1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru ar 14 Hydref 2020.
2. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gydag archfarchnadoedd i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â rheolau COVID-19? OQ55678
Rwyf wedi cael trafodaethau rheolaidd gyda'r holl brif fanwerthwyr drwy gydol y pandemig, ac wedi trafod y materion sy'n ymwneud â chadw pellter cymdeithasol yn rheolaidd. Mae'r archfarchnadoedd yn ymwybodol iawn o'r rheoliadau sydd ar waith yma yng Nghymru ac y bydd awdurdodau lleol yn cymryd camau gorfodi os oes angen.
Ar ôl i mi ysgrifennu atoch i gychwyn ar ran etholwyr ynglŷn â hyn, dywedasoch eich bod yn cael cyfarfodydd rheolaidd a’ch bod wedi cael sicrwydd fod eu polisïau’n parhau i gynnal mesurau cadw pellter cymdeithasol ym mhob siop yn unol â pholisi Llywodraeth Cymru. Ymatebodd etholwyr i'ch llythyr, gan nodi nad oedd hynny'n wir yn y tair siop roeddent wedi ymweld â hwy yn yr Wyddgrug, ac nad oedd yn wir yn eu siop leol ym Mwcle, yn yr achos hwn. Pan ofynasant i'r staff ynglŷn â’r peth, dywedwyd wrthynt nad oedd gofyn neu nad oeddent yn cael dweud unrhyw beth wrth bobl nad oeddent yn gwisgo masgiau. Dywedodd un arall eu bod wedi cael llythyr gan brif swyddfa archfarchnad, a oedd yn nodi'n glir eu bod wedi cynghori staff i beidio â herio pobl am beidio â gwisgo masgiau, ac nid oedd hynny’n cyd-fynd neu'n cytuno â'r ohebiaeth a anfonwyd gennych. Yn eich ateb ddoe, dywedasoch y dylai staff ofyn i bobl nad ydynt yn gwisgo masgiau wneud hynny, gan gydnabod y rheini sydd wedi cael esemptiad, gan ychwanegu, os oes gan y cyhoedd unrhyw bryderon, y dylent gysylltu â’u hawdurdod lleol. Sut rydych yn ymateb, felly, i wybodaeth fod y mecanwaith i awdurdodau lleol roi gwybod am bryderon yn gymhleth, gydag amrywiol adrannau safonau masnach ledled y DU yn gorfod cysylltu â gwahanol gadwyni siopau penodol, ac adrannau safonau masnach lleol felly’n bwydo yn ôl i'r adran safonau masnach berthnasol ar gyfer prif swyddfa’r siop honno, a phrif swyddfeydd yn ymdrin ag amrywiadau yn y ddeddfwriaeth yn y pedair gwlad?
Diolch. Rwy'n parhau i gyfarfod yn rheolaidd â'r prif fanwerthwyr; rwyf i fod i gyfarfod â hwy eto'r wythnos nesaf. Mewn perthynas â gorchuddion wyneb a chadw pellter cymdeithasol, mae'r mesurau’n dal i fod ar waith yn yr holl siopau—ar wahanol ffurfiau, ond yn sicr, mae pob un ohonynt yn dal i fod yno. Fel y gwyddoch, mae’n orfodol i’r cyhoedd a gweithwyr siopau wisgo gorchuddion wyneb mewn siopau ac mewn mannau cyhoeddus dan do, ac mae'r canllawiau ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Yn amlwg, mae gan y cyhoedd gyfrifoldeb hefyd mewn perthynas â chadw pellter cymdeithasol, a byddem yn annog y cyhoedd i gydweithio i’r graddau mwyaf posibl mewn perthynas â hynny. A hyd yn oed pan ydych yn gwisgo gorchudd wyneb, mae'n bwysig iawn eich bod yn parhau i gadw pellter cymdeithasol o 2m cymaint ag y gallwch.
Mewn perthynas â'ch cwestiwn ynghylch ffyrdd cymhleth o roi gwybod am achosion o dorri’r rheolau, yn sicr, nid wyf wedi derbyn unrhyw gwynion ynglŷn â hynny. Gwn am awdurdodau lleol sydd wedi cyflwyno hysbysiadau gorfodi mewn amrywiaeth o archfarchnadoedd ledled Cymru. Ac unwaith eto, credaf fod hyn wedi bod yn ddidrafferth iawn. Nid wyf wedi cael unrhyw gwynion ynglŷn â hynny. Os hoffech ysgrifennu ataf yn benodol mewn perthynas â'r archfarchnadoedd y cyfeirioch chi atynt, rwy’n fwy na pharod i edrych ar y mater.
Weinidog, sawl wythnos yn ôl, roeddem yn poeni am archfarchnadoedd yn ardal Rhondda Cynon Taf gan fod y safonau'n gostwng. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, sydd wedi cyflogi oddeutu 20 o swyddogion gorfodi, rwy’n credu, wedi bod yn cyfarfod â'r archfarchnadoedd ac wedi ymweld â hwy. A gallaf ddweud, yn ardal Rhondda Cynon Taf ac ardal Pontypridd, fod safonau disgyblaeth yn yr archfarchnadoedd yn uchel iawn. A chredaf fod pob un ohonom yn falch iawn gyda hyn, ynghyd â'r ffaith bod yr archfarchnadoedd hyd yn oed yn awr yn rhoi brechlynnau ffliw mewn modd diogel iawn. Mae’r hyn yr hoffwn ei ofyn, serch hynny, yn ymwneud â chadw’r adnoddau sydd eu hangen ar lywodraeth leol i sicrhau bod y lefel hon o orfodaeth a monitro’n parhau drwy gydol yr ychydig fisoedd nesaf, rhywbeth sy'n mynd i fod yn angenrheidiol, yn fy marn i. A ydych wedi cael unrhyw drafodaethau gyda'r Gweinidog Cyllid ynghylch yr adnoddau y bydd eu hangen ar lywodraeth leol er mwyn sicrhau nad ydym yn llithro'n ôl a’n bod yn parhau i gynnal y lefel o fonitro a gorfodi sy'n cael ei chynnal ar hyd o bryd?
Diolch. Rwy’n ymwybodol o’r rôl ragweithiol y mae Rhondda Cynon Taf wedi'i mabwysiadu mewn perthynas â’r mater hwn. Nid wyf wedi cael unrhyw drafodaethau uniongyrchol gyda’r Gweinidog Cyllid mewn perthynas â hyn, ond rwy’n siŵr fod fy nghyd-Aelod, Julie James, yn sicr, wedi gwneud hynny, oherwydd fel y dywedwch, mae’n bwysig iawn eu bod yn gallu cynnal y lefel hon o orfodaeth. Fe fyddwch yn ymwybodol o'r cyllid sylweddol y mae Llywodraeth Cymru wedi'i roi i awdurdodau lleol, am amryw resymau, yn ystod pandemig COVID-19.
Weinidog, yn union fel yn RhCT, mae adran iechyd yr amgylchedd a staff diogelu'r cyhoedd yn Nhorfaen wedi bod yn gweithio'n hynod o galed, gan gynnal hapwiriadau mewn archfarchnadoedd yn y fwrdeistref. A wnewch chi ymuno â mi i longyfarch a chanmol y tîm diogelu’r cyhoedd am eu gwaith caled? Ond a wnewch chi ddyblu eich ymdrechion i bwysleisio wrth yr archfarchnadoedd, ar lefel yr uwch reolwyr, fod ganddynt gyfrifoldeb absoliwt i gadw siopwyr a'u staff yn ddiogel, ac i wneud popeth yn eu gallu i nodi ac i orfodi mesurau cadw pellter cymdeithasol?
Diolch. O ran pwynt cyntaf eich cwestiwn, credaf ei bod yn wych fod Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen wedi bod yn cynnal hapwiriadau. Credaf ein bod wedi gofyn am gryn dipyn gan ein swyddogion iechyd yr amgylchedd ledled Cymru yn ystod y pandemig, a chredaf ei bod yn deg dweud bod awdurdodau lleol wedi ysgwyddo’r cyfrifoldeb mewn perthynas â hynny.
Yn fy nghyfarfodydd rheolaidd gyda'r archfarchnadoedd, yn sicr, rwyf bob amser yn ailbwysleisio'r angen iddynt gymryd cyfrifoldeb am y siopwyr, ac maent yn fwy na pharod i wneud hynny. Fel y dywedais mewn ateb blaenorol, mae'r mesurau cadw pellter cymdeithasol yn dal yno, mae masgiau wyneb yn amlwg yn orfodol, a chredaf fod yn rhaid i bob un ohonom dderbyn bod cyfrifoldeb arnom ar y cyd i gymryd camau ac i addasu ein hymddygiad a'n cyfrifoldeb wrth siopa mewn archfarchnadoedd.
Yn anffodus, rwyf hefyd wedi cael cryn dipyn o ohebiaeth ynghylch cynnydd yn yr achosion o ddifrïo perchnogion siopau a chynorthwywyr mewn siopau, sy’n rhywbeth nad ydym yn dymuno’i weld wrth gwrs. Ac rwyf wedi bod yn gohebu gyda'r heddlu ynglŷn â'r mater hwn hefyd.