Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 14 Hydref 2020.
Weinidog, yn union fel yn RhCT, mae adran iechyd yr amgylchedd a staff diogelu'r cyhoedd yn Nhorfaen wedi bod yn gweithio'n hynod o galed, gan gynnal hapwiriadau mewn archfarchnadoedd yn y fwrdeistref. A wnewch chi ymuno â mi i longyfarch a chanmol y tîm diogelu’r cyhoedd am eu gwaith caled? Ond a wnewch chi ddyblu eich ymdrechion i bwysleisio wrth yr archfarchnadoedd, ar lefel yr uwch reolwyr, fod ganddynt gyfrifoldeb absoliwt i gadw siopwyr a'u staff yn ddiogel, ac i wneud popeth yn eu gallu i nodi ac i orfodi mesurau cadw pellter cymdeithasol?