Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 14 Hydref 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 1:42, 14 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

Rwy'n falch eich bod yn rhannu fy mhryderon. Nid wyf yn siŵr a yw hynny'n rhoi'r sicrwydd roeddwn yn chwilio amdano. Ni chlywais unrhyw fanylion penodol, heblaw am ‘drafodaethau parhaus’. Nawr, 12 wythnos sydd i fynd, wrth gwrs, tan y sefyllfa bosibl hon, ac mae angen i'ch Llywodraeth fod yn barod i gymryd camau gweithredu ymhen 12 wythnos. Roeddwn yn gobeithio clywed, efallai, sut roeddech yn bwriadu cynyddu capasiti storio oer, i ymdrin â chynnyrch dros ben na fydd yn cael ei allforio mwyach. Roeddwn yn gobeithio y byddech efallai'n dweud wrthym sut y byddai caffael cyhoeddus yn camu i'r adwy er mwyn ceisio amsugno mwy o gynnyrch domestig. Efallai y gallech ddweud wrthym pa drafodaethau rydych yn eu cael gyda Llywodraeth y DU i sicrhau nad yw'r risgiau sy’n deillio o ‘ddim cytundeb’ yn cael eu gwaethygu gan gytundebau masnach gydag Awstralia a Seland Newydd a fyddai’n caniatáu ar gyfer cynnydd yn y cwota, o bosibl, ar gyfer allforion cig oen a ddaw i mewn i'r DU o'r gwledydd hynny.

Hefyd, gwelsom adroddiadau yr wythnos diwethaf y gallai 2 filiwn o garcasau cig oen yn y DU fynd yn wastraff o dan Brexit ‘dim cytundeb’. A allwch ddweud wrthym, Weinidog, p’un a yw eich Llywodraeth yn awr yn cynllunio i ymdrin â’r miloedd ar filoedd o dunelli o wastraff bwyd ychwanegol y bydd yn rhaid i chi ymdrin ag ef o ganlyniad i Brexit ‘dim cytundeb’ posibl?