Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 14 Hydref 2020.
Cyn i mi alw ar Nick Ramsay, hoffwn ddweud fy mod wedi sylwi ar duedd gynyddol i hunanhyrwyddo ar gefndiroedd Zoom amryw Aelodau. Credaf y gallaf weld o leiaf dair enghraifft y prynhawn yma ar gefndiroedd Zoom. Felly, byddaf yn anfon canllawiau ar y mater hwn at yr holl Aelodau, gan gofio, wrth gwrs, nad oes gan Aelodau yn y Siambr gyfle i hunanhyrwyddo ar unrhyw gefndiroedd sydd ganddynt hwy. Rwy'n ceisio trin pob Aelod yn gyfartal bob amser, boed hynny dros Zoom neu yn y Siambr. Nick Ramsay.