Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:00 pm ar 14 Hydref 2020.
O dan eich cynlluniau, bydd angen i ffermwyr wneud newidiadau i'w modelau busnes, gan gynhyrchu mwy a meddwl am gynhyrchion gwahanol gyda llai, a bydd Brexit yn dod â bygythiadau a chyfleoedd hefyd. Sut mae eich adran chi yn gweithio gyda cholegau a phrifysgolion i sicrhau bod ein hentrepreneuriaid ifanc Cymraeg eu hiaith yn gweld ffermio fel sector cyffrous, modern a moesegol i fynd iddo fel y gallant, yn eu tro, atal gweithlu sy'n siarad Cymraeg rhag llithro oddi ar y tir?