Garddwriaeth

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 14 Hydref 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 1:58, 14 Hydref 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch. Yn sicr, roeddem yn bryderus iawn na allai gweithwyr amaethyddol tymhorol ddod i'r DU yn ystod pandemig COVID-19. Ar y cychwyn cyntaf, ym mis Ebrill yn ôl pob tebyg, roeddwn yn rhan o drafodaethau wythnosol gyda Llywodraeth y DU ynghylch y mater hwn. Yn sicr, wrth inni barhau drwy'r flwyddyn, fel y dywedwch, nid ydym yn sôn am gasglwyr ffrwythau na chasglwyr llysiau yn unig; rydym yn dibynnu ar weithwyr tymhorol eraill hefyd. Maent yn sgyrsiau rwy'n eu cael gyda Llywodraeth y DU, ac rwy'n siŵr fod Gweinidogion eraill yn eu cael hefyd.