Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:41 pm ar 14 Hydref 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 1:41, 14 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Lywydd. Yfory, Weinidog, wrth gwrs, yw'r terfyn amser a bennwyd gan Boris Johnson ar gyfer cytuno gyda'r UE ar gytundeb masnach ar ôl Brexit, ac ar ôl hynny, dywed fod y DU yn barod i roi’r gorau i’r trafodaethau, gan ein gadael gydag anhrefn ‘dim cytundeb’, a gwireddu hunllefau gwaethaf y diwydiant amaethyddol yma yng Nghymru wrth gwrs. Ac mae pob un ohonom yn ymwybodol o’r ffigurau; mae 82 y cant o allforion cig eidion o'r DU yn mynd i Ewrop; 78 y cant o allforion cynhyrchion llaeth; a 90 y cant o allforion cig oen yn mynd i'r UE ar hyn o bryd. Nawr, mae adroddiad gan Ysgol Economeg Llundain wedi nodi, hyd yn oed gyda chytundeb masnach rydd erbyn diwedd eleni, y bydd y fasnach fwyd rhwng y DU a’r UE yn cael ei chwalu, yn bennaf oherwydd rhwystrau nad ydynt yn dariffau. Felly, a allwch amlinellu i ni pa gynlluniau wrth gefn y mae Llywodraeth Cymru yn eu rhoi ar waith i liniaru’r difrod ‘dim cytundeb’ difrifol sydd ar y gorwel, ac yn benodol, y camau rydych yn bwriadu eu cymryd mewn perthynas â'r sectorau cig eidion, llaeth a defaid yng Nghymru?