Bil Amaeth i Gymru

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 14 Hydref 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 1:59, 14 Hydref 2020

Diolch am eich ateb. Byddwch chi, dwi'n gwybod, yn ymwybodol o'r adroddiad a gyhoeddwyd gan Cyswllt Ffermio, 'Iaith y Pridd', yn ddiweddar, ac rŷn ni'n gwybod am ffigurau'r cyfrifiad, sy'n dangos bod 43 y cant o weithwyr amaethyddol yn siarad Cymraeg o gymharu ag 19 y cant o'r boblogaeth yn gyffredinol. Nawr, wrth gwrs, o dan Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, mae'r iaith Gymraeg a diwylliant yn biler sydd yn sefyll ochr yn ochr gyda phileri cynaliadwyedd economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol. Gyda hynny mewn golwg, allwch chi ddweud wrthym ni a ddylai taliadau am nwyddau cyhoeddus, felly, gael eu hestyn i fuddsoddi yng nghynaliadwyedd yr iaith Gymraeg mewn ardaloedd gwledig?