Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 14 Hydref 2020.
Cytunaf yn llwyr â chi ynglŷn â'r siom a fynegwyd. Mae wedi bod yn ddiddorol iawn gweld Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru ac Undeb Amaethwyr Cymru yn bod yn hynod feirniadol o Lywodraeth y DU mewn perthynas â'r pleidleisiau a gynhaliwyd nos Lun ar Fil Amaethyddiaeth y DU. Rydym am weld ein safonau uchel yn cael eu cynnal; cawsant gyfle i droi hynny’n ddeddfwriaeth nos Lun, ac ni wnaethant hynny. Rwyf wedi dweud yn glir iawn bob amser y bydd gennym ein Bil amaethyddol Cymreig pwrpasol ein hunain. Rwy’n dal yn bwriadu cyflwyno Papur Gwyn cyn diwedd y flwyddyn galendr hon mewn perthynas â hynny, ac rydym am wneud popeth a allwn i gynnal y safonau uchel presennol mewn perthynas â diogelwch bwyd a lles anifeiliaid. Rydym yn gweithio'n galed iawn ar y fframweithiau—fe fyddwch yn ymwybodol o'r holl fframweithiau sy'n cael eu llunio ar y cyd ar hyn o bryd—mewn perthynas â'r mater hwn hefyd.