofyn am ymyriadau lluosog. Ond, hefyd, mae angen i ni atgoffa pobl, os ydynt yn gwneud pethau sy'n wrthgymdeithasol ac yn peri anfantais i'r rhai sy'n agored i niwed, yna mae cosb i'w thalu.
Diolch, Gweinidog. Byddwn nawr yn cael seibiant byr i ganiatáu newid aelodau yn y Siambr.
Croeso nôl.